![]() |
education for sustainable development and global citizenship |
| addysg
ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang a datblygu cynaliadwy |
International Women's Day Conference To celebrate International Women's Day 2011, Cyfanfyd is holding an event on issues surrounding women's rights, which will be preceded by two two-day workshops in which young BME girls and women will be invited to discuss what International Women's Day means to them. The event, which is to be held on the 28th of March, 2011, will raise awareness of good work done by various national and international organisations that work with women and gender equality as well as celebrating women's achievement and their contribution to the local and global society. It will also feature a talk from a Zimbabwean woman (supported by African Mothers Foundation International) on her personal and community achievement in working in an orphanage in Zimbabwe to promote education and gender equality and 30-minute workshops that will raise awareness of MD goals Gender Equality, HIV/Aids and Maternal Health. The two-day workshops that precede the conference are primarily intended for young girls (aged 15 – 19yrs) from Swansea and older women from Cardiff - who are all from BME backgrounds. With the help of the Ethnic Youth Support Team (EYST) in Swansea, South Riverside Community Development Centre (SRCDC) and Somali Integration Society (SIS) in Cardiff, we hope to reach out to and involve a wide mix of women from different ethnicities and backgrounds to attend our workshops.
Fairtrade Fortnight Fairtrade Fortnight 2011 takes place between the 28th of February and the 13th of March this year. The event has, since it begun in 1997, been an annual celebration of Fairtrade goods, raising awareness of trade inequalities that make them a necessity and promoting their consumption over less ethical alternatives. This year, the Fairtrade Foundation is inviting people to really show off the Fairtrade products that they use, either at work or domestically, by helping them to construct what they hope will be the world's longest string of bunting. The record-breaking bunting reflects the carnival atmosphere typical of previous Fairtrade Fortnights, which incorporate fetes, fashion shows and food tastings to spread the knowledge of Fairtrade brands as well as the political impetus behind them.
In Defence of Multiculturalism On the day of the largest concerted marches of the English Defence League (EDL), the British Prime Minister, David Cameron, instead of taking the opportunity to condemn the alarming rise of racist politics across Europe, appeared to condone their efforts in a speech he made in Germany. Speaking at the international security conference in Munich on the 5th of February, David Cameron made clear his intention to push for a more 'British' mono-culture in the place of multiculturalism which, he opined, had failed. The speech has been criticised roundly for its obsolete language and its dangerous, implicit links between Islamist groups and radicalisation and extremism. There are worries that Cameron's remarks will play into the hands of growing right-wing organisations such as the EDL and the BNP. The BNP's Nick Griffin has already expressed his admiration for the Prime Minister's words, claiming that they constitute "a further huge leap for our ideas into the political mainstream". All this comes at a time when Muslims are already facing subjugation in the British media, growing Islamophobia and inequality.
Southern Voices: Welsh Choices Round Table The fourth Round-table meeting of the Southern Voices, Welsh Choices network, was held on the 31st of January in Cardiff's County Hall. It provided an opportunity for those involved with the project to consolidate their positions in tackling basic human issues; improvement of education, the challenge of ensuring clean water, health and equal rights. These issues are central to the teaching of ESDGC and integrating them into the participants' work while building upon them formed a large part of the meeting. The round table attracted representatives from a diverse range of organisations including the Ethnic Youth Support Team (EYST), the African Mothers' Foundation International (AMFI), Agored Cymru ,the Black Voluntary Sector Network Wales (BVSNW) and the Ethnic Minorities Communities First (EMC) team. Such a broad spectrum of participants proved to be a boon to the project as each helped to offer perspectives from within their own sector, leading to lively discussion and real opportunities for problem solving and ground for collaboration. A full SOUTHERN VOICES ROUND TABLE REPORT is available.
New Commonwealth Youth Summit Resources In preparation for the Commonwealth Youth Summits in 2011, teachers and youth leaders are being invited to run four quick sessions with their young people to introduce them to the Commonwealth and the United Nations' Millennium Development Goals, with particular emphasis upon Education and Health for All. These resources are designed to coincide with Commonwealth Day (14th of March) which will be observed across the Commonwealth of Nations. The theme of the event for 2011 is 'Women as Agents of Change'. The four lessons are designed to last roughly 20-35 minutes each. However, there is scope to expand them or condense them as the situation requires. Each session builds on the work done in the previous lesson, but they can be run as stand alone activities as well.
|
|
|||||
The E-Bulletin provides a monthly update on the activities of Cyfanfyd, its member organisations and developments in ESDGC in Wales. You are welcome to send us information and news by the deadline of the 19th of the month for inclusion in the next month’s bulletin. |
||||||
Cynhadledd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2011, mae Cyfanfyd yn cynnal digwyddiad ar faterion sy'n ymwneud â hawliau menywod, a ragflaenir gan ddau weithdy deuddydd lle bydd merched a menywod ifainc duon ac ethnig lleiafrifol yn cael eu gwahodd i drafod yr hyn y mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ei olygu iddynt hwy. Bydd y digwyddiad, a gynhelir ar yr 28ain o Fawrth 2011, yn codi ymwybyddiaeth o waith da a wneir gan amryw sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol sy'n gweithio gyda menywod ac ym maes cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn ogystal â dathlu llwyddiant menywod a'u cyfraniad i'r gymdeithas leol a byd-eang. Bydd hefyd yn cynnwys sgwrs gan fenyw o Zimbabwe (gyda chymorth Sefydliad Rhyngwladol y Mamau Affricanaidd) am ei chyflawniad personol a chymunedol wrth weithio mewn cartref i blant amddifad yn Zimbabwe i hyrwyddo addysg a chydraddoldeb rhwng y rhywiau a gweithdai 30 munud a fydd yn codi ymwybyddiaeth o rai o Nodau Datblygu'r Mileniwm, sef Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau, HIV/AIDS ac Iechyd Mamau. Mae'r gweithdai deuddydd sy'n rhagflaenu'r gynhadledd wedi'u bwriadu'n bennaf ar gyfer merched ifainc (15 – 19 oed) o Abertawe a menywod hŷn o Gaerdydd sy'n bobl dduon ac ethnig lleiafrifol. Gyda help y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) yn Abertawe, Canolfan Datblygu Cymunedol De Glanyrafon (SRCDC) a'r Gymdeithas Integreiddio Somaliaid (SIS) yng Nghaerdydd, rydym yn gobeithio estyn allan a chynnwys cymysgedd eang o fenywod o wahanol ethnigrwydd a chefndiroedd yn ein gweithdai.
Pythefnos Masnach Deg Cynhelir Pythefnos Masnach Deg 2011 rhwng yr 28ain o Chwefror a'r 13eg o Fawrth eleni. Ers iddo ddechrau ym 1997, mae'r digwyddiad wedi bod yn ddathliad blynyddol o nwyddau Masnach Deg, gan godi ymwybyddiaeth o anghydraddoldebau masnach sy'n eu gwneud yn anghenraid ac annog pobl i'w prynu yn hytrach na dewisiadau llai moesegol. Eleni, mae'r Sefydliad Masnach Deg yn gwahodd pobl sy'n defnyddio cynhyrchion Masnach Deg, boed yn y gwaith neu gartref, i'w brolio o ddifrif trwy helpu i greu llinyn o rubanau yn y gobaith o greu'r hiraf erioed. Mae'r llinyn o rubanau i dorri pob record yn adlewyrchu'r awyrgylch carnifal a oedd yn nodweddiadol o Bythefnosau Masnach Deg blaenorol, sydd wedi cynnwys ffeiriau, sioeau ffasiynau a sesiynau blasu bwyd i ledu gwybodaeth am frandiau Masnach Deg yn ogystal â'r ysgogiad gwleidyddol ar eu cyfer. I gael gwybod am y digwyddiadau Masnach Deg sydd yn yr arfaeth yn eich ardal chi, neu i gofrestru eich digwyddiad eich hun (neu wneud cais am rubanau i helpu gyda'r ymgais i dorri'r record), gweler www.fairtrade.org.uk/show_off_your_label/
Amddiffyn Amlddiwylliannaeth Ar ddiwrnod gorymdeithiau cydunol mwyaf Cynghrair Amddiffyn Lloegr (EDL), yn lle dal ar y cyfle i gondemnio'r cynnydd dychrynllyd mewn gwleidyddiaeth hiliol ledled Ewrop, roedd Prif Weinidog Prydain, David Cameron, i'w weld fel pe bai'n esgusodi eu hymdrechion mewn araith yn yr Almaen. Wrth siarad yn y gynhadledd ar ddiogelwch rhyngwladol ym Munich ar y 5ed o Chwefror, fe eglurodd David Cameron ei fwriad i ymgyrchu dros fono-ddiwylliant mwy 'Prydeinig' yn lle amlddiwylliannaeth a oedd, yn ei dyb ef, wedi methu. Mae'r araith wedi cael ei beirniadu'n chwyrn am ei hiaith hynafol a'r modd peryglus yr oedd yn ensynio bod cysylltiadau rhwng grwpiau Islamaidd a radicaliaeth ac eithafiaeth. Mae pryderon y bydd sylwadau Cameron yn fêl ar fysedd mudiadau adain-dde megis EDL a'r BNP sydd ar gynnydd. Daw hyn oll ar adeg pan fo Mwslimiaid eisoes yn wynebu darostyngiad yn y cyfryngau ym Mhrydain, ynghyd ag Islamoffobia ac anghydraddoldeb cynyddol. Mae deiseb ar-lein i'w chael yn sydd wedi'i bwriadu fel ymateb i'r cyfeiriad newydd a gynigir gan Mr Cameron ar gyfer cysylltiadau hiliol.
Cyfarfod Bord Gron Southern Voices, Welsh Choices Cynhaliwyd pedwerydd cyfarfod Bord Gron rhwydwaith Southern Voices, Welsh Choices ar yr 31ain o Ionawr yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Roedd yn gyfle i'r rheiny sy'n gysylltiedig â'r prosiect gyfnerthu eu safbwyntiau o ran mynd i'r afael â materion dynol sylfaenol; gwella addysg, yr her sy'n ymwneud â sicrhau dŵr glân, iechyd a hawliau cyfartal. Mae'r materion hyn yn ganolog i addysgu ADCDF ac fe dreuliwyd rhan fawr o'r cyfarfod yn trafod ffyrdd o'u hintegreiddio yng ngwaith y cyfranogwyr ac adeiladu arnynt. Fe ddenodd y cyfarfod bord gron gynrychiolwyr o ystod amrywiol o fudiadau gan gynnwys y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST), Sefydliad Rhyngwladol Mamau Affricanaidd (AMFI), Agored Cymru, Rhwydwaith Sector Gwirfoddol Pobl Dduon Cymru (BVSNW) a thîm Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig (EMC) o Bartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf. Roedd cael sbectrwm mor eang o gyfranogwyr yn gaffaeliad i'r prosiect gan fod pob un wedi helpu i gynnig safbwyntiau o'u sector hwy eu hunain, gan arwain at drafodaeth fywiog a chyfleoedd gwirioneddol i ddatrys problemau a sail i gydweithio. Mae fersiwn lawn o'r ADRODDIAD AR GYFARFOD BORD GRON SOUTHERN VOICES ar gael.
Adnoddau Newydd ar gyfer Uwchgynhadledd Ieuenctid y Gymanwlad Yn barod ar gyfer Uwchgynadleddau Ieuenctid y Gymanwlad yn 2011, mae athrawon ac arweinwyr ieuenctid yn cael eu gwahodd i redeg pedair sesiwn gyflym gyda'u pobl ifanc i'w cyflwyno i'r Gymanwlad a Nodau Datblygu'r Mileniwm gan y Cenhedloedd Unedig, gyda phwyslais arbennig ar Addysg ac Iechyd i Bawb. Mae'r adnoddau hyn wedi'u bwriadu i gyd-daro â Diwrnod y Gymanwlad (14eg o Fawrth) a fydd yn cael ei nodi ledled y Gymanwlad Brydeinig. Thema'r digwyddiad yn 2011 yw 'Menywod fel Asiantau Newid'. |
|
|||||
Mae’r E-fwletin yn rhoi gwybodaeth fisol am weithgareddau Cyfanfyd, ei aelod-sefydliadau a datblygiadau ADCDF yng Nghymru. Mae croeso i chi anfon gwybodaeth a newyddion erbyn y 19eg o’r mis i’w gynnwys ym mwletin y mis canlynol. |
||||||
You’re
receiving this newsletter because you are on Cyfanfyd’s Email list.
HTML Newsletter Design and Distribution by Seren-IT