![]() |
education for sustainable development and global citizenship |
| addysg
ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang a datblygu cynaliadwy |
ESDGC Resource and Activity Day On Thursday the 19th of January, 2012, Cyfanfyd will be putting on a ‘Resource and Activity’ day which will give ESDGC practitioners the opportunity to explore new activities associated with the delivery of ESDGC as well as training in newly produced resources and practical strategies for integrating and promoting knowledge of ESDGC. The day will provide excellent training for teachers, youth workers, adult education tutors and other professionals who are keen to consolidate their knowledge of current, up-to-date ESDGC good practise and who are looking to better relate the principals of ESDGC with their work. The training will take place between 9:30am and 3:30pm on Thursday the 19th of January in the Temple of Peace in Cardiff. The event costs £50 for Cyfanfyd members and £65 for non-members. A free resource pack is included for all participants. For more information or to book a place, please contact Lorraine@cyfanfyd.org.uk or complete the booking form and return it to Cyfanfyd.
Positive Words at the European Parliament (Brussels Sprouts Support) Development Education practitioners are facing a tough time at the moment with the global financial situation threatening funding and the right-wing press questioning governments’ commitments to fund development awareness projects in the face of large cuts elsewhere in the economy. But the cause of ESDGC and Development Awareness in Europe received a boost recently which adds a more positive light to an otherwise negative picture. In a speech delivered at the Hearing on Development Education to the European Parliament in Brussels, Commissioner Andris Piebalgs gave an unequivocally positive endorsement of Development Education, evoking European nations’ ‘responsibility to the Europeans of tomorrow’ to give them the education necessary to be active global citizens, capable of ‘shaping tomorrow’s world’. In his speech, Commissioner Piebalgs reaffirmed his, and his organisation’s, personal stake in Development Education, stating that it was an investment that was bound to pay off in the long term. Commissioner Piebalgs also noted that the work being done under the auspices of Development Education was fundamental to Europe’s future and that efforts to support practitioners would have to be stepped up in the difficult times that are currently being endured. Read the full Andris Piebalgs speech.
Black History Month A wide variety of events are taking place in Wales this month to celebrate Black History Month, culminating in a free spectacle at the Wales Millennium Centre on the 29th October 12pm – 6pm which will feature a host of entertainers, performers and participatory workshops reflecting the very best of Wales’ African Diaspora communities. Black History Month is proving to be one of the most engaging, liveliest and welcoming events in Wales’ cultural calendar, serving both as an educational project and an entertaining experience for those who know little of, or are just curious about African and Caribbean Heritage and the Welsh connection. Cyfanfyd is supporting a series of workshops which will take place at Butetown History and Arts Centre, Cardiff. On the 13th of October 2011, between 9.30am and 1.00pm, a workshop on Black History: A Woman’s perspective will be held. There will also be a workshop on the 20th of October, 2011, between 9.30am and 1.00pm, entitled Black History: Africa – Evolution or Devolution. These workshops are free of charge but places are limited so please email lorraine@cyfanfyd.org.uk to register your interest and reserve a place. View the full listings for more information about events taking place.
The Impact of the Global School Partnership Programme The National Foundation for Educational Research (NFER) has recently published an impact report on the British Council managed Global School Partnership Programme. The report, which was intended as a ‘snapshot’ evaluation of the impact to date of the programme, concluded that involvement in the GSP programme was shown to have had a significant positive effect on pupil awareness, attitudes and responses at both primary and secondary school level. The report also suggests that most significant differences were observed in schools in the third grant year, where partnerships were well established and the principles and values promoted by the GSP programme had had time to become embedded in whole-school policy, but that significant effects were also found in other grant years. Overall, the evidence from this research indicates that the GSP programme has made a significant positive impact on the learning and attitudes of girls and boys in primary and secondary schools throughout the UK. Full report...
Crafty Folk The Woodcraft Folk is 'a co-operative children’s and young people’s movement. They run hundreds of grassroots education groups in towns and cities around the UK where young people of all ages meet to play games, make friends and learn about big ideas from social justice to climate change through co-operative activities'. Woodcraft Folk / Gwerin y Coed are looking to set up a new group on the Gower and are keen to meet new people who are interested in participating. Their first meeting will be held in Reynoldston Village Hall on Sunday the 23rd of October between 4:00pm and 6:00pm. People interested in attending should call Heather on 07788828279.
Write to Us! If you have something to say or an event that you would like to be publicised amongst the Cyfanfyd network, please submit your story to info@cyfanfyd.org.uk. We’re always interested to hear about what you’re doing and are keen to promote out members and the work they’re doing. The deadline for submissions is moving to the 10th of every month, which will hopefully give us the best opportunity to cover stories with maximum impact. The earlier we find out about events and opportunities, the sooner we can let our members know about them!
|
Follow us on... |
|||||
The E-Bulletin provides a monthly update on the activities of Cyfanfyd, its member organisations and developments in ESDGC in Wales. You are welcome to send us information and news by the deadline of the 19th of the month for inclusion in the next month’s bulletin. |
||||||
Diwrnod Adnoddau a Gweithgareddau ADCDF Ar ddydd Iau’r 19eg o Ionawr 2012, bydd Cyfanfyd yn cynnal diwrnod ‘Adnoddau a Gweithgareddau’ a fydd yn rhoi’r cyfle i ymarferwyr ADCDF archwilio gweithgareddau newydd sy’n gysylltiedig â chyflwyno ADCDF yn ogystal â hyfforddi mewn adnoddau a strategaethau ymarferol a gynhyrchwyd o’r newydd ar gyfer integreiddio a hyrwyddo gwybodaeth am ADCDF. Bydd y diwrnod yn darparu hyfforddiant ardderchog ar gyfer athrawon, gweithwyr ieuenctid, tiwtoriaid addysg oedolion a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n awyddus i atgyfnerthu eu gwybodaeth am arfer da cyfredol a chyfoes mewn ADCDF ac sy’n dymuno sefydlu mwy o berthynas rhwng eu gwaith ac egwyddorion ADCDF. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal rhwng 9:30am a 3:30pm ar ddydd Iau’r 19eg o Ionawr yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd. Mae’r digwyddiad yn costio £50 i aelodau Cyfanfyd a £65 i rai nad ydynt yn aelodau. Mae’r pris yn cynnwys pecyn adnoddau rhad ac am ddim i’r holl gyfranogwyr. I gael mwy o wybodaeth neu i archebu lle, cysylltwch â Lorraine@cyfanfyd.org.uk neu cwblhewch y ffurflen archebu sydd wedi’i hatodi a dychwelwch hi i swyddfa Cyfanfyd.
Geiriau Cadarnhaol yn Senedd Ewrop Mae ymarferwyr Addysg Datblygu’n wynebu amser anodd ar hyn o bryd gyda’r sefyllfa ariannol yn fyd-eang yn bygwth cyllid, a’r adain dde’n cwestiynu ymrwymiadau llywodraethau i ariannu prosiectau ymwybyddiaeth o ddatblygu yn wyneb toriadau mawr mewn rhannau eraill o’r economi. Ond cafodd achos ADCDF ac Ymwybyddiaeth o Ddatblygu yn Ewrop hwb yn ddiweddar sy’n taflu goleuni mwy cadarnhaol ar ddarlun sydd fel arall yn negyddol. Mewn araith a draddodwyd yn y Gwrandawiad ar Addysg Datblygu gerbron Senedd Ewrop ym Mrwsel, rhoddodd y Comisiynydd Andris Piebalgs gymeradwyaeth gadarnhaol ddiamwys i Addysg Datblygu, gan alw ar genhedloedd Ewrop i arddel eu ‘cyfrifoldeb i Ewropeaid y genhedlaeth nesaf’ i roi iddynt yr addysg sy’n angenrheidiol i fod yn ddinasyddion byd-eang gweithredol, a fydd yn gallu ‘llunio byd y dyfodol’. Yn ei araith, fe ategodd y Comisiynydd Piebalgs y budd sydd iddo ef, ac sydd i’w sefydliad, o Addysg Datblygu, gan ddatgan bod Addysg Datblygu’n fuddsoddiad a fyddai’n siŵr o dalu ar ei ganfed yn yr hirdymor. Fe nododd y Comisiynydd Piebalgs hefyd fod y gwaith sy’n cael ei wneud dan nawddogaeth Addysg Datblygu’n hanfodol i ddyfodol Ewrop ac y byddai’n rhaid i ymdrechion i roi cymorth i ymarferwyr gael eu cynyddu yn y cyfnod anodd yr ydym yn ei brofi ar hyn o bryd. Darllenwch yr Araith Andris Piebalgs yn ei chrynswth.
Mis Dathlu Hanes Pobl Dduon Mae amrywiaeth eang o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal yng Nghymru'r mis yma i nodi Mis Dathlu Hanes Pobl Dduon, gan gyrraedd uchafbwynt gyda digwyddiad rhad ac am ddim yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar y 29ain o Hydref o 12-6pm a fydd yn cynnwys llu o ddiddanwyr, perfformwyr a gweithdai cyfranogol a fydd yn adlewyrchu'r gorau o blith cymunedau'r Affricanwyr ar Wasgar yng Nghymru. Mae Mis Dathlu Hanes Pobl Dduon yn profi'n un o'r digwyddiadau mwyaf cyffrous, bywiog a chroesawus yng nghalendr diwylliannol Cymru, gan fod yn brosiect addysgol ac yn brofiad difyrrus i'r rheiny na wyddant lawer am, neu sy'n chwilfrydig ynghylch Treftadaeth Affricanaidd a Charibïaidd a'r cysylltiad Cymreig. Mae Cyfanfyd yn cefnogi cyfres o weithdai a fydd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown, Caerdydd. Ar y 13eg o Hydref 2011, rhwng 9.30am ac 1.00pm, bydd gweithdy'n cael ei gynnal ar Hanes Pobl Dduon: Safbwynt menywod. Bydd gweithdy hefyd ar yr 20fed o Hydref 2011, rhwng 9.30am ac 1.00pm, yn dwyn y teitl Hanes Pobl Dduon: Affrica – Esblygiad ynteu Datganoli. Mae'r gweithdai hyn yn rhad ac am ddim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd felly anfonwch neges e-bost i lorraine@cyfanfyd.org.uk i ddatgan eich diddordeb a chadw lle. Gallwch weld y rhestr lawn o ddigwyddiadau i gael mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal yn agos atoch chi.
Effaith y Rhaglen Partneriaethau Ysgolion Byd-eang Mae’r Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg (SCYA) wedi cyhoeddi adroddiad effaith yn ddiweddar ar y Rhaglen Partneriaethau Ysgolion Byd-eang a reolir gan y Cyngor Prydeinig . Roedd yr adroddiad wedi’i fwriadu i roi gwerthusiad ‘ciplun’ o effaith y rhaglen hyd yma, a daeth i’r casgliad bod tystiolaeth i’w chael sy’n dangos bod ymwneud â’r rhaglen Partneriaethau Ysgolion Byd-eang wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar ymwybyddiaeth, agweddau ac ymatebion disgyblion ar lefelau cynradd ac uwchradd. Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu bod y gwahaniaethau mwyaf sylweddol i’w gweld mewn ysgolion yn y drydedd flwyddyn grant, lle’r oedd partneriaethau wedi hen ennill eu plwyf a’r egwyddorion a’r gwerthoedd a hyrwyddir gan y rhaglen Partneriaethau Ysgolion Byd-eang wedi cael amser i ddod yn rhan annatod o bolisi ysgol gyfan, ond bod effeithiau sylweddol i’w cael mewn blynyddoedd grant eraill hefyd. Ar y cyfan, mae’r dystiolaeth o’r gwaith ymchwil hwn yn dynodi bod y rhaglen Partneriaethau Ysgolion Byd-eang wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar ddysgu ac agweddau ymhlith merched a bechgyn mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled y DU. Cewch weld yr adroddiad llawn yn...
Y Werin Grefftus Mae Gwerin y Coed yn ‘fudiad cydweithredol i blant a phobl ifanc. Maent yn rhedeg cannoedd o grwpiau addysgol ar lawr gwlad mewn trefi a dinasoedd o amgylch y DU lle mae plant a phobl ifanc o bob oed yn cwrdd i chwarae gemau, gwneud ffrindiau a dysgu am syniadau mawr, o gyfiawnder cymdeithasol i’r newid yn yr hinsawdd a gweithgareddau cydweithredol’. Mae Gwerin y Coed / Woodcraft Folk yn dymuno sefydlu grŵp newydd ym Mhenrhyn Gŵyr ac maent yn awyddus i gwrdd â phobl newydd a chanddynt ddiddordeb mewn cymryd rhan. Bydd eu cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal yn Neuadd Bentref Reynoldston ar ddydd Sul 23ain o Hydref rhwng 4:00pm a 6:00pm. Dylai pobl sydd â diddordeb mewn mynychu ffonio Heather ar 07788828279.
Ysgrifennwch Atom Ni! Os oes gennych chi rywbeth i'w ddweud neu ddigwyddiad yr hoffech gael cyhoeddusrwydd iddo ymhlith rhwydwaith Cyfanfyd, cyflwynwch eich stori i info@cyfanfyd.org.uk. Mae gennym wastad ddiddordeb mewn clywed am yr hyn yr ydych yn ei wneud ac rydym yn awyddus i hyrwyddo ein haelodau a'r gwaith y maent yn ei wneud. Mae'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno storïau'n newid i'r 10fed o bob mis, yn y gobaith y bydd yn rhoi'r cyfle gorau i ni roi sylw i storïau a chael yr effaith fwyaf bosib. Gorau po gyntaf y byddwn yn cael clywed am ddigwyddiadau a chyfleoedd, er mwyn gallu rhoi gwybod i'n haelodau amdanynt mewn da bryd! |
Cyswllt... |
|||||
Mae’r E-fwletin yn rhoi gwybodaeth fisol am weithgareddau Cyfanfyd, ei aelod-sefydliadau a datblygiadau ADCDF yng Nghymru. Mae croeso i chi anfon gwybodaeth a newyddion erbyn y 19eg o’r mis i’w gynnwys ym mwletin y mis canlynol. |
||||||
You’re
receiving this newsletter because you are on Cyfanfyd’s Email list.
HTML Newsletter Design and Distribution by Seren-IT