![]() |
education for sustainable development and global citizenship |
| addysg
ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang a datblygu cynaliadwy |
|
2011 has been designated the 'International Year of Forests' by the United Nations. It is widely anticipated as being a seminal period in the development of ESDGC (Education for Sustainable Development and Global Citizenship) as the importance of sustainable modes of international development, as well as the education to ensure that responsible use of the World's resources becomes the norm, becomes ever more apparent. Throughout 2011, Cyfanfyd will be providing events and training opportunities in venues right across Wales. They will encompass a broad spectrum of academic and practical issues concerning the delivery of ESDGC and will provide practitioners with all they need to be confident on the topic and to help others to better understand their global roles and responsibilities. Courses will be available on everything from understanding and applying ESDGC to engagement with the UN Millennium Development Goals. There will also be events centring upon the importance of faith and minority ethnic organisations in ESDGC and black history and its contribution to development. For more details on specific courses, please e-mail info@cyfanfyd.org.uk or telephone 02920 668999. Download the full training calendar for 2011...
Confucius for Kids? Philosophy for Children (P4C) is a classroom method which helps to improve pupils' critical thinking skills and their ability to work cooperatively. It is intended to foster an atmosphere of open, creative discussion among pupils of all ages and its effectiveness has been noted in many school inspection reports and academic studies. The courses are aimed at primary and secondary school teachers who want to cultivate a more involving atmosphere in the class-room for their pupils. Level 1 classes are to take place in the Temple of Peace in Cardiff's Cathays Park on the 31st of January and the 1st of February 2011 and in the University of Wales, Trinity St David's in Camarthen on the 10th and 11th of March 2011. If you are interested in attending, please send the booking form to: Council for Education in World Citizenship – Cymru, Temple of Peace, Cathays Park, Cardiff, CF10 3AP, or visit www.cewc-cymru.org.uk for more information. The Study Report can be found here...
Lesbian, Gay, Bisexual and Transgender History Month Prior to the 2003 repeal of the controversial Section 28 of the Local Government Act in 2003, teachers were banned from discussing LGBT issues in class with their pupils. The act, which had been in effect since 1988, was intended to reinforce 'traditional' family values and had the support of many religious groups and MPs but has since been criticised for promoting ignorance of the topic and anti LGBT sentiment. The beginning of February marks the start of a month long annual celebration of Lesbian, Gay, Bisexual and Transgender history and related gay rights movements, designed to remember and celebrate the act's repeal in November 2003. The event aims to promote the virtues of diversity and cultural pluralism, particularly in schools which play a crucial role in educating for equality and strive to offer a safe and secure learning environment in which they can thrive. If you are interested in organizing an event in your area or would like to access educational toolkits for LGBT History Month, visit www.lgbthistorymonth.org.uk.
Hive of Activity! Bees have always been tremendously important in an environmentally sustainable society. They help to pollinate fruit and vegetables and offer many people an ecologically sound and traditionally rooted livelihood. Yet bees have been under threat recently. The once ubiquitous honey-bee is dying off, throwing our entire food-chain out of balance. Many scientists blame toxic, nicotine derived pesticides for the bees' decline and four European governments have already banned them. Political lobbyists Avaaz have launched a campaign to get the US and the EU to follow suit and join the ban. This, they hope, would prompt other governments across the world to follow, and save bees from extinction. To register your support and to sign the petition, please visit https://secure.avaaz.org/en/save_the_bees/?vl |
|
||||
The E-Bulletin provides a monthly update on the activities of Cyfanfyd, its member organisations and developments in ESDGC in Wales. You are welcome to send us information and news by the deadline of the 19th of the month for inclusion in the next month’s bulletin. |
|||||
Hyfforddiant a Digwyddiadau yn 2011 Mae 2011 wedi cael ei dynodi'n 'Flwyddyn Ryngwladol y Coedwigoedd' gan y Cenhedloedd Unedig. Disgwylir yn eang y bydd y flwyddyn yn gyfnod arloesol yn natblygiad ADCDF (Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang) wrth i bwysigrwydd dulliau cynaliadwy o ddatblygu rhyngwladol, yn ogystal ag addysg i sicrhau bod defnydd cyfrifol o adnoddau'r Byd yn dod yn rhywbeth arferol, ddod yn fwyfwy amlwg. Trwy gydol 2011, bydd Cyfanfyd yn darparu digwyddiadau a chyfleoedd hyfforddi mewn lleoliadau ledled Cymru. Byddant yn cwmpasu sbectrwm eang o faterion academaidd ac ymarferol sy'n ymwneud â chyflwyno ADCDF a byddant yn darparu popeth y mae ar ymarferwyr ei angen i fod yn hyderus yn y pwnc a helpu eraill i fod â gwell dealltwriaeth am eu rolau a chyfrifoldebau byd-eang. Bydd cyrsiau ar gael ar bopeth o ddeall a chymhwyso ADCDF i ymgysylltu â Nodau Datblygu'r Mileniwm gan y Cenhedloedd Unedig. Byddwn hefyd yn trefnu digwyddiadau a fydd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd mudiadau ffydd ac ethnig lleiafrifol mewn ADCDF a hanes pobl dduon a'i gyfraniad tuag at ddatblygu. I gael mwy o fanylion am gyrsiau penodol, anfonwch neges e-bost i info@cyfanfyd.org.uk neu ffoniwch 02920 668999. I gael gweld y calendr hyfforddiant ar gyfer 2011 yn ei grynswth, cliciwch yma.
Plotinus i'r Plantos? Mae Athroniaeth i Blant (P4C) yn ddull o weithio yn yr ystafell ddosbarth sy'n helpu i wella sgiliau meddwl beirniadol disgyblion a'u gallu i gydweithio. Mae'r dull wedi'i fwriadu i feithrin awyrgylch o drafod agored, creadigol ymhlith disgyblion o bob oed ac mae effeithiolrwydd y dull hwn wedi cael ei nodi mewn sawl adroddiad arolygu ysgol ac mewn astudiaethau academaidd. Mae'r cyrsiau wedi'u bwriadu ar gyfer athrawon cynradd ac uwchradd sy'n dymuno meithrin awyrgylch sy'n cynnwys disgyblion yn fwy yn yr ystafell ddosbarth. Cynhelir dosbarthiadau Lefel 1 yn y Deml Heddwch ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd ar yr 31ain o Ionawr a'r 1af o Chwefror 2011 ac ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin ar y 10fed a'r 11eg o Fawrth 2011. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu, cwblhewch y ffurflen gais a'i hanfon i'r cyfeiriad canlynol: Y Cyngor Addysg mewn Dinasyddiaeth Byd – Cymru, Y Deml Heddwch, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3AP, neu ewch at y wefan yn www.cewc-cymru.org.uk i gael mwy o wybodaeth.
Mis Dathlu Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol Cyn diddymu deddfwriaeth ddadleuol, sef Adran 28 o'r Ddeddf Llywodraeth Leol, yn 2003, roedd athrawon yn cael eu gwahardd rhag trafod materion sy'n ymwneud â Phobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yn y dosbarth gyda'u disgyblion. Roedd y ddeddf, a oedd wedi bod mewn grym er 1988, wedi'i bwriadu i atgyfnerthu gwerthoedd teuluol 'traddodiadol' ac roedd yn cael ei chefnogi gan nifer o grwpiau crefyddol ac Aelodau Seneddol ond mae wedi cael ei beirniadu ers hynny am hybu anwybodaeth am y pwnc a theimladau yn erbyn Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol. Mae dechrau mis Chwefror yn nodi dechrau mis cyfan o ddigwyddiadau a gynhelir yn flynyddol i ddathlu hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol a mudiadau cysylltiedig sy'n brwydro dros hawliau pobl hoyw, er mwyn cofio a dathlu diddymu'r ddeddf ym mis Tachwedd 2003. Nod y dathliad yw hyrwyddo rhinweddau amrywiaeth a plwraliaeth ddiwylliannol, yn enwedig mewn ysgolion sy'n chwarae rhan hollbwysig o ran addysgu cydraddoldeb ac sy'n ymdrechu i gynnig amgylchedd dysgu saff a diogel y gall disgyblion ffynnu ynddo. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn trefnu digwyddiad yn eich ardal chi neu os hoffech gael mynediad at becynnau cymorth addysgol ar gyfer Mis Dathlu Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol, gweler www.lgbthistorymonth.org.uk
Gwarchod y Gwenyn! Mae gwenyn wastad wedi bod yn eithriadol o bwysig mewn cymdeithas sy'n amgylcheddol gynaliadwy. Maent yn helpu i beillio ffrwythau a llysiau ac yn cynnig bywoliaeth ecolegol gadarn a thraddodiadol i nifer o bobl. Eto mae gwenyn wedi bod dan fygythiad yn ddiweddar. Mae'r wenynen fêl, a oedd unwaith yn bresennol ym mhobman, yn darfod o'r tir, gan ddifetha cydbwysedd ein holl gadwyn fwyd. Mae nifer o wyddonwyr yn beio plaleiddiaid sy'n deillio o nicotin am ddirywiad y gwenyn ac mae pedair Llywodraeth yn Ewrop eisoes wedi'u gwahardd. Mae'r lobïwyr amgylcheddol Avaaz wedi lansio ymgyrch i annog UDA a'r UE i wneud yr un modd ac ymuno â'r gwaharddiad. Eu gobaith yw y byddai hyn yn ysgogi llywodraethau eraill ledled y byd i ddilyn eu hesiampl ac achub y gwenyn rhag difodiant. I gofrestru eich cefnogaeth ac i lofnodi'r ddeiseb, gweler https://secure.avaaz.org/en/save_the_bees/?vl |
|
||||
Mae’r E-fwletin yn rhoi gwybodaeth fisol am weithgareddau Cyfanfyd, ei aelod-sefydliadau a datblygiadau ADCDF yng Nghymru. Mae croeso i chi anfon gwybodaeth a newyddion erbyn y 19eg o’r mis i’w gynnwys ym mwletin y mis canlynol. |
|||||
You’re
receiving this newsletter because you are on Cyfanfyd’s Email list.
HTML Newsletter Design and Distribution by Seren-IT