![]() |
education for sustainable development and global citizenship |
| addysg
ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang a datblygu cynaliadwy |
|
As Cyfanfyd continues to create a stronger base of understanding for the teaching of ESDGC and its integration into current educational practise, they are offering ‘Training for Trainers’ in ESDGC, a three day course designed to enhance participants’ confidence as trainers in ESDGC and to give them a fuller understanding of all the issues that the topic can touch upon. The next course is scheduled to take part between the 28th and the 30th of June 2011 and will be held at the Broneirion Conference Centre in Llandinam, Powys. The course will take in various global aspects of ESDGC policy and practise, with a particular emphasis upon international development and how good ESDGC is instrumental in achieving the UN’s Millennium Development Goals. The course will benefit anyone who teaches ESDGC or wishes to embed it in their current work and has been called ‘stimulating’, ‘fun and meaningful’ and ‘rewarding’ by previous participants. If you are interested in attending the course in June (or finding out about future training opportunities), please contact Lorraine Fletcher on Lorraine@cyfanfyd.org.uk. A booking form for the event will need to be completed and returned to Cyfanfyd as soon as possible.
Is 'Global Citizenship' Being Left Behind? According to an article published in the Times Educational Supplement Cymru (6th of May 2011), Global Citizenship is in real danger of being overlooked as the emphasis of ESDGC teaching shifts towards more measurable elements of ‘Sustainable Development’ and away from more difficult areas such as global connections and interlinked economies . Scott Sinclair, programme manager of the ESDGC Schools Networks for Wales pointed out the enormous potential ESDGC has to improve the understanding of Wales’ pupils saying, "Wales is at a pivotal point on this agenda. Ten years ago [ESDGC] was seen as peripheral, but now there's a greater appreciation that pupils really need to understand what's going on in the world. "More schools are now seeing it as part of their core function, and some are doing extremely impressive work. We don't want to lose the progress we have made, but there is a real danger it may be overlooked as we focus on improving results." The article appears at a time when many in the voluntary sector are concerned about the future of ESDGC, with funding for projects being cut and the Welsh Government (formerly known as the Welsh Assembly Government) failing to allocate it a specific budget. It is hoped that the benefits of ESDGC will be remembered and that no short sighted measures are made to ease the short term situation in this time of austerity.
ESDGC Schools Network Conference The ESDGC Schools Network has been working closely with Cyfanfyd in the formal education sector to advocate a more integrated approach to the teaching of ESDGC in schools that focuses on the long term and maximises the benefits to teaching and learning. Building on the enthusiasm that has generated around this approach, the ESDGC Schools Network will be holding a conference to address the policies that govern ESDGC in schools and to share good practise and training ideas. The conference will take place on Monday the 4th of July from 9.30am to 3.30pm in The Pavilion in Llandrindod Wells. The day has been designed to bring together teachers, ESDGC coordinators, heads and others from school management teams [both Primary & Secondary] as well as those from Estyn, LAs, NGOs and other organisations supporting ESDGC in schools such as Out of classroom learning providers. Those interested in attending should email scott.sinclair@esdgc-schools.net with their name, role, School / organisation address and their email address for invoice (if it differs from the address they email from). It is also advisable for participants to mention if they would like poster space or table space to share their ideas and any dietary or other needs they may have.
Clever CAT CAT, the Centre for Alternative Technology, has been practising what it preaches in terms of sustainable development and global citizenship since it was established in 1973 as a small, sustainable community in a disused quarry in north Wales. Since then, CAT has thrived, drawing visitors from all over the world who are keen to find out more about developments at the cutting edge of ‘green’ technology. The people at CAT have always been enthusiastic about passing on their skills and sustainable ethos and are now inviting teachers to attend their training courses which have been put together to offer a hands-on approach to embedding ESDGC in their teaching. Courses in Design & Technology, Science, Maths, Arts and Humanities are available and promise to be a unique and engaging way of making ESDGC accessible in an inspiring setting. Teacher training courses begin in October 2011. For more information, please visit www.cat.org.uk or email education@cat.org.uk to book a place.
A Guide to Thinking Global Think Global (formerly known as the Development Education Association) and Charities Evaluation Services have created a new guide book designed to inspire and instruct teachers and trainers who are planning to promote ESDGC in their work. The guide book, entitled ‘Evaluating Global Learning Outcomes’ was published in April and is currently available to buy here. The resource brings together a mix of expertise, detailed case studies of successful global learning projects and innovative methods of evaluation. The guide hopes to allow more of a goal-oriented approach to teaching ESDGC and to facilitate on-going learning and understanding. |
Follow us on... |
|||||
The E-Bulletin provides a monthly update on the activities of Cyfanfyd, its member organisations and developments in ESDGC in Wales. You are welcome to send us information and news by the deadline of the 19th of the month for inclusion in the next month’s bulletin. |
||||||
Hyfforddiant ar gyfer Hyfforddwyr mewn ADCDF Wrth i Cyfanfyd ddal i greu sylfaen ddealltwriaeth gryfach ar gyfer addysgu ADCDF a’i hintegreiddio mewn arfer addysgol cyfredol, mae’n cynnig ‘Hyfforddiant ar gyfer Hyfforddwyr’ mewn ADCDF, cwrs tridiau sydd wedi’i fwriadu i wella hyder cyfranogwyr fel hyfforddwyr mewn ADCDF ac i roi iddynt ddealltwriaeth lawnach am yr holl faterion y gall y testun gyffwrdd arnynt. Bydd y cwrs nesaf yn cael ei gynnal rhwng yr 28ain a’r 30ain o Fehefin 2011 yng Nghanolfan Gynadledda Broneirion yn Llandinam, Powys. Bydd y cwrs yn cynnwys amryw agweddau byd-eang ar bolisi ac arfer mewn ADCDF, gyda phwyslais penodol ar ddatblygu rhyngwladol a pha mor allweddol yw ADCDF wrth gyrraedd Nodau Datblygu’r Mileniwm gan y Cenhedloedd Unedig. Bydd y cwrs o fudd i unrhyw rai sy’n addysgu ADCDF neu sy’n dymuno’i sefydlu fel rhan annatod o’u gwaith presennol ac mae cyfranogwyr blaenorol wedi galw’r cwrs yn ‘symbylol’, yn ‘llawn hwyl ac yn ystyrlon’ ac yn ‘werth chweil’. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu’r cwrs ym mis Mehefin (neu mewn dod i wybod am gyfleoedd hyfforddi yn y dyfodol), cysylltwch â Lorraine Fletcher ar Lorraine@cyfanfyd.org.uk. Bydd angen cwblhau ffurflen archebu ar gyfer y digwyddiad a’i dychwelyd at Cyfanfyd cyn gynted â phosib.
A Yw 'Dinasyddiaeth Fyd-eang' yn Agwedd Sy'n Cael Ei Gadael Ar Ôl? Yn ôl erthygl a gyhoeddwyd yn Times Educational Supplement Cymru (6ed o Fai 2011), mae Dinasyddiaeth Fyd-eang yn agwedd sydd mewn perygl go iawn o gael ei hanwybyddu wrth i bwyslais ADCDF droi’n fwy tuag at elfennau mwy mesuradwy o ‘Ddatblygu Cynaliadwy’ ac i ffwrdd oddi wrth agweddau anos megis cysylltiadau byd-eang ac economïau cydgysylltiol. Cyfeiriodd Scott Sinclair, rheolwr rhaglen Rhwydweithiau Ysgolion ADCDF Cymru, at y potensial anferth sydd gan ADCDF i wella dealltwriaeth disgyblion Cymru gan ddweud, “Mae Cymru wedi cyrraedd pwynt allweddol ar yr agenda hon. Ddeng mlynedd yn ôl roedd [ADCDF] yn cael ei hystyried yn rhywbeth ymylol, ond erbyn hyn mae pobl yn gwerthfawrogi’n fwy bod dirfawr angen i ddisgyblion ddeall beth sy’n digwydd yn y byd. "Mae mwy o ysgolion bellach yn ystyried bod ADCDF yn rhan o’u swyddogaeth graidd, ac mae rhai’n gwneud gwaith gwirioneddol nodedig. Dydyn ni ddim yn dymuno colli’r cynnydd yr ydym wedi’i wneud, ond mae perygl go iawn y bydd yn cael ei anwybyddu wrth i ni ganolbwyntio ar wella canlyniadau." Daw’r erthygl ar adeg pan fo nifer yn y sector gwirfoddol yn pryderu ynghylch dyfodol ADCDF, o ganlyniad i gwtogi ar y cyllid ar gyfer nifer o brosiectau a’r ffaith bod Llywodraeth Cymru (Llywodraeth Cynulliad Cymru gynt) yn methu â neilltuo cyllideb benodol iddi. Gobeithir y bydd manteision ADCDF yn cael eu cofio ac na cheir unrhyw fesurau cibddall i liniaru’r sefyllfa fyrdymor yn y cyfnod hwn o lymder.
Cynhadledd y Rhwydwaith Ysgolion ADCDF Mae’r Rhwydwaith Ysgolion ADCDF wedi bod yn cydweithio’n agos gyda Cyfanfyd yn y sector addysg ffurfiol i ddadlau o blaid dull mwy integredig o addysgu ADCDF mewn ysgolion sy’n canolbwyntio ar yr hirdymor ac yn cynyddu i’r eithaf y manteision i addysgu a dysgu. Gan adeiladu ar y brwdfrydedd a enynnwyd dros y dull hwn, bydd y Rhwydwaith Ysgolion ADCDF yn cynnal cynhadledd i fynd i’r afael â’r polisïau sy’n rheoli ADCDF mewn ysgolion ac i rannu arfer da a syniadau am hyfforddiant. Cynhelir y gynhadledd ar ddydd Llun y 4ydd o Orffennaf o 9.30am tan 3.30pm yn y Pafiliwn yn Llandrindod. Mae’r diwrnod wedi’i fwriadu i ddwyn ynghyd athrawon, cydlynwyr ADCDF, penaethiaid ac eraill o dimau rheoli ysgolion [Cynradd ac Uwchradd] yn ogystal â swyddogion o Estyn, ALlau, Cyrff Anllywodraethol a mudiadau/sefydliadau eraill sy’n ategu ADCDF mewn ysgolion megis Darparwyr Dysgu y Tu Allan i’r Ystafell Ddosbarth. Dylai’r rheiny sydd â diddordeb mewn bod yn bresennol anfon neges e-bost i scott.sinclair@esdgc-schools.net gan gynnwys eu henw, eu rôl, cyfeiriad eu Hysgol / mudiad neu sefydliad a’u cyfeiriad e-bost ar gyfer yr anfoneb (os yw’n wahanol i’r cyfeiriad y byddant yn ei ddefnyddio i anfon y neges e-bost). Mae hefyd yn ddoeth i gyfranogwyr grybwyll os hoffent gael lle i arddangos posteri neu le ar fwrdd i rannu eu syniadau a dylent grybwyll hefyd unrhyw anghenion dietegol neu anghenion eraill sydd ganddynt.
Cyrsiau CAT Mae CAT, y Ganolfan Technoleg Amgen, wedi bod yn dilyn ei phregeth ei hun o ran datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang ers ei sefydlu ym 1973 mewn cymuned fechan, gynaliadwy mewn chwarel segur yng ngogledd Cymru. Ers hynny, mae CAT wedi ffynnu, gan ddenu ymwelwyr o bob rhan o’r byd sy’n awyddus i ddod i wybod mwy am ddatblygiadau sydd ar flaen y gad ym maes technoleg ‘werdd’. Mae’r bobl yn CAT wastad wedi bod yn frwdfrydig dros drosglwyddo eu sgiliau a’u hethos cynaliadwy ac maent yn awr yn gwahodd athrawon i fynychu eu cyrsiau hyfforddi a luniwyd er mwyn cynnig dull ymarferol o sefydlu ADCDF fel rhan annatod o’u gwaith addysgu. Mae cyrsiau mewn Dylunio a Thechnoleg, Gwyddoniaeth, Mathemateg, y Celfyddydau a’r Dyniaethau ar gael ac yn argoeli’n ffordd unigryw a chyffrous o wneud ADCDF yn hygyrch mewn lleoliad ysbrydoledig. Mae’r cyrsiau hyfforddi ar gyfer athrawon yn dechrau ym mis Hydref 2011. I gael mwy o wybodaeth, gweler www.cat.org.uk neu anfonwch neges e-bost i education@cat.org.uk i archebu lle.
Canllaw i Feddwl yn Fyd-eang Mae Think Global (a adweinid yn flaenorol fel y Gymdeithas Addysg Datblygu) a Charities Evaluation Services wedi creu canllaw newydd sydd wedi’i fwriadu i ysbrydoli a chyfarwyddo athrawon a hyfforddwyr sy’n bwriadu hyrwyddo ADCDF yn eu gwaith. Cafodd y canllaw, sy’n dwyn y teitl ‘Evaluating Global Learning Outcomes’, ei gyhoeddi ym mis Ebrill ac mae ar gael i’w brynu yn awr o www.think-global.org.uk/resources/item.asp?d=4753. Mae’r adnodd yn dwyn ynghyd gymysgedd o arbenigedd, astudiaethau achos manwl o brosiectau dysgu byd-eang llwyddiannus a dulliau gwerthuso arloesol. Y gobaith yw y bydd y canllaw’n ei gwneud yn bosib mabwysiadu dull o addysgu ADCDF sy’n fwy seiliedig ar nodau ac y bydd yn hwyluso dealltwriaeth a dysgu parhaus. |
Cyswllt... |
|||||
Mae’r E-fwletin yn rhoi gwybodaeth fisol am weithgareddau Cyfanfyd, ei aelod-sefydliadau a datblygiadau ADCDF yng Nghymru. Mae croeso i chi anfon gwybodaeth a newyddion erbyn y 19eg o’r mis i’w gynnwys ym mwletin y mis canlynol. |
||||||
You’re
receiving this newsletter because you are on Cyfanfyd’s Email list.
HTML Newsletter Design and Distribution by Seren-IT