English - Cymraeg

logo education for sustainable development and global citizenship
addysg ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang a datblygu cynaliadwy

Changing with the Times

In response to far-reaching policies introduced by the coalition government, the Development Education Association (DEA) has issued a briefing for its members outlining ways in which they can adapt to the swingeing budget cuts that many are having to contend with.

The briefing deals with some of the main areas of change, including shifts in education policy, international development policy and economic policy and offers a number of practical responses which practitioners can make as well as measures being taken by the DEA itself.

To read the briefing in full, please follow the link...

More Support for Development Education?

The European Commission has published a report on Development Education and Awareness Raising in the European Union which aims to provide the EC with a number of strategies for improving their support for Education for Sustainable Development in Europe.

The Study was carried out by a team of five consultants who, in their main report, make recommendations on how the European Commission can augment its support to DEAR (Development Education and Awareness Raising) in the coming ten years.

The recommendations made in the report are currently being considered by the Commission. The extent to which future Calls for Proposals may be changed is not yet known but is likely to become clearer once the Commission has considered the Report.

The Study Report can be found here...

Down to Earth For the New Year

Down to Earth Project is a social enterprise specialising in Sustainability Education and Natural Building. Based on the Gower Peninsula, Swansea, they offer a range of programmes for disaffected young people and training programmes for adults in Traditional and Natural Building methods.

As a centre for Sustainability Education (ESDGC), they offer educational programmes and training for workers from informal and formal educational sectors. Similarly, they also work with schools and community organisations to design and build beautiful outdoor spaces using natural materials.

Having celebrated Christmas with warming winter fare (including pork from their own, hand-reared pigs) produced in a sustainable way, D2E are now hoping to ring in the new year with a fresh crop of courses and volunteer schemes.

With a Sustainable Swansea Low Carbon Communities Award under its belt, the D2E project is planning to increase public interest in sustainable lifestyle and traditional methods in 2011 with a number of courses including cob building and dry-stone walling. As well as this, they’re stepping up their volunteering programme to offer anybody the opportunity to augment their skills.

For more information on these courses or to find out how to volunteer, please visit http://www.downtoearthproject.org.uk/

Climate Consensus at Cancun

Following 2009’s meeting of the United Nations Framework Convention on Climate Change (UNFCCC) in Copenhagen, a new deal has been struck at last month’s negotiations in Cancun, Mexico.

The new deal falls short of a global treaty. However it has progressed from Copenhagen by getting all countries, with the notable exception of Bolivia, to sign up to an official UN document. Read more...

Learn New Skills for the New Year

The Environmental Training Network is ringing the changes with a series of exciting new courses which will be available to join in the next couple of months. As well as this, the ETN is re-launching some of its most popular courses. Participants will be able to actively engage with courses on everything from fundraising and working with schools to working with willow and setting up allotments. For a complete list of the courses on offer, please follow the link here...
For further details or to book a place, please contact either Jacki or Helen at ETN on 0121 359 2113 or Email.


Quiz from the Red Cross

The British Red Cross news quiz takes six iconic photographs from the year's news and combines them with testing questions and challenges to help rationalise 2010 in a fun and evocative way. Based on high-quality news photographs, it is designed as an educational quiz and can also be used to encourage open discussion in the classroom or in the work place. To find out more or to view the quiz, please follow the link...


Assembly Aid

Christian Aid’s online teachers’ resources allow teachers to introduce the global dimension to their school day. The assemblies, classroom activities and games are intended to help students engage with world issues and reflect on their own role as global citizens.The first assembly of the new year coincides with the first anniversary of the Haitian earthquake. The assembly will help primary and secondary school pupils to understand how the disaster affected so many people's lives and how, one year on, people are still struggling to come to terms with what happened. As well as this, Christian Aid offers other free teaching aids such as 'simulation games' and whiteboard resources, which are all geared towards making global issues real and involving in the classroom. These resources are available as downloads from Christian Aid’s website.


The E-Bulletin provides a monthly update on the activities of Cyfanfyd, its member organisations and developments in ESDGC in Wales. You are welcome to send us information and news by the deadline of the 19th of the month for inclusion in the next month’s bulletin.

Newid gyda'r Oes

Mewn ymateb i bolisïau pellgyrhaeddol a gyflwynwyd gan y Llywodraeth glymblaid, mae’r Gymdeithas Addysg Datblygu (DEA) wedi cyhoeddi papur briffio ar gyfer ei haelodau sy’n amlinellu ffyrdd y gallant addasu er mwyn dygymod â’r toriadau llym mewn cyllidebau y mae nifer yn gorfod ymgodymu â hwy.

Mae’r papur briffio’n ymdrin â rhai o’r prif feysydd sy’n newid, gan gynnwys newidiadau mewn polisi addysg, polisi datblygu rhyngwladol a pholisi economaidd ac mae’n cynnig nifer o ymatebion ymarferol y gall ymarferwyr eu rhoi ar waith yn ogystal â mesurau sy’n cael eu cymryd gan DEA ei hun.

I ddarllen y papur briffio’n llawn, dilynwch y ddolen isod...

Ceir mwy o wybodaeth am DEA yn www.dea.org.uk

Mwy o Gymorth i Addysg Datblygu?

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi adroddiad ar Addysg Datblygu a Chodi Ymwybyddiaeth yn yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi’i fwriadu i roi i’r CE nifer o strategaethau ar gyfer gwella’r cymorth a roddir ganddo i Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy yn Ewrop.

Cwblhawyd yr Astudiaeth gan dîm o bump o ymgynghorwyr sydd, yn eu prif adroddiad, yn gwneud argymhellion o ran sut y gall y Comisiwn Ewropeaidd gynyddu’r cymorth a roddir ganddo i DEAR (Addysg Datblygu a Chodi Ymwybyddiaeth) dros y deng mlynedd nesaf.

Mae’r argymhellion a wneir yn yr adroddiad yn cael eu hystyried ar hyn o bryd gan y Comisiwn. Ni wyddys eto i ba raddau y gallai Galwadau am Gynigion gael eu newid yn y dyfodol ond mae hyn yn debygol o ddod yn fwy eglur unwaith y bydd y Comisiwn wedi ystyried yr Adroddiad.

Gellir gweld yr Adroddiad ar yr Astudiaeth yn...

Blwyddyn Newydd, Gweithgareddau Newydd

Mae prosiect Down to Earth yn fenter gymdeithasol sy’n arbenigo mewn Addysg Cynaliadwyedd ac Adeiladu Naturiol. Mae’r prosiect, sydd wedi’i leoli ym Mhenrhyn Gŵyr, Abertawe, yn cynnig ystod o raglenni ar gyfer pobl ifanc sydd wedi’u dadrithio a rhaglenni hyfforddi i oedolion mewn dulliau Adeiladu Traddodiadol a Naturiol.

Fel canolfan ar gyfer Addysg Cynaliadwyedd (ADCDF), maent yn cynnig rhaglenni addysgol a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr o sectorau addysg anffurfiol a ffurfiol. Yn yr un modd, maent hefyd yn gweithio gydag ysgolion a mudiadau cymunedol i ddylunio ac adeiladu mannau hardd yn yr awyr agored gan ddefnyddio deunyddiau naturiol.

A hwythau wedi dathlu’r Nadolig â bwyd cynhesol ar gyfer y gaeaf (gan gynnwys porc o’u moch llawfaeth hwy eu hunain) a gynhyrchwyd mewn ffordd gynaliadwy, yn awr mae D2E yn gobeithio croesawu’r Flwyddyn Newydd â chnwd newydd o gyrsiau a chynlluniau gwirfoddoli.

Mae prosiect D2E, sydd eisoes wedi ennill Gwobr Cymunedau Carbon Isel Abertawe Gynaliadwy, yn bwriadu cynyddu diddordeb y cyhoedd mewn ffordd gynaliadwy o fyw a dulliau traddodiadol yn 2011 â nifer o gyrsiau gan gynnwys adeiladu tŷ clom a waliau cerrig sychion. Yn ogystal â hyn maent yn datblygu eu rhaglen wirfoddoli i gynnig y cyfle i unrhyw un gynyddu ei sgiliau.

I gael mwy o wybodaeth am y cyrsiau hyn neu i gael gwybod sut i wirfoddoli, gweler http://www.downtoearthproject.org.uk/

Consensws ar yr Hinsawdd yn Cancun

Yn dilyn cyfarfod Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd (UNFCCC) yng Nghopenhagen yn 2009, trawyd bargen newydd yn nhrafodaethau mis diwethaf yn Cancun, Mecsico.

Nid yw’r fargen newydd yn gymaint â chytundeb byd-eang. Fodd bynnag, mae’n gam ymlaen ers Copenhagen gan fod yr holl wledydd, heblaw am un eithriad amlwg sef Bolifia, yn cefnogi dogfen swyddogol gan y Cenhedloedd Unedig.

Darllen mwy...

Dysgwch Sgiliau Newydd ar gyfer y Flwyddyn Newydd

Mae’r Rhwydwaith Hyfforddiant Amgylcheddol yn cyflwyno llu o newidiadau gyda chyfres o gyrsiau newydd cyffrous a fydd ar gael i bobl ymuno â hwy dros y ddau fis nesaf. Yn ogystal â hyn, mae ETN yn ail-lansio rhai o’i gyrsiau mwyaf poblogaidd. Bydd cyfranogwyr yn gallu ymwneud yn weithredol â chyrsiau am bopeth o godi arian a gweithio gydag ysgolion i weithio gyda helyg a sefydlu rhandiroedd. I gael rhestr gyflawn o’r cyrsiau a fydd yn cael eu cynnig, dilynwch y ddolen isod os gwelwch yn dda...
I gael mwy o fanylion neu i archebu lle, cysylltwch â naill ai Jacki neu Helen yn ETN ar 0121 359 2113 neu anfonwch neges E-bost i ETN@btcv.org.uk.


Cwis gan y Groes Goch

Mae cwis newyddion y Groes Goch Brydeinig yn defnyddio chwe ffotograff eiconig o newyddion y flwyddyn ac yn eu cyfuno â chwestiynau a heriau anodd er mwyn helpu i resymoli 2010 mewn ffordd hwyliog a phryfoclyd.
Mae’r cwis, sy’n seiliedig ar ffotograffau newyddion uchel eu hansawdd, wedi’i fwriadu i fod yn gwis addysgol a gellir ei ddefnyddio hefyd i ysgogi trafodaeth agored yn yr ystafell ddosbarth neu yn y gweithle.
I gael gwybod mwy neu i weld y cwis, dilynwch y ddolen isod os gwelwch yn dda...


Cymorth gyda Gwasanaethau

Mae adnoddau ar-lein Cymorth Cristnogol i athrawon yn galluogi athrawon i gyflwyno’r dimensiwn byd-eang yn eu diwrnod ysgol. Mae’r gwasanaethau, y gweithgareddau dosbarth a’r gemau wedi’u bwriadu i helpu disgyblion i ymgysylltu â materion byd a myfyrio ar eu rôl hwy eu hunain fel dinasyddion byd-eang. Cynhelir gwasanaeth cyntaf y Flwyddyn Newydd wrth i ni nodi blwyddyn ers y daeargryn yn Haiti. Bydd y gwasanaeth yn helpu disgyblion cynradd ac uwchradd i ddeall sut yr effeithiodd y trychineb ar fywydau cymaint o bobl a sut, flwyddyn yn ddiweddarach, y mae pobl yn dal i'w chael yn anodd dod i delerau â'r hyn a ddigwyddodd. Yn ogystal â hyn, mae Cymorth Cristnogol yn cynnig cymhorthion dysgu eraill am ddim megis ‘gemau efelychu’ ac adnoddau ar gyfer y bwrdd gwyn, y cwbl wedi’u bwriadu i’w gwneud yn bosib cyflwyno materion byd-eang mewn ffordd real a ffordd sy’n cynnwys disgyblion yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r adnoddau hyn ar gael i’w lawrlwytho o wefan Cymorth Cristnogol. Gweler

Mae’r E-fwletin yn rhoi gwybodaeth fisol am weithgareddau Cyfanfyd, ei aelod-sefydliadau a datblygiadau ADCDF yng Nghymru. Mae croeso i chi anfon gwybodaeth a newyddion erbyn y 19eg o’r mis i’w gynnwys ym mwletin y mis canlynol.

You’re receiving this newsletter because you are on Cyfanfyd’s Email list.

HTML Newsletter Design and Distribution by Seren-IT