![]() |
education for sustainable development and global citizenship |
| addysg
ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang a datblygu cynaliadwy |
|
|
Cyfanfyd will be holding its Annual Forum and Annual General Meeting on Tuesday May 19th at Small World Theatre in Cardigan. The Forum is also an opportunity to hear about some of the exciting and innovative work that is going on in Wales and to get involved in the debate about the role of the Third Sector, the voluntary sector, in supporting ESDGC. Download: Agenda; Booking Form.
There was a good response from members of the BME and minority faith sector to the invitation to a round table event hosted by Cyfanfyd with a view to exploring and expanding BME involvement in, and capacity to deliver, ESDGC. The event took place at the Norwegian Church in Cardiff, speakers included Vipin Chauhan, who gave an overview of BME involvement in ‘development education’ throughout the UK, highlighting some of the barriers to engagement and the importance of building relationships and trust between the sectors, and Charo Lanao-Madden who is the coordinator of Making Connections: The Global Dimension and Minorities – a new project being developed by the Centre for Global Education in Belfast, also looking to engage with the BME sector and to increase access to training and bespoke resources.
ESDGC is really taking off in schools in Wales. A Vale of Glamorgan Primary school that linked with schools in Ireland to raise awareness of fair-trade issues, and an infants school in Conwy that developed a garden on a plot of unused land, were amongst twenty four schools recognised for their efforts at the prestigious Eco-Schools National Awards Ceremony which was held at the Millennium Stadium on Wednesday 25 March. Eco Schools is a very popular scheme which supports the environmental aspects of ESDGC. Other aspects were recognised and addressed as part of the WAG Community Cohesion consultation events held in both North and South Wales during March. Representatives from educational and BME organisations were amongst the participants at the events which explored the contribution organisations were making to community cohesion. Cyfanfyd’s role is linked to the education and communication aspects of this policy. Cyfanfyd has submitted a formal response to the consultation.
Reporting Africa Conference This conference was held on April 14th at Cardiff university School of Journalism, Media & Culture. One of the organisers, Kachi Okezie, says in the conference brochure ‘if this conference gets us to stop and ponder the broader implications of our near voyeuristic appetite for bad news about Africa, then much will have been gained in one afternoon in Cardiff’. The day was full of interesting presentations and debate about, for example, ‘Why Africa deserves respect and why Africans should demand it’, and ‘Negative coverage of Africa in the Western media – perception and reality and what’s the evidence?’ For a different perspective on news from the African continent, visit the largest electronic distributor of African news and information worldwide www.allafrica.com. Or visit www.bentelevision.com - BEN TV is ‘one of the largest providers of entertainment to black and ethnic audiences across the UK’.
Toolkit for ESDGC in Youth Work Funded by the Welsh Assembly Government’s ESDGC Panel, Cyfanfyd has been working with colleagues from CWVYS and UNA Exchange to develop a Toolkit for Education for Sustainable Development and Global Citizenship in Youth Work. Where the Common Understanding of ESDGC in Youth Work, launched in November 2008, dealt more with the ‘what’ and the ‘why’, the Toolkit will deal with ‘how to embed ESDGC in youth work’ – with practical ideas and examples of ESDGC in practice. The Toolkit should be available from late summer / early Autumn 2009. |
|
||||
Fforwm Blynyddol Cyfanfyd 2009 Bydd Cyfanfyd yn cynnal ei Fforwm Blynyddol a’i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar ddydd Mawrth 19eg Mai yn Theatr Byd Bychan yn Aberteifi. Download: Agenda; Booking Form.
Cynyddu Amrywieth – cydweithio â sefydliadau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a’r sector ffydd
Cafwyd ymateb da gan aelodau sectorau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a ffydd i’r gwahoddiad i ddigwyddiad bord gron a gynhaliwyd gan Cyfanfyd gyda’r bwriad o archwilio ac ehangu cyfraniad pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i ADCDF a’u gallu i’w gyflenwi. Cynhaliwyd y digwyddiad yn yr Eglwys Norwyaidd yng Nghaerdydd. Roedd y siaradwyr yn cynnwys Vipin Chauhan, a roddodd drosolwg o waith pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig mewn ‘addysg datblygu’ ledled y DU, gan amlygu rhai o’r rhwystrau i ymrwymo a phwysigrwydd adeiladu perthynas a ymddiriedaeth rhwng y sectorau. Siaradwr arall oedd Charo Lanao-Madden, sy’n gydlynydd Connections: The Global Dimension and Minorities – prosiect newydd sy’n cael ei ddatblygu gan y Centre for Global Education yn Belfast, sydd hefyd yn ceisio ymrwymo â sector pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a chynyddu cyfleoedd hyfforddi ac adnoddau pwrpasol.
Mae ADCDF wedi magu gwreiddiau mewn ysgolion yng Nghymru. Roedd ysgol gynradd ym Mro Morgannwg a wnaeth gysylltiad ag ysgolion yn Iwerddon i godi ymwybyddiaeth o faterion masnach deg, ac ysgol iau yng Nghonwy a ddatblygodd ardd ar ddarn o dir a oedd heb ddefnydd, ymysg 24 ysgol a gafodd gydnabyddiaeth am eu hymdrechion yn y Seremoni Wobrwyo Genedlaethol ar gyfer Eco-Ysglion a gynhaliwyd yn Stadiwn y Mileniwm ar ddydd Mercher 25 Mawrth. Mae Eco-Ysglion yn gynllun poblogaidd iawn sy’n cefnogi agweddau amgylcheddol ADCDF. Nodwyd ac ystyriwyd agweddau eraill fel rhan o ddigwyddiadau ymgynghori Cydlyniant Cymunedol LlCC a gynhaliwyd yng ngogledd a de Cymru ym mis Mawrth. Roedd cynrychiolwyr o sefydliadau addysg a sector pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig ymysg y cyfranogwyr yn y digwyddiadau a fu’n ystyried y cyfraniad y mae sefydliadau yn eu gwneud i gydlyniant cymunedol. Mae rôl Cyfanfyd yn gysylltiedig ag agweddau addysg a chyfathrebu ar y polisi hwn. Cyflwynodd Cyfanfyd ymateb ffurfiol i’r ymgynghoriad.
Cynhadledd Gohebu ar Affrica Cynhaliwyd y gynhadledd hon ar 14eg Ebrill yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol, Prifysgol Caerdydd. Meddai Kachi Okezie, un o’r trefnwyr, yn y llyfryn, ‘os yw’r gynhadledd hon yn ein gorfodi i aros ac ystyried goblygiadau ehangach ein blys lled-foieristaidd am newyddion drwg ynglŷn ag Affrica, byddwn wedi elwa’n fawr o un prynhawn yng Nghaerdydd’. Roedd y diwrnod yn llawn o gyflwyniadau a dadleuon diddorol, megis ‘Pam bod Affrica yn haeddu parch a pham y dylai pobl Affrica ei fynnu’ a ‘Gohebu negyddol ar Affrica yng nghyfryngau’r Gorllewin – canfyddiad a realiti a beth yw’r dystiolaeth?’ I gael safbwynt gwahanol ar newyddion o gyfandir Affrica, ewch i wefan y darpwr helaethaf o newyddion a gwybodaeth am Affrica yn y byd: www.allafrica.com. Neu ewch i www.bentelevision.com - BEN TV yw ‘un o’r darparwyr mwyaf o adloniant i gynulleidfaoedd o bobl dduon ac ethnig ledled y DU’.
Pecyn Cymorth ar gyfer ADCDF mewn Gwaith Ieuenctid Gyda chymorth ariannol Panel ADCDF Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae Cyfanfyd wedi bod yn gweithio gyda chydweithiwyr o CWVYS a Chyfnewid UNA i ddatblygu Pecyn Cymorth ar gyfer Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang mewn Gwaith Ieuenctid. Mae Dealltwriaeth Gyffredin o ADCDF mewn Gwaith Ieuenctid, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2008, yn ystyried ‘beth’ a ‘pham’, ond bydd y Pecyn Cymorth yn ystyried ‘sut i ymgorffori ADCDF mewn gwaith ieuenctid’ – gyda syniadau ymarferol ac enghreifftiau o ADCDF yn cael ei harfer. Dylai’r Pecyn Cymorth fod ar gael o ddiwedd haf / dechrau hydref 2009 ymlaen. |
|
||||
You're
receiving this newsletter because you are on Cyfanfyd's Email list. |
|||||
HTML Newsletter Design and Distribution by Seren-IT