For a better view, open this email in your browser.
English - Cymraeg
![]() |
education for sustainable development and global citizenship |
| addysg
ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang a datblygu cynaliadwy |
Douglas Alexander visits the Somali Integration Society (SIS) and Cyfanfyd
The SIS has received a £10,000 Mini Grants from the Department for International Development (DFID) Development Awareness Fund Mini Grants programme to help young people specifically meet the challenges they face both as members of the Somali community in Wales and as young people growing up in a globalised world. Douglas Alexander also met with representatives from Cyfanfyd to discuss its Development Awareness funded project, which focuses on increasing the capacity of black and minority ethnic orgnaisations and minority faiths groups to engage with development awareness and the millenium developemnt goals. Read more...
DFID DAF Mini Grants Programme 2001–11: Project Funding Opportunities for ESDGC in Wales The Department for International Development (DFID) provides support for the activities of organisations working in development awareness through this funding programme, which is managed in Wales by Cyfanfyd. Development Awareness, or Development Education, is very similar in many aspects to Education for Sustainable Development and Global Citizenship and organisations working in this field in Wales may wish to submit project proposals. Guidelines for this funding programme are now available on the DFID Website. Completed applications must be returned by Friday October 30th 2009. To give potential applicants information and advice on how to apply to the fund, Cyfanfyd will be running two seminars in September 2009:
Thursday 17th September, Temple of Peace, Cardiff
Reports of the Building Support for Development Review: DAF and Mini Grants The reports of these reviews are now available. They contain a series of recommendations to DFID on how they should change their approach and programmes to build development support. DFID has now opened a public consultation on the recommendations in the review reports.
This is open for 12 weeks, until 23 October 2009. Cyfanfyd will be collating a collective response to the review recommendations, so if you would like your comments to be included in this, send them in to Dominic by Friday 9th October.
Welsh Assembly Government, The Welsh Assembly Government is currently consulting on the Climate Change Programme of Action, the second and more detailed consultation helping to shape the Climate Change Strategy.
The consultation ends on the 2nd October 2009.
Slappingskins "Slappingskins" was created by Aaron Meli in summer 2002.
Schools Sector News The main focus of work is the DAF project intended to increase the capacity of BME organisations and faith groups in Wales to engage in ESDGC. Following interest expressed during the initial roundtable event back in the Spring, a second roundtable will take place on 8 October at the Temple of Peace. This will provide further opportunity for organisations to ‘get to know each other’ and to begin to identify training needs with regard to ESDGC. Organisations involved in the project are invited to attend the Introduction to ESDGC training that will now take place on 22 October. If you represent a BME organisation or minority faith group and would like to know more about this project please contact liz@cyfanfyd.org.uk
Konflux Theatre Konflux Theatre’s specialist P4C (philosophy for children) workshop Stone Soup will be going on tour throughout November and December this year. Stone Soup is a day-long interactive drama session for KS2 groups based on a traditional tale for up to 30 children. The workshop engages children with ideas surrounding the P4C agenda which encourages children to question what kind of role they play in society and within their community. Stone Soup provides an inventive stimulus for these issues to be looked at by children as young as Year 4 through the security of working in ‘role’, using ‘theatre’ as a stimulus. Read more … (pdf 3.8Mb)
Youth Work Sector News The Global Youth Work Project has been focusing on completing its contract for the Welsh Assembly Government to produce a ‘Toolkit for ESDGC in Youth Work’. The Toolkit includes: what youth workers need to do ESDGC, how to measure progress in ESDGC, support and resources for ESDGC, case study examples of ESDGC in youth work from throughout Wales, as well as some easy-to-use introduction to ESDGC in youth work activity ideas. This Toolkit has been submitted to the Welsh Assembly Government and we are awaiting news of when this resource will be produced and disseminated. In May 2009, the Development Education Association (DEA) based in London published a research report carried out by Here and There Consultancy into the current state of the youth sector and global youth work. As a result of this the DEA provided a briefing to DFID, comprising both background information and policy recommendations, to inform the development of their support for global youth work. |
|
|||
Douglas Alexander yn ymweld â Chymdeithas Integreiddio Somaliaid a Cyfanfyd
Derbyniodd Cymdeithas Integreiddio Somaliaid Grant Bychan o £10,000 o raglen Grantiau Bychain Cronfa Ymwybyddiaeth o Ddatblygu’r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol (DFID) er mwyn helpu pobl ifanc yn benodol i gwrdd â’r heriau y maent yn eu hwynebu fel aelodau o’r gymuned Somaliaidd yng Nghymru ac fel pobl ifanc yn tyfu mewn byd globaleiddiedig. Cyfarfu Douglas Alexander hefyd â chynrychiolwyr o Cyfanfyd i drafod y prosiect gan Cyfanfyd a ariennir gan y Gronfa Ymwybyddiaeth o Ddatblygu, sy’n canolbwyntio ar gynyddu gallu mudiadau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a grwpiau ffydd lleiafrifol i ymgysylltu ag ymwybyddiaeth o ddatblygu a nodau datblygu’r mileniwm.
Rhaglen Grantiau Bychain Cronfa Ymwybyddiaeth o Ddatblygu DFID Mae’r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol (DFID) yn rhoi cymorth i weithgareddau gan fudiadau sy’n gweithio ym maes ymwybyddiaeth o ddatblygu trwy’i rhaglen ariannu, a reolir yng Nghymru gan Cyfanfyd. Mae Ymwybyddiaeth o Ddatblygu, neu Addysg Ddatblygu, yn debyg iawn mewn sawl ffordd i Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang ac efallai y bydd mudiadau sy’n gweithio yn y maes hwn yng Nghymru’n dymuno cyflwyno cynigion am brosiectau. Mae canllawiau ar gyfer y rhaglen ariannu hon ar gael yn awr ar wefan DFID. Mae’n rhaid dychwelyd ceisiadau wedi’u cwblhau erbyn dydd Gwener Hydref 30ain 2009. Er mwyn rhoi gwybodaeth a chyngor i ddarpar ymgeiswyr i’w cynorthwyo i gyflwyno cais i’r gronfa, bydd Cyfanfyd yn cynnal dwy seminar ym mis Medi 2009: Dydd Iau 17eg o Fedi, Y Deml Heddwch, Caerdydd (Bydd y seminarau’n rhedeg o 10.30am tan 3.30pm a bydd egwyl ar gyfer cinio.) Cost: Aelodau Cyfanfyd £10 / Mudiadau neu unigolion eraill £15 I gael mwy o fanylion am y cyrsiau hyn cysylltwch â Cyfanfyd: 029 2066 8999 a info@cyfanfyd.org.uk
Adroddiadau ar yr Adolygiadau o Waith i Ennyn Cefnogaeth i Ddatblygu: Y Gronfa Ymwybyddiaeth o Ddatblygu a Grantiau Bychain Mae’r adroddiadau ar yr adolygiadau hyn bellach ar gael. Maent yn cynnwys cyfres o argymhellion i’r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol o ran sut y dylai newid ei dull a’i rhaglenni i ennyn cefnogaeth i ddatblygu.
Mae’r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol bellach wedi cychwyn ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch yr argymhellion yn yr adroddiadau ar yr adolygiadau: Bydd yr ymgynghoriad yn para am 12 wythnos, tan 23 Hydref 2009.
Llywodraeth Cynulliad Cymru – Rhaglen Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd - Ymgynghoriad Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wrthi ar hyn o bryd yn ymgynghori ynghylch y Rhaglen Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd, yr ail ymgynghoriad sy’n fwy manwl ac a fydd yn helpu i lunio’r Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd. Mae’r Rhaglen Weithredu’n nodi’r cynigion ar gyfer polisïau a rhaglenni newydd i’n helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn y meysydd canlynol:
Daw’r cyfnod ymgynghori i ben ar yr 2il o Hydref 2009.
Slappingskins Crëwyd "Slappingskins" gan Aaron Meli yn haf 2002.
Newyddion y Sector Ysgolion Mae wedi bod yn gyfnod tawel dros yr haf a phrif ganolbwynt y gwaith yw’r prosiect a ariennir gan y Gronfa Ymwybyddiaeth o Ddatblygu er mwyn cynyddu gallu mudiadau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a grwpiau ffydd yng Nghymru i gymryd rhan mewn ADCDF. Yn dilyn y diddordeb a fynegwyd yn ystod y digwyddiad bord gron cychwynnol yn ôl yn y gwanwyn, bydd ail ddigwyddiad bord gron yn cael ei gynnal ar 8 Hydref yn y Deml Heddwch. Bydd hwn yn gyfle pellach i fudiadau a sefydliadau ‘ddod i adnabod ei gilydd’ a dechrau adnabod anghenion hyfforddi mewn perthynas ag ADCDF. Gwahoddir y mudiadau a’r sefydliadau sy’n rhan o’r prosiect i fynychu’r hyfforddiant Cyflwyniad i ADCDF a gynhelir bellach ar 22 Hydref.
Konflux Theatre Bydd y gweithdy P4C (athroniaeth i blant) arbenigol gan Konflux Theatre, Stone Soup, yn mynd ar daith trwy gydol mis Tachwedd a mis Rhagfyr eleni. Mae Stone Soup yn sesiwn ddrama ryngweithiol sy’n para am ddiwrnod cyfan, ac mae wedi’i bwriadu ar gyfer grwpiau CA2. Mae’r sesiynau’n seiliedig ar chwedl draddodiadol ac yn addas i hyd at 30 o blant. Mae’r gweithdy’n ysgogi plant i feddwl am syniadau sy’n gysylltiedig â’r agenda P4C, agenda sy’n annog plant i gwestiynu’r rhan a chwaraeir ganddynt mewn cymdeithas ac yn eu cymuned. Mae Stone Soup yn ysgogiad dyfeisgar sy’n peri i blant mor ifanc â Blwyddyn 4 ystyried y materion hyn gan deimlo sicrwydd trwy fod mewn ‘rôl’, a defnyddio ‘theatr’ fel ysgogiad. Darllenwch fwy… (pdf 3.8Mb)
Newyddion y Sector Gwaith Ieuenctid Mae’r Prosiect Gwaith Ieuenctid Byd-eang wedi bod yn canolbwyntio ar gwblhau ei gontract a gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynhyrchu ‘Pecyn Cymorth ar gyfer ADCDF mewn Gwaith Ieuenctid’. Mae’r Pecyn Cymorth yn cynnwys: yr hyn y mae ar weithwyr ieuenctid ei angen i ddarparu ADCDF, sut i fesur cynnydd mewn ADCDF, cymorth ac adnoddau ar gyfer ADCDF, enghreifftiau ar ffurf astudiaethau achos o ADCDF mewn gwaith ieuenctid ledled Cymru, yn ogystal â rhai syniadau am weithgareddau rhwydd i’w defnyddio sy’n rhoi cyflwyniad i ADCDF. Mae’r Pecyn Cymorth wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cynulliad Cymru ac rydym yn disgwyl clywed pryd fydd yr adnodd hwn yn cael ei gynhyrchu a’i ddosbarthu. Ym mis Mai 2009, fe gyhoeddodd y Gymdeithas Addysg Ddatblygu (DEA) yn Llundain adroddiad ymchwil a gwblhawyd gan Here and There Consultancy ar gyflwr presennol y sector ieuenctid a gwaith ieuenctid byd-eang. I gael mwy o wybodaeth ewch i... O ganlyniad i hyn fe ddarparodd DEA bapur briffio ar gyfer yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, a oedd yn cynnwys gwybodaeth gefndir ac argymhellion polisi, er mwyn llywio datblygiad ei chymorth i waith ieuenctid byd-eang. I gael mwy o wybodaeth ewch i... |
|
|||
You're
receiving this newsletter because you are on Cyfanfyd's Email list. |
||||
HTML Newsletter Design and Distribution by Seren-IT