![]() |
education for sustainable development and global citizenship |
| addysg
ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang a datblygu cynaliadwy |
|
Because of a lack of funding, the ESDGC Schools Networks has unfortunately been unable to continue to operate in its previous incarnation. The organisation will, however, continue its work and is currently evaluating the options that are open to it. Interim plans have been agreed by Cyfanfyd to work towards establishing a future programme. There will be a newsletter about progress and what's on offer later this term. Read more...
Understanding New ESDGC Inspection Criteria On the 1st of September 2010, Estyn (the education and training inspectorate for Wales) introduced new inspection arrangements for the teaching of ESDGC in Welsh schools. This followed an extensive consultation process and successful pilots. The new arrangements revolve around a common inspection framework and related guidance for each of the sectors Estyn inspects. There is a greater focus on an institution's self-evaluation and much less notice of inspection than hitherto. Alun Morgan, the ESTYN inspector with responsibility for ESDGC has produced some guidelines about the new supplementary guidance that has been available for schools since September 2010. Please click here to access these guidelines. Alternatively, visit Estyn's website, for more information.
Black History Month 2010 Black History Month Wales, which will be celebrated throughout October 2010, will focus on stories. Groups in key areas including Carmarthenshire, Newport, Swansea, Wrexham, Aberdare, Hay-on-Wye, Holyhead and Cardiff will identify and record their own aural histories, preserving the lives and times of ‘Black Wales’ during the 1950’s. Inter-generational workshops will see community elders and young people share passed down stories and memories. Due to last year’s success, the Wales Millennium Centre has requested a return to the venue. The status of this venue situated in the heart of Butetown. Black History Month Wales will co-ordinate a one day extravaganza on Saturday the 30th of October to celebrate Black History Month at the Wales Millennium Centre, starting at 12pm with entertainment, workshops, guest speakers, market stalls and more. Cardiff will once more, play host to all the regions of Wales. To find out more about Black History month 2010 or to download teaching resources connected to the event, please visit http://www.blackhistorymonthuk.co.uk/ or http://www.bvsnw.org.uk/history.asp.
Oxfam Cymru Welcomes New Youth Advisor Laura Karadog has recently joined Oxfam Cymru in the role of Education and Youth Advisor. Prior to joining Oxfam, Laura gained experience in both the public sector (working for an Assembly Member and Gwynedd Local Authority) and the third sector (through the Welsh Youth Forum for Sustainable Development and a Gap year with Christian Aid). As Oxfam Cymru’s Education and Youth Advisor, Laura’s role will be to develop young people’s understanding of poverty at home and abroad through education-based activities and to work with other organisations, schools and youth groups to support delivery of ESDGC. For more information on Oxfam Cymru’s education and youth related work, please contact Laura on 0300 2001269 or lkaradog@oxfam.org.uk
Energy and the Environment A day about energy and the environment is being held at the National Museum in Cardiff on Saturday the 16th of October 2010 between 10.30am and 2.30pm. Science teachers, teacher trainees, science communicators and other professionals interested in exploring energy and climate change are invited to the free event where they will be able to learn more about sustainable building materials, how to save power, and how climate change might affect biodiversity. As well as this, visitors will have the opportunity to take part in a debate about how we meet our future energy needs through sustainable means, fossil, nuclear or just using less. The day will focus on practical ideas for the classroom, developing confidence about the topic and providing resources and activities for use in an educational environment. For more information or to book a place, please contact Cerian Angharad on 02920 756980 or via Email on cerianangharad@ase.org.uk
One World Week 2010’s One World Week takes place between the 17th and the 24th of October and takes the climax of the UN’s ‘International Decade for a Culture of Peace and Non-violence for the Children of the World’ as inspiration for their project, which is entitled ‘Peacing Together One World’. The One World Week website also has a selection of resources available for One World Week, which are aimed at helping people to organise events which encourage people to take action towards "creating a culture of peace for our children". Resources include posters, quizzes and other activities and can be found at: www.oneworldweek.org/v2/index.php?page=2010-Resources. To find out more about the One World Week events planned in your area, please visit http://www.oneworldweek.org/v2/
New Education Resources The British Red Cross, in partnership with Allen & Overy LLP, have created a new education resource which looks to help teachers and students explore issues of fairness and justice through the lens of international humanitarian law or the law of war.
The four modules contained in the Justice and fairness resource give young people the opportunity to develop skills which are important in helping them become accomplished learners. Additionally, the Every Child Matters outcomes of enjoying and achieving and making a positive contribution are met through exploration of the issues involved.
Teachers are supported through providing useful information for making lesson plans and providing case studies and classroom activities which will challenge young people to apply their existing and new knowledge to different situations thus developing critical thinking skills.
Indian Summer India Dance Wales is providing evening classes at the Rubicon Centre where adults can learn to dance in the the Hindu tradition. India Dance Wales specialises in the Classical dance form of Bharata Natyam, one of the most dynamic and internationally popular styles of Indian Dance. This ancient art form is based around Hindu mythology and originated in Hindu temples as a form of worship to the Gods. Its emphasis is on physical dance movements as well as expressional dance (storytelling through mime, using hand gestures and facial expression) to create this dynamic art form. Please visit the website: www.indiadancewales.com for more info. |
|
|||||||
The E-Bulletin provides a monthly update on the activities of Cyfanfyd, its member organisations and developments in ESDGC in Wales. You are welcome to send us information and news by the deadline of the 19th of the month for inclusion in the next month’s bulletin. |
||||||||
|
Oherwydd diffyg cyllid, yn anffodus mae'r Rhwydweithiau Ysgolion ADCDF wedi methu â pharhau i weithredu ar eu ffurf flaenorol. Ond bydd y mudiad yn parhau â'i waith ac mae wrthi ar hyn o bryd yn gwerthuso'r dewisiadau sydd ar gael iddo. Mae Cyfanfyd wedi cytuno ar gynlluniau interim i weithio tuag at sefydlu rhaglen ar gyfer y dyfodol. Bydd cylchlythyr am y cynnydd a'r hyn sy'n cael ei gynnig yn cael ei gyhoeddi'n nes ymlaen y tymor yma. Darllen mwy...
Deall y Meini Prawf Arolygu Newydd ar gyfer ADCDF Ar y 1af o Fedi 2010, fe gyflwynodd Estyn (yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru) drefniadau arolygu newydd ar gyfer addysgu ADCDF mewn ysgolion yng Nghymru. Daeth hyn wedi proses ymgynghori helaeth a chynlluniau peilot llwyddiannus. Mae’r trefniadau newydd yn seiliedig ar fframwaith arolygu cyffredin ac arweiniad cysylltiedig ar gyfer pob sector y mae Estyn yn ei arolygu. Mae mwy o ffocws ar hunanwerthusiad y sefydliad a cheir llawer llai o rybudd nag yn flaenorol. Mae Alun Morgan, yr arolygydd yn ESTYN sydd â chyfrifoldeb am ADCDF, wedi llunio canllawiau ar yr arweiniad atodol newydd sydd wedi bod ar gael i ysgolion ers mis Medi 2010. Dilynwch y ddolen isod i gael gweld y canllawiau hyn. Fel arall, gweler gwefan Estyn, am fwy o fanylion.
Mis Dathlu Hanes Pobl Dduon 2010 Bydd Mis Dathlu Hanes Pobl Dduon yng Nghymru, a fydd yn cael ei ddathlu trwy gydol mis Hydref 2010, yn canolbwyntio ar straeon. Bydd grwpiau mewn ardaloedd allweddol gan gynnwys Sir Gaerfyrddin, Casnewydd, Wrecsam, Aberdâr, Y Gelli Gandryll, Caergybi a Chaerdydd yn adnabod ac yn recordio eu hanesion clywedol eu hunain, gan roi bywyd ac amserau ‘Cymru Ddu’ yn ystod y 1950au ar gof a chadw. Mewn gweithdai a fydd yn pontio’r cenedlaethau bydd aelodau hŷn a phobl ifanc yn y cymunedau’n rhannu straeon ac atgofion a drosglwyddwyd iddynt. Oherwydd llwyddiant digwyddiad y llynedd, mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi gofyn i’r digwyddiad ddychwelyd i’r lleoliad. Mae’r Ganolfan mewn lleoliad arwyddocaol yng nghanol Butetown. Bydd Mis Dathlu Hanes Pobl Dduon yng Nghymru’n cydlynu strafagansa undydd ar ddydd Sadwrn y 30ain o Hydref i ddathlu Mis Dathlu Hanes Pobl Dduon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, gan ddechrau am 12pm gydag adloniant, gweithdai, siaradwyr gwadd, stondinau marchnad a mwy. Bydd Caerdydd, unwaith eto, yn croesawu holl ranbarthau Cymru. I gael gwybod mwy am Fis Hanes Pobl Dduon 2010 neu i lawrlwytho adnoddau addysgu sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad, gweler http://www.blackhistorymonthuk.co.uk/ neu http://www.bvsnw.org.uk/history.asp.
Oxfam Cymru'n croesawu Ymgynghorydd Ieuenctid Newydd Yn ddiweddar fe ymunodd Laura Karadog ag Oxfam Cymru fel Ymgynghorydd Addysg ac Ieuenctid. Cyn ymuno ag Oxfam, fe gafodd Laura brofiad yn y sector cyhoeddus (yn gweithio i Aelod Cynulliad ac Awdurdod Lleol Gwynedd) a’r trydydd sector (trwy Fforwm Ieuenctid Cymru ar gyfer Datblygu Cynaliadwy ac yn ystod blwyddyn i ffwrdd gyda Chymorth Cristnogol). Fel Ymgynghorydd Addysg ac Ieuenctid Oxfam Cymru, bydd rôl Laura’n golygu datblygu dealltwriaeth pobl ifanc am dlodi yn y wlad hon a thramor trwy weithgareddau addysgol a chydweithio â mudiadau a sefydliadau eraill, ysgolion a grwpiau ieuenctid i roi cymorth i ddarparu ADCDF. I gael mwy o wybodaeth am weithgarwch Oxfam Cymru ym myd addysg a gwaith ieuenctid, cysylltwch â Laura ar 0300 2001269 neulkaradog@oxfam.org.uk
Ynni a'r Amgylchedd Mae diwrnod am ynni a’r amgylchedd yn cael ei gynnal yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd arDdydd Sadwrn yr 16eg o Hydref 2010 rhwng 10.30am a 2.30pm. Mae athrawon gwyddoniaeth, athrawon gwyddoniaeth sydd wrthi’n hyfforddi, cyfathrebwyr ym maes gwyddoniaeth a gweithwyr proffesiynol eraill a chanddynt ddiddordeb mewn archwilio ynni a’r newid yn yr hinsawdd yn cael eu gwahodd i’r digwyddiad rhad ac am ddim lle byddant yn gallu dysgu mwy am ddeunyddiau adeiladu cynaliadwy, sut i arbed trydan a sut y gallai’r newid yn yr hinsawdd effeithio ar fioamrywiaeth. Yn ogystal â hyn, bydd ymwelwyr yn cael y cyfle i drafod sut y gallwn ddiwallu ein hanghenion am ynni yn y dyfodol mewn modd cynaliadwy, â thanwyddau ffosil, ag ynni niwclear neu’n syml trwy ddefnyddio llai o ynni. Bydd y diwrnod yn canolbwyntio ar syniadau ymarferol ar gyfer yr ystafell ddosbarth, datblygu hyder am y pwnc a darparu adnoddau a gweithgareddau i’w defnyddio mewn amgylchedd addysgol. I gael mwy o wybodaeth neu i archebu lle, cysylltwch â Cerian Angharad ar 02920 756980 neu drwy’r E-bost yncerianangharad@ase.org.uk
Wythnos Un Byd Cynhelir Wythnos Un Byd 2010 rhwng yr 17eg a'r 24ain o Hydref ac mae'n defnyddio penllanw'r 'Degawd Rhyngwladol ar gyfer Diwylliant o Heddwch ac Ymddygiad Di-drais er mwyn Plant y Byd' gan y Cenhedloedd Unedig fel ysbrydoliaeth ar gyfer ei brosiect, sef 'Peacing Together One World'. Mae gan wefan Wythnos Un Byd hefyd ddetholiad o adnoddau ar gael ar gyfer Wythnos Un Byd, ac mae'r rhain wedi'u bwriadu i helpu pobl i drefnu digwyddiadau sy'n annog pobl i weithredu er mwyn "creu diwylliant o heddwch ar gyfer ein plant". Mae'r adnoddau'n cynnwys posteri, cwisiau a gweithgareddau eraill a gellir dod o hyd iddynt ynt: www.oneworldweek.org/v2/index.php?page=2010-Resources. I gael gwybod mwy am ddigwyddiadau Wythnos Un Byd y bwriedir eu cynnal yn eich ardal chi, gweler http://www.oneworldweek.org/v2/
Adnoddau Addysg Newydd Mae'r Groes Goch Brydeinig, mewn partneriaeth gydag Allen & Overy LLP, wedi creu adnodd addysg newydd sydd wedi'i fwriadu i helpu athrawon a disgyblion i archwilio materion tegwch a chyfiawnder o safbwynt cyfraith ddyngarol ryngwladol neu gyfraith rhyfel.
Mae'r pedwar modiwl yn yr adnodd Cyfiawnder a thegwch yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau sy'n bwysig i'w helpu i ddod yn ddysgwyr mwy medrus. Yn ogystal â hynny, mae'n cyd-fynd â'r deilliannau sy'n ymwneud â mwynhau a chyflawni a gwneud cyfraniad cadarnhaol yn y papur gwyrdd Mae Pob Plentyn yn Bwysig.
Rhoddir cymorth i athrawon trwy ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer creu cynlluniau gwersi a darparu astudiaethau achos a gweithgareddau dosbarth a fydd yn herio pobl ifanc i ddefnyddio eu gwybodaeth bresennol a newydd mewn sefyllfaoedd gwahanol a thrwy hynny ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol.
Dawns Indiaidd Mae India Dance Wales yn darparu dosbarthiadau nos yng Nghanolfan Rubicon lle gall oedolion ddysgu dawnsio yn y traddodiad Hindŵaidd.Mae India Dance Wales yn arbenigo yn yr arddull dawnsio clasurol Bharata Natyam, un o’r arddulliau Dawnsio Indiaidd mwyaf dynamig a phoblogaidd ledled y byd. Mae’r hen ffurf gelfyddydol hon yn seiliedig ar fytholeg Hindŵaidd ac fe ddeilliodd o demlau Hindŵaidd fel ffordd o addoli’r Duwiau. Mae ei phwyslais ar symudiadau dawns corfforol yn ogystal â dawns fynegiannol (adrodd storïau trwy feimio, gan ddefnyddio ystumiau â’r dwylo a mynegiant wynebol) i greu’r ffurf gelfyddydol ddynamig hon. Gweler y wefan: www.indiadancewales.com am fwy o wybodaeth. |
|
|||||||
Mae’r E-fwletin yn rhoi gwybodaeth fisol am weithgareddau Cyfanfyd, ei aelod-sefydliadau a datblygiadau ADCDF yng Nghymru. Mae croeso i chi anfon gwybodaeth a newyddion erbyn y 19eg o’r mis i’w gynnwys ym mwletin y mis canlynol. |
||||||||
You’re
receiving this newsletter because you are on Cyfanfyd’s Email list.
Remove me from this list --- Forward to a friend
HTML Newsletter Design and Distribution by Seren-IT