![]() |
education for sustainable development and global citizenship |
| addysg
ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang a datblygu cynaliadwy |
Global Development Engagement Fund Scrapped in DFID Review Following the review of its work that followed the election of the coalition government and the appointment of Andrew Mitchell as the new DFID Minister, Development Education in Wales, and throughout the UK, received a major blow in the shape of the scrapping of the Global Learning Engagement Fund. The Global Learning Engagement Fund was intended to partly replace the DAF Major and Mini Grants fund and to provide funding for work in the informal sector. The scrapping of this fund will mean that the key potential source of funding for organisations involved in youth and community work will be lost. This will inevitably have a serious effect on organisations in Wales involved in the delivery of ESDGC. Read more...
Recycling, it's an Art He’s been named in the Independent as one of the 50 greatest cultural figures shaping the continent of Africa and his work has graced venues such as the Hayward Gallery in London and the Centre Pompidou in Paris. Now, The Oriel Mostyn Gallery in Llandudno is giving its visitors an opportunity to peruse an unique and challenging exhibition from renowned Nigerian artist Dilomprizulike. Born in 1960 in Enugu, Nigeria, Dilomprizulike, the self-styled ‘Junkman From Afrika’ has taken the skills that he honed while creating his Junkyard Museum of Awkward Things in Lagos and constructed a version that’s unique to its locality in Mostyn, north Wales. Having collected recyclable waste from disposal sites in the Llandudno vicinity he set about creating an installation that is a kind of ‘artistic hospital', where discarded objects have been resuscitated and given new life. As well as addressing ecological issues, The Junkyard Museum of Awkward Things is a reflection on people's sense of rejection by, and isolation in, a consumer society that values disposability. The Junkyard Museum will remain at the Mostyn until Saturday 16th October. For more information, please visit http://www.mostyn.org/.
Nominate Your Green Heroes Now! Time is running out for submissions to be considered for inclusion on this year’s Wales’ Green List. Friday the 17th of September is the final deadline for nominees to the prestigious list. The Green List isn’t just about the obvious 'green leaders', but the individuals who are making a difference in their own way. It is a way of endorsing inspirational cases of individual endeavours towards a sustainable future. The nominees can be individual teachers, young people, youth workers, or a small teacher -pupil team. To find out more or to submit a nomination, please visit http://www.sustainwales.com/home/en/campaigns_greenlist.aspx
So Long Sophie! Our congratulations and fond farewells to Sophie Cooper who is going on maternity leave. Good luck and see you next year! There is no immediate replacement but please watch this space for news of a new recruit!
Young ESDGC Peer-to-Peer Champions in Neath Port Talbot Over May and June of this year Sophie and Hanna ran 3 days of ‘training for peer trainers’ course at the Discovery Centre, Margam Park. This ESDGC Peer-to-Peer Champions training course was developed and delivered for Neath Port Talbot Local Authority as a SWAMWAC pilot project Port Talbot. The aims of the course were:
This training course was overall a fantastic experience for the young ESDGC trainees and Cyfanfyd trainers alike. The young people showed an amazing amount of incite into what it means to be a Champion for SD and GC, and they were bursting with creativity in ideas for how to excite and enthuse other young people. For more information contact dominic@cyfanfyd.org.uk or hanna@cyfanfyd.org.uk
Global Youth Work Network Event - On 21st July a Cyfanfyd Global Youth Work Network event was held at the Temple of Peace in Cardiff. The purpose of the event was for participants to get ideas for how to engage marginalised young people in learning about global citizenship and sustainable development (ESDGC). Three practitioners with expertise in engaging marginalised groups shared their experiences and the whole group discussed blocks to engagement and strategies for overcoming these. For more information on the day visit... |
|
|||||
The E-Bulletin provides a monthly update on the activities of Cyfanfyd, its member organisations and developments in ESDGC in Wales. You are welcome to send us information and news by the deadline of the 19th of the month for inclusion in the next month’s bulletin. |
||||||
Diddymu'r Gronfa Ymgysylltu â Dysgu Byd-eang yn Adolygiad DFID Yn sgîl yr adolygiad o'i waith yn dilyn ffurfio'r llywodraeth glymblaid ar ôl yr etholiad, a phenodi Andrew Mitchell yn Weinidog newydd dros Ddatblygu Rhyngwladol, fe ddioddefodd y sector Addysg Datblygu yng Nghymru, a ledled y DU, ergyd drom pan ddiddymwyd y Gronfa Ymgysylltu â Dysgu Byd-eang. Roedd y Gronfa Ymgysylltu â Dysgu Byd-eang wedi'i bwriadu'n rhannol i ddisodli Grantiau Mawr a Grantiau Bychain y Gronfa Ymwybyddiaeth o Ddatblygu a hefyd i ddarparu cyllid ar gyfer gwaith yn y sector anffurfiol. Bydd diddymu'r gronfa hon yn golygu colli'r ddarpar ffynhonnell gyllido allweddol ar gyfer mudiadau a sefydliadau sy'n gysylltiedig â gwaith ieuenctid a gwaith cymunedol. Mae'n anochel y bydd hyn yn dwyn effaith ddifrifol ar fudiadau a sefydliadau yng Nghymru sy'n gysylltiedig â chyflwyno ADCDF. Darllen mwy...
Ailgylchu; mae'n Grefft Fe’i henwyd ym mhapur newydd yr Independent fel un o’r 50 ffigwr diwylliannol mwyaf sydd wedi rhoi lliw a llun i gyfandir Affrica ac mae ei waith wedi harddu lleoliadau megis Oriel Hayward yn Llundain a Centre Pompidou ym Mharis. Yn awr, mae Oriel Mostyn yn Llandudno’n rhoi cyfle i’w hymwelwyr weld arddangosfa unigryw a heriol gan yr artist clodfawr o Nigeria, Dilomprizulike. Ac yntau wedi’i eni ym 1960 yn Enugu, Nigeria, mae Dilomprizulike, yr hunanhonedig ‘Ddyn Jync o Affrica’, wedi defnyddio’r sgiliau a hogodd wrth greu ei Amgueddfa Iard Jync o Bethau Lletchwith yn Lagos i greu fersiwn sy’n unigryw i’w lleoliad ym Mostyn, Gogledd Cymru. Ar ôl casglu gwastraff ailgylchadwy o safleoedd gwaredu gwastraff yng nghyffiniau Llandudno aeth ati i greu gosodiad sy’n rhyw fath o ‘ysbyty artistig’, lle mae gwrthrychau a adawyd wedi cael eu hatgyfodi ac wedi cael bywyd newydd. Yn ogystal â mynd i’r afael â materion ecolegol, mae’r Amgueddfa Iard Jync o Bethau Lletchwith yn fyfyrdod ar deimlad pobl o gael eu gwrthod gan, a’u hynysu mewn, cymdeithas ddefnyddwyr sy’n gwerthfawrogi tafladwyedd. Bydd yr Amgueddfa Iard Jync yn aros yn Oriel Mostyn tan ddydd Sadwrn 16 Hydref. I gael mwy o wybodaeth, gweler
Enwebwch Eich Arwyr Gwyrdd Yn Awr! Ychydig iawn o amser sydd ar ôl i enwebiadau gael eu hystyried ar gyfer Rhestr Werdd Cymru eleni. Dydd Gwener 17 Medi yw’r dyddiad cau ar gyfer enwebu pobl i gael eu cynnwys ar y rhestr glodfawr. Nid dim ond yr ‘arweinwyr gwyrdd’ amlwg sy’n cael eu cynnwys ar y Rhestr Werdd, ond yr unigolion hynny sy’n gwneud gwahaniaeth yn eu ffordd hwy eu hunain. Mae’n ffordd o gymeradwyo achosion ysbrydoledig o ymdrechion gan unigolion i greu dyfodol cynaliadwy. Gall yr enwebeion fod yn athrawon, pobl ifanc, neu weithwyr ieuenctid unigol, neu’n dîm bach sy’n cynnwys athro/athrawes a disgyblion. I gael gwybod mwy neu i enwebu rhywun, gwelerhttp://www.sustainwales.com/home/en/campaigns_greenlist.aspx
Hwyl am y Tro, Sophie! Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i Sophie Cooper sy’n cychwyn cyfnod o absenoldeb mamolaeth. Pob hwyl ac fe welwn ni di flwyddyn nesaf! Nid oes unrhyw un wedi’i benodi yn ei lle ar hyn o bryd ond cadwch olwg ar ein cylchlythyron i gael newyddion am recriwt newydd
Hyrwyddwyr Ifanc ADCDF ymhlith Cyfoedion yng Nghastell-nedd Port Talbot Yn ystod mis Mai a Mehefin eleni fe gynhaliodd Sophie a Hanna 3 diwrnod o 'hyfforddiant i hyfforddwyr cyfoedion' yn y Ganolfan Ddarganfod, Parc Margam. Cafodd y cwrs hyfforddi hwn ar gyfer Hyrwyddwyr ADCDF ymhlith Cyfoedion ei ddatblygu a'i gyflwyno ar gyfer Awdurdod Lleol Castell-nedd Port Talbot fel prosiect peilot gan SWAMWAC. Roedd nodau'r cwrs fel a ganlyn :
Roedd y cwrs hyfforddi yma ar y cyfan yn brofiad gwych i’r bobl ifanc a gafodd hyfforddiant mewn ADCDF a hyfforddwyr Cyfanfyd fel ei gilydd. Dangosodd y bobl ifanc ddealltwriaeth ryfeddol am yr hyn y mae bod yn Hyrwyddwr DC a DF yn ei olygu, ac roeddent yn byrlymu â chreadigrwydd wrth gynnig syniadau am ffyrdd o gyffroi ac ennyn brwdfrydedd pobl ifanc eraill. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â dominic@cyfanfyd.org.uk or hanna@cyfanfyd.org.uk
Digwyddiad gan y Rhwydwaith Gwaith Ieuenctid Byd-eang – 'Ar Gyrion ADCDF: Cynnwys Pobl Ifanc Sydd Wedi'u Hymyleiddio ac o Grwpiau Amrywiol mewn Materion Cynaliadwyedd Byd-eang' Ar yr 21ain o Orffennaf cynhaliwyd digwyddiad gan Rwydwaith Gwaith Ieuenctid Byd-eang Cyfanfyd yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd. Pwrpas y digwyddiad oedd bod y cyfranogwyr yn cael syniadau am ffyrdd o gynnwys pobl ifanc sydd wedi’u hymyleiddio mewn addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd eang (ADCDF). Bu tri ymarferydd a chanddynt brofiad o gynnwys grwpiau wedi’u hymyleiddio’n rhannu’u profiadau a bu’r grŵp cyfan yn trafod y rhwystrau i gynnwys y grwpiau a strategaethau ar gyfer goresgyn y rhain. I gael mwy o wybodaeth am y diwrnod gweler... |
|
|||||
Mae’r E-fwletin yn rhoi gwybodaeth fisol am weithgareddau Cyfanfyd, ei aelod-sefydliadau a datblygiadau ADCDF yng Nghymru. Mae croeso i chi anfon gwybodaeth a newyddion erbyn y 19eg o’r mis i’w gynnwys ym mwletin y mis canlynol. |
||||||
You’re
receiving this newsletter because you are on Cyfanfyd’s Email list.
HTML Newsletter Design and Distribution by Seren-IT