English - Cymraeg

logo education for sustainable development and global citizenship
addysg ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang a datblygu cynaliadwy

The First Cut

For months (years) the development education community has been holding its breath and crossing its fingers at the thought of what might happen if (when) a Tory Government came into power. Now, only days after forming, the new con-dem coalition has signalled its intentions. Despite David Cameron’s assurances that money for development would be ‘ring fenced’, the first cuts announced by this new government were for development education projects. The intention is that funding will be redirected to areas where it will have a greater impact on global poverty. Secretary of State, Andrew Mitchell said “People want to see British aid money saving lives and educating children in the world’s poorest countries”. However, without a strong development education community and continuing education the British people could soon fail to see the relevance of what happens overseas and efforts to create a more equitable and just society will be jeopardised. If you have any thoughts or suggestions on this topic please email them to info@cyfanfyd.org.uk using The First Cut as the subject line, or join Cyfanfyd and lend your support to ensure a strong voluntary sector with a clear independent voice which might be heard.

Dynamic Training Proves a Positive Experience

agm flipchartAs part of the Southern Voices project, Cyfanfyd joined forces with Dynamix to develop a training day which aimed to bring a rights based approach to learning and training about global issues - in particular the Millennium Development Goals. Participants were given the opportunity to explore the links between ESDGC and the MDGs and to look at the ways that these depend on and are shaped by human rights and the rights of the child. Participants used participatory and inclusive tools and techniques which could be adapted to a variety of work situations and were based on Dynamix’ publication ‘Children’s Rights – Spice ‘Em Up’ (available from www.dynamix.ltd.uk or email info@dynamix.ltd.uk). Feedback from the day was overwhelmingly positive, with one participant noting that it was “really informative, interesting and thought provoking”.

Looking to the Future

agm talkComing a day after the new coalition government announced its first budgetary cuts - by DFID from development awareness projects - the mood at the Cyfanfyd AGM reflected concern and a degree of apprehension as to what the future might hold. The day had been designed with a clear focus on the future of ESDGC / development education in Wales and the UK but the news that 5 development awareness projects had been cut and the new Global Learning Engagement Fund had been suspended cast doubt over any future activity. Representatives of formal and informal learning and voluntary sector organisations gathered at the Norwegian Church in Cardiff to hear guest speakers’ views on developments. Read more...

New Video Blog Documents Climate Change in Uganda

Wales for Africa Blog

uganda video blogSeven NGO workers have been trained to provide video footage of how climate change is affecting the lives of people in the Mbale region of Uganda. They will become reporters through training provided by an experienced film maker. Early footage caught the recent landslide and its devastating impacts.

The World, Today

June the 5th is World Environment day and the theme for 2010 is "Your Planet Needs You-Unite to Combat Climate Change". Sustainable development is at the forefront of the Welsh assembly government’s pledges to improve social and environmental wellbeing for everyone. To investigate their proposals, please visit http://wales.gov.uk/topics/sustainabledevelopment/?lang=en

Commemorated on 5 June since 1972, WED is one of the principal vehicles through which the UN stimulates worldwide awareness of the environment and encourages political attention and action. As part of their campaign this year, they are including members of the public in the naming of a baby gorilla which is to be reintroduced into the wild. To learn more, go to http://www.unep.org/wed/2010/english/

Training for Trainers

Cyfanfyd is offering training for trainers in Education for Sustainable Development and Global Citizenship in a two day course which is to take place at Broneirion Conference Centre in Llandinam, Powys between the 22nd and the 24th of June 2010. The two day course is intended to help trainers and tutors with some experience of delivering training in ESDGC in a variety of educational settings, such as teacher trainers, LEA advisors, youth work tutors, adult education tutors or community development tutors. The aim of this residential course is to enhance participants’ practices and confidence in their abilities as trainers in ESDGC. The course costs £400 0thers (£360 for Cyfanfyd members) per person, including accommodation and meals. Bursaries are available for trainers from black and minority ethnic and minority faith organisations. Further details...


A Month to Remember

Following the launch of the Gypsy Roma and Traveller History Month in 2008,the month of June has quickly become established as a time when Gypsy, Roma and Traveller communities come together with those working in education, museums, the police and even prisons to celebrate our history and culture. To celebrate this, the Black Voluntary Sector Network Wales (BVSNW) and a partnership of local organisations and agencies are holding a free event to celebrate Gypsy, Roma and Traveller History Month 2009. It will take place on Tuesday the 30th of June from 10.00am until 3.00pm in the grand hall of the chamber of commerce building in Cardiff bay. The event will include musical displays and cultural exhibitions and is intended to give Gypsy and Travellers communities in Wales the opportunity to express and celebrate their culture. Flyer...


Assembly Aid

Christian Aid’s online teachers’ resources allow teachers to introduce the global dimension to their school day. The assemblies, classroom activities and games are intended to help students engage with world issues and reflect on their own role as global citizens. This month’s primary school assemblies investigate the role of fathers and the importance of paternal role models in time for fathers’ day, while secondary schools are encouraged to consider the 1 Goal campaign as the football World Cup draws near. These resources are available as downloads from Christian Aid’s website. Please visit...


The E-Bulletin provides a monthly update on the activities of Cyfanfyd, its member organisations and developments in ESDGC in Wales. You are welcome to send us information and news by the deadline of the 19th of the month for inclusion in the next month’s bulletin.

Y Cwtogi'n Dechrau

Am fisoedd (blynyddoedd) mae'r gymuned addysg datblygu wedi bod yn dal ei gwynt ac yn croesi ei bysedd wrth feddwl am yr hyn a allai ddigwydd pe bai (pan fyddai) Llywodraeth Dorïaidd yn dod i rym. Yn awr, ddyddiau yn unig ers ei ffurfio, mae'r glymblaid rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol (clymblaid con-dem efallai!) wedi dangos beth yw ei bwriadau. Er gwaethaf y sicrwydd gan David Cameron y byddai arian ar gyfer datblygu'n cael ei ddiogelu, mae'r toriadau cyntaf sydd wedi'u cyhoeddi gan y llywodraeth newydd hon yn rhai sy'n effeithio ar brosiectau addysg datblygu. Y bwriad yw ailgyfeirio cyllid at feysydd lle bydd yn dwyn effaith fwy ar dlodi byd eang. Meddai'r Ysgrifennydd Gwladol, Andrew Mitchell, "Mae pobl yn dymuno gweld bod arian cymorth o Brydain yn achub bywydau ac yn addysgu plant yng ngwledydd tlotaf y byd". Fodd bynnag, heb gymuned addysg datblygu gref ac addysg barhaus, buan iawn y gallai pobl Prydain fethu â gweld perthnasedd yr hyn sy'n digwydd dramor a bydd ymdrechion i greu cymdeithas fwy teg a chyfiawn yn cael eu peryglu. Os oes gennych chi unrhyw feddyliau neu awgrymiadau mewn perthynas â'r pwnc yma, yna e-bostiwch hwy i info@cyfanfyd.org.uk gan ddefnyddio The First Cut fel pwnc ar gyfer eich neges, neu ymunwch â Cyfanfyd i gynnig eich cefnogaeth er mwyn sicrhau sector gwirfoddol cryf a chanddo lais annibynnol a allai gael ei glywed.

Hyfforddiant Dynamig yn Brofiad Cadarnhaol

agm flipchartFel rhan o brosiect Southern Voices, fe unodd Cyfanfyd â Dynamix i ddatblygu diwrnod hyfforddi a oedd wedi'i fwriadu i gyflwyno dull seiliedig-ar-hawliau o ddysgu a hyfforddi mewn perthynas â materion byd-eang yn enwedig Nodau Datblygu'r Mileniwm. Cafodd cyfranogwyr y cyfle i archwilio'r cysylltiadau rhwng ADCDF a NDM ac ystyried y ffyrdd y mae'r rhain yn ddibynnol ar, ac yn cael eu trefnu gan hawliau dynol a hawliau'r plentyn. Bu'r cyfranogwyr yn defnyddio offer a thechnegau cyfranogol a chynhwysol y gellid eu haddasu ar gyfer yr amrywiaeth o sefyllfaoedd gwaith ac a oedd yn seiliedig ar gyhoeddiad Dynamix 'Children's Rights – Spice 'Em Up' (ar gael o www.dynamix.ltd.uk neu drwy anfon neges e-bost i info@dynamix.ltd.uk). Roedd yr adborth o'r diwrnod yn gadarnhaol tu hwnt, gydag un cyfranogwr yn nodi ei fod yn "hynod addysgiadol, diddorol a phryfoclyd".

Edrych i'r Dyfodol

agm talkDdiwrnod ar ôl i'r llywodraeth glymblaid newydd gyhoeddi'i thoriadau cyllidebol cyntaf – gan DFID mewn perthynas â phrosiectau ymwybyddiaeth o ddatblygu - roedd yr awyrgylch yn Fforwm Blynyddol Cyfanfyd yn adlewyrchu pryder a pheth ofn o ran yr hyn sy'n ein haros. Roedd y diwrnod wedi cael ei gynllunio gan roi ffocws clir ar ddyfodol ADCDF/ addysg datblygu yng Nghymru a'r DU ond bu i'r newyddion bod 5 o brosiectau ymwybyddiaeth o ddatblygu wedi cael eu dileu a bod y Gronfa Ymgysylltu â Datblygu Byd-eang wedi cael ei hatal daflu cysgod amheuaeth dros unrhyw weithgarwch yn y dyfodol. Roedd cynrychiolwyr mudiadau a sefydliadau yn y sector dysgu ffurfiol ac anffurfiol a'r sector gwirfoddol wedi dod ynghyd yn yr Eglwys Norwyaidd yng Nghaerdydd i glywed safbwyntiau siaradwyr gwadd am ddatblygiadau. Darllen mwy...

New Video Blog Documents Climate Change in Uganda

Blog Cymru o blaid Affrica

uganda video blogMae saith o weithwyr o gyrff anllywodraethol wedi cael eu hyfforddi i ddarparu deunydd fideo sy'n dangos sut y mae'r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar fywydau pobl yn rhanbarth Mbale yn Uganda. Byddant yn dod yn ohebwyr trwy hyfforddiant a ddarperir gan wneuthurwr ffilmiau profiadol. Mae deunydd cynnar yn cynnwys golygfeydd o'r tirlithriad diweddar a'i effeithiau dinistriol.

Y Byd, Heddiw

Mae Mehefin y 5ed yn Ddiwrnod Amgylchedd y Byd a'r thema ar gyfer 2010 yw "Mae ar eich Planed eich Angen – Unwch i Frwydro'n Erbyn y Newid yn yr Hinsawdd".
Mae datblygu cynaliadwy’n rhan flaenllaw o addewidion Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella lles cymdeithasol ac amgylcheddol pawb. I archwilio’i chynigion, gweler
http://wales.gov.uk/topics/sustainabledevelopment/?skip=1&lang=cy

Mae Diwrnod Amgylchedd y Byd yn cael ei nodi ers 1972, ac mae’n un o’r prif gyfryngau a ddefnyddir gan y Cenhedloedd Unedig i ysgogi ymwybyddiaeth fyd-eang o’r amgylchedd a hybu sylw a gweithredu gan wleidyddion. Fel rhan o’u hymgyrch eleni, maent yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd wrth enwi gorila bach a fydd yn cael ei ryddhau yn ôl i’r gwyllt. I ddysgu mwy, gweler http://www.unep.org/wed/2010/english/

Hyfforddiant i Hyfforddwyr

Mae Cyfanfyd yn cynnig hyfforddiant i hyfforddwyr mewn Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang trwy gwrs deuddydd a gynhelir yng Nghanolfan Gynadledda Broneirion yn Llandinam, Powys rhwng yr 22ain a'r 24ain o Fehefin 2010. Mae'r cwrs deuddydd wedi'i fwriadu i helpu hyfforddwyr a thiwtoriaid a chanddynt beth profiad o ddarparu hyfforddiant mewn ADCDF mewn amrywiaeth o leoliadau addysgol, megis hyfforddwyr athrawon, ymgynghorwyr AALl, tiwtoriaid gwaith ieuenctid, tiwtoriaid addysg oedolion neu diwtoriaid datblygu cymunedol. Nod y cwrs preswyl hwn yw gwella arferion cyfranogwyr a chynyddu eu hyder yn eu galluoedd fel hyfforddwyr mewn ADCDF. Mae'r cwrs yn costio £400 y pen i Eraill (£360 i aelodau Cyfanfyd), gan gynnwys llety a phrydau bwyd. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynychu gwblhau'r ffurflen sydd wedi'i hatodi a'i dychwelyd, naill ai trwy'r post neu drwy'r e-bost, i swyddfa Cyfanfyd erbyn dydd Gwener 23ain o Ebrill 2010. Mae bwrsariaethau ar gael i hyfforddwyr gan fudiadau sy'n cynrychioli pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a grwpiau ffydd lleiafrifol. Cysylltwch â Cyfanfyd i gael mwy o fanylion...


Mis i Gofio

Yn dilyn lansiad Mis Dathlu Hanes Sipsi, Roma a Theithwyr yn 2008, mae mis Mehefin wedi ennill ei blwyf yn gyflym fel amser pan fo cymunedau Sipsi, Roma a Theithwyr yn dod at ei gilydd gyda'r rheiny sy'n gweithio ym myd addysg, mewn amgueddfeydd, i'r heddlu a hyd yn oed mewn carchardai, i ddathlu ein hanes a'n diwylliant. I ddathlu hyn, mae Rhwydwaith Sector Gwirfoddol Pobl Dduon Cymru (BVSNW) a phartneriaeth o fudiadau ac asiantaethau lleol yn cynnal digwyddiad rhad ac am ddim i nodi Mis Dathlu Hanes Sipsi, Roma a Theithwyr. Fe'i cynhelir ar ddydd Mawrth 30ain o Fehefin o 10.00am tan 3.00pm yn neuadd fawreddog adeilad y siambr fasnach ym Mae Caerdydd. Bydd y digwyddiad yn cynnwys arddangosfeydd cerddorol a diwylliannol a'i nod yw rhoi cyfle i gymunedau Sipsi a Theithwyr yng Nghymru fynegi a dathlu eu diwylliant. Flyer...


Cymorth gyda Gwasanaethau

Mae adnoddau ar-lein Cymorth Cristnogol i athrawon yn galluogi athrawon i gyflwyno'r dimensiwn byd-eang fel rhan o'u diwrnod ysgol. Mae'r gwasanaethau a'r gweithgareddau a gemau dosbarth wedi'u bwriadu i helpu disgyblion i ymwneud â materion byd-eang a myfyrio ar eu rôl hwy eu hunain fel dinasyddion byd-eang. Mae'r gwasanaethau ar gyfer ysgolion cynradd mis yma'n ymchwilio rôl tadau a phwysigrwydd patrymau ymddygiad tadol mewn pryd ar gyfer Sul y Tadau, tra bo ysgolion uwchradd yn cael eu hannog i ystyried ymgyrch 1 Goal ar drothwy Cwpan Pêl-droed y Byd. Mae'r adnoddau hyn ar gael i'w lawrlwytho o wefan Cymorth Cristnogol. Gweler...


Mae’r E-fwletin yn rhoi gwybodaeth fisol am weithgareddau Cyfanfyd, ei aelod-sefydliadau a datblygiadau ADCDF yng Nghymru. Mae croeso i chi anfon gwybodaeth a newyddion erbyn y 19eg o’r mis i’w gynnwys ym mwletin y mis canlynol.

You’re receiving this newsletter because you are on Cyfanfyd’s Email list.

HTML Newsletter Design and Distribution by Seren-IT

[USERTRACK]