For a better view, open this email in your browser.
English - Cymraeg
![]() |
education for sustainable development and global citizenship |
| addysg
ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang a datblygu cynaliadwy |
Demonstrations in the run up to Copenhagen Following the success of September’s series of ‘flash mob’ demonstrations that delivered a global wake-up call to world leaders on the issue of climate change, the Stop Climate Change Coalition is organising further action, with plans to mobilise demonstrators in London in the run up to the United Nations Framework Convention on Climate Change (UNFCCC) conference. Demonstrations are set to begin in London on the 5th of December 2009 and will continue until the end of the conference. Anybody wishing to take part in or contribute to the lobbying campaign should visit www.the-wave.org.uk for further information.
A New Voice For Cyfanfyd’s BME Project
“I enjoy raising awareness of issues faced by marginalised and disadvantaged groups. My aspiration is to work for the United Nations to raise awareness of global issues and work at a grassroots level with organisations and communities in Africa to reduce poverty, increase universal education, empower women and promote gender equality. I hope to gain essential knowledge and experience in working in this sector from my work with Cyfanfyd.” Hanna was an active participant in the second BME and Minority Faith Round Table meeting which was hosted by Cyfanfyd in October.
Black History Month 2009
Black History Month 2009 cumulated in an all day event at the Wales Millennium Centre on the 31st October that built on last years historic event and involved simultaneous workshops across Wales for the first time ever. The activities involved focused on children, teenagers and adults and encouraged participation in arts, crafts, gospel, rap, creative murals, family trees, percussion and mask making.
ESDGC Strategy for Action and the Third Sector The ESDGC Strategy for Action was launched almost three years ago. Though it cannot be denied that the implementation phase of the Strategy has done much to raise awareness of ESDGC in all the sectors of education in Wales and has made progress in integrating ESDGC into formal and informal education, the focus of the work has been very much on the statutory sector. The implementation of the strategy has failed to engage in any significant way with the Third Sector in Wales, particularly with those very organisations that have a long history and proven track record of supporting the delivery of sustainable development and global citizenship education that pre-dates the Strategy by, in some cases, twenty years or more. Since the inception of the strategy Cyfanfyd has been involved in a dialogue with WAG and other statutory stakeholders urging them to work with the Third Sector and draw on the body of skills, knowledge and expertise that these organisation possess. Cyfanfyd representatives will be presenting a position paper on this topic at the next meeting of Third Sector organisations with the Minister for Children, Education Lifelong Learning and Skills, Jane Hutt. As part of the process of drawing up this paper we are seeking members’ and other stakeholders’ view on this issue. Please send any comments to dominic@cyfanfyd.org.uk
UK Development Education Networks Meeting Belfast Dominic Miles, the Co-ordinator, and Liz Thomas, the Formal Sector Officer, attended the September meeting of the UK Development Education Networks in Belfast. The UK DE Network comprises the DEA from England, IDEAS from Scotland and CADA from Northern Ireland. In conjunction with the meeting, the Northern Irish representatives had organised a seminar for policy makers and practitioners to find out about the global perspective in education in the other UK countries. Cyfanfyd staff gave a presentation on ESDGC policy and practise, which drew a lot of interest from the audience as Wales is the only UK country where global learning, or ESDGC, is so directly supported by government policy. |
|
|||||
The E-Bulletin provides a monthly update on the activities of Cyfanfyd, its member organisations and developments in ESDGC in Wales. You are welcome to send us information and news by the deadline of the 19th of the month for inclusion in the next month’s bulletin. |
||||||
Gwrthdystiadau ar drothwy cynhadledd Copenhagen Yn dilyn llwyddiant y gyfres o wrthdystiadau gan ‘fflach-dyrfaoedd’ ym mis Medi a gafodd effaith yn fyd-eang gan ddeffro arweinwyr byd â neges am y newid yn yr hinsawdd, mae Cynghrair Atal y Newid yn yr Hinsawdd yn trefnu gweithredu pellach, gyda chynlluniau i fyddino gwrthdystwyr yn Llundain ar drothwy cynhadledd Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd (UNFCCC), a gynhelir yn Copenhagen. Bydd gwrthdystiadau’n dechrau yn Llundain ar y 5ed o Ragfyr 2009 ac yn parhau tan ddiwedd y gynhadledd. Dylai unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan yn yr ymgyrch lobïo, neu gyfrannu tuag at yr ymgyrch, fynd at www.the-wave.org.uk i gael mwy o wybodaeth.
Llais Newydd i Brosiect BME Cyfanfyd
Mae ganddi gryn dipyn o brofiad o weithio yn y 3ydd sector gyda grwpiau mor amrywiol â phobl ifanc, yr henoed, ceiswyr lloches, ffoaduriaid a phobl ag anableddau dysgu ac mae wedi cwblhau secondiad blwyddyn yn ddiweddar gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru – Is-adran Cydraddoldebau, Amrywiaeth a Chynhwysiant (ICACh) lle bu’n gweithio ochr yn ochr â Gweinidogion Cymru ac uwch weision sifil ar y Fforwm Cymunedau Ffydd. “Rwy’n mwynhau codi ymwybyddiaeth o faterion a wynebir gan grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio ac sy’n ddifreintiedig. Fy nyhead yw gweithio i’r Cenhedloedd Unedig i godi ymwybyddiaeth o faterion byd-eang a gweithio ar lawr gwlad gyda sefydliadau a chymunedau yn Affrica i leihau tlodi, cynyddu addysg i bawb, grymuso menywod a hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Rwy’n gobeithio ennill gwybodaeth a phrofiad hanfodol yn y sector hwn yn rhinwedd fy ngwaith gyda Cyfanfyd.” Roedd Hanna’n gyfranogwr gweithredol yn yr ail gyfarfod Bord Gron ar Gymunedau BME a Chymunedau Ffydd Lleiafrifol a lywyddwyd gan Cyfanfyd ym mis Hydref.
Mis Hanes Pobl Dduon 2009
Cyrhaeddodd Mis Hanes Pobl Dduon 2009 benllanw gyda digwyddiad a barodd ddiwrnod cyfan yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar yr 31ain o Hydref ac a oedd yn adeiladu ar ddigwyddiad hanesyddol y llynedd ac yn cynnwys gweithdai a gynhaliwyd ar yr un pryd ledled Cymru am y tro cyntaf erioed. Roedd y gweithgareddau dan sylw’n canolbwyntio ar blant, pobl yn eu harddegau ac oedolion, ac yn eu hannog i gymryd rhan mewn celfyddyd, crefftau, canu gospel, cerddoriaeth rap, murluniau creadigol, siartiau achau, cerddoriaeth ag offerynnau taro a gwneud mygydau.
Strategaeth ar gyfer Gweithredu ADCDF a’r Trydydd Sector Cafodd Strategaeth ar gyfer Gweithredu ADCDF ei lansio bron i dair blynedd yn ôl. Er na ellir gwadu bod y broses o roi’r Strategaeth ar waith wedi gwneud cryn dipyn i godi ymwybyddiaeth o ADCDF ym mhob sector addysg yng Nghymru ac wedi gwneud cynnydd tuag at integreiddio ADCDF mewn addysg ffurfiol ac anffurfiol, mae ffocws y gwaith wedi bod i raddau helaeth ar y sector statudol. Mae’r broses o roi’r strategaeth ar waith wedi methu ag ymgysylltu mewn unrhyw ffordd arwyddocaol â’r Trydydd Sector yng Nghymru, yn enwedig yr union sefydliadau hynny a chanddynt hanes hir a phrofedig o roi cymorth i ddarparu addysg datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang ers cyn dyddiau’r Strategaeth a hynny, mewn rhai achosion, am ugain mlynedd neu fwy. Ers cyflwyno’r Strategaeth mae Cyfanfyd wedi bod yn trafod gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a rhanddeiliaid statudol eraill gan erfyn arnynt i weithio gyda’r Trydydd Sector a thynnu ar y corff o sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd y mae’r sefydliadau hyn yn meddu arnynt. Bydd cynrychiolwyr Cyfanfyd yn cyflwyno papur safbwynt ar y testun hwn yn y cyfarfod nesaf rhwng sefydliadau’r Trydydd Sector a’r Gweinidog dros Addysg, Plant, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Jane Hutt. Fel rhan o’r broses o lunio’r papur hwn rydym yn ceisio safbwyntiau aelodau a rhanddeiliaid eraill ar y mater hwn. Anfonwch unrhyw sylwadau os gwelwch yn dda i dominic@cyfanfyd.org.uk
Cyfarfod Rhwydweithiau Addysg Datblygu’r DU yn Belfast Bu Dominic Miles, y Cydlynydd, a Liz Thomas, Swyddog y Sector Ffurfiol, yng nghyfarfod Rhwydweithiau Addysg Datblygu’r DU ym mis Medi yn Belfast. Mae Rhwydwaith AD y DU yn cynnwys DEA o Loegr, IDEAS o’r Alban a CADA o Ogledd Iwerddon. I gyd-fynd â’r cyfarfod, roedd y cynrychiolwyr yng Ngogledd Iwerddon wedi trefnu seminar i wneuthurwyr polisi ac ymarferwyr gael dysgu am y safbwynt byd-eang mewn addysg yng ngwledydd eraill y DU. Fe roddodd staff Cyfanfyd gyflwyniad ar bolisi ac arfer mewn ADCDF, a ysgogodd lawer o ddiddordeb ymhlith y gynulleidfa gan mai Cymru yw’r unig wlad yn y DU lle caiff dysgu byd-eang, neu ADCDF, ei ategu mor uniongyrchol gan bolisi’r Llywodraeth. |
|
|||||
Mae’r E-fwletin yn rhoi gwybodaeth fisol am weithgareddau Cyfanfyd, ei aelod-sefydliadau a datblygiadau ADCDF yng Nghymru. Mae croeso i chi anfon gwybodaeth a newyddion erbyn y 19eg o’r mis i’w gynnwys ym mwletin y mis canlynol. |
||||||
You're
receiving this newsletter because you are on Cyfanfyd's Email list.
Remove me from this list --- Forward to a friend
HTML Newsletter Design and Distribution by Seren-IT