![]() |
education for sustainable development and global citizenship |
| addysg
ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang a datblygu cynaliadwy |
One World Week Handbook Launch The staff of One World Week are gathering together this month to officially launch "Piecing Together One World - A handbook for taking local action for global justice", a resource that brings together the findings of their three year 'Ubuntu' project. The handbook is intended as an accessible resource for any individual or group wishing to take local action for global justice. To find out more about One World Week, please visit www.oneworldweek.org
Training in ESDGC Cyfanfyd will be providing a one-day introductory training course for individuals and organisations that are new to ESDGC (Education for Sustainable Development and Global Citizenship). The training will take the form of a practical cross-sectoral course which will provide the necessary background information and help practitioners to develop the skills needed to engage in this exciting area of work. The aim of the Course is to provide an overall picture of ESDGC and to outline what it's about and how to incorporate it into practitioners' work. There will be an opportunity to explore the concepts and issues involved in ESDGC and to experiment with various techniques and resources that support it and to consider how this fits in with Welsh Assembly policies and with personal training practice.
Wales' new Climate Change Champion Hannah Jewell Flintshire has been announced as one of five Climate Change Champions for 2011. She has, along with the other winners, the special brief of communicating 11 actions that people across Wales can take to reduce their carbon footprint. The first 'Climate Change Champions' competition was launched in 2008 to give young individuals a platform to use their passion to influence their communities, families and friends to help Wales reduce its carbon footprint.
"Young people continue to play a vital role in helping us achieve our aims for a more sustainable Wales. The five outstanding individuals who have been named Climate Change Champions for 2011 will play a key role in sharing messages across the country about climate change, nature and the environment. They will inspire people to make pledges and take actions which will make a difference, and I look forward to hearing their aspirations and plans for the year ahead." As a Climate Change Champion, Hannah will organise events in schools and community groups across North Wales to encourage more people to pledge to complete at least 3 of the 11 actions to reduce their carbon footprint. You can pledge to take some of the 11 actions and find out more about the Champions at www.walescarbonfootprint.gov.uk/11actions
Nietzsche for Teachers? Philosophy for Children (P4C) is a classroom method which helps to improve pupils' critical thinking skills and their ability to work cooperatively. It is intended to foster an atmosphere of open, creative discussion among pupils of all ages and its effectiveness has been noted in many school inspection reports and academic studies. The courses are aimed at primary and secondary school teachers who want to cultivate a more involving atmosphere in the class-room for their pupils. Level 1 classes are to take place in the Temple of Peace in Cardiff's Cathays Park on the 10th and the 11th of May 2011 and in the Plas Dolerw in Newtown on the 23rd and the 24th of June 2011. If you are interested in attending, please send the attached booking form to: Council for Education in World Citizenship – Cymru, Temple of Peace, Cathays Park, Cardiff, CF10 3AP, or visit www.cewc-cymru.org.uk for more information. |
NEW: Follow us on... |
|||||
The E-Bulletin provides a monthly update on the activities of Cyfanfyd, its member organisations and developments in ESDGC in Wales. You are welcome to send us information and news by the deadline of the 19th of the month for inclusion in the next month’s bulletin. |
||||||
Lansio Llawlyfr Wythnos Un Byd Mae staff Wythnos Un Byd yn ymgynnull y mis hwn ar gyfer lansiad swyddogol "Piecing Together One World – A handbook for taking local action for global justice", adnodd sy'n dwyn ynghyd ganfyddiadau eu prosiect 'Ubuntu' a gwblhawyd dros gyfnod o dair blynedd. Mae'r llawlyfr wedi'i fwriadu fel adnodd hygyrch ar gyfer unrhyw unigolyn neu grŵp sy'n dymuno gweithredu'n lleol dros gyfiawnder byd-eang. I gael gwybod mwy am Wythnos Un Byd, gweler www.oneworldweek.org
Hyfforddiant mewn ADCDF Bydd Cyfanfyd yn darparu cwrs hyfforddi undydd ar gyfer unigolion a sefydliadau y mae ADCDF (Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang) yn newydd iddynt. Bydd yr hyfforddiant yn digwydd ar ffurf cwrs traws-sectoraidd ymarferol a fydd yn rhoi'r wybodaeth gefndir angenrheidiol ac yn helpu ymarferwyr i ddatblygu'r sgiliau y mae eu hangen i ymwneud â'r maes cyffrous hwn. Nod y cwrs yma yw rhoi darlun cyffredinol o ADCDF ac egluro beth ydyw a sut i'w gynnwys yng ngwaith ymarferwyr. Bydd cyfle i archwilio'r cysyniadau a'r materion sy'n rhan o ADCDF ac arbrofi ag amryw dechnegau ac adnoddau sy'n ategu ADCDF ac ystyried sut y mae hyn yn cyd-fynd â pholisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ac ymarfer hyfforddiant personol.
Hyrwyddwr Newid Hinsawdd newydd Cymru Mae Hannah Jewell o Sir y Fflint wedi cael ei henwi'n un o bump o Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd ar gyfer 2011. Mae hi, ar y cyd â'r enillwyr eraill, wedi cael gorchwyl arbennig i gyfleu 11 o gamau gweithredu y gall pobl ledled Cymru eu cymryd i leihau eu hôl troed carbon. Cafodd y gystadleuaeth 'Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd' gyntaf ei lansio yn 2008 i roi llwyfan i unigolion ifainc ddefnyddio'u brwdfrydedd i ddylanwadu ar eu cymunedau, eu teuluoedd a'u ffrindiau i helpu Cymru i leihau ei hôl troed carbon. "Mae pobl ifanc yn dal i chwarae rhan hollbwysig wrth ein helpu i gyrraedd ein nodau ar gyfer Cymru fwy cynaliadwy. Bydd y pum unigolyn neilltuol sydd wedi'u henwi'n Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd ar gyfer 2011 yn cyflawni rôl allweddol trwy rannu negeseuon ar hyd a lled y wlad am y newid yn yr hinsawdd, natur a'r amgylchedd. Byddant yn ysbrydoli pobl i wneud addunedau a chymryd camau gweithredu a fydd yn gwneud gwahaniaeth, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed am eu dyheadau a'u cynlluniau am y flwyddyn sydd i ddod." Fel Hyrwyddwr Newid Hinsawdd, bydd Hannah yn trefnu digwyddiadau mewn ysgolion a grwpiau cymunedol ledled Gogledd Cymru i annog mwy o bobl i ymrwymo i gwblhau o leiaf 3 o'r 11 o gamau gweithredu i leihau eu hôl troed carbon. Fe allwch chi ymrwymo i gymryd rhai o'r 11 o gamau gweithredu a dod i wybod mwy am yr Hyrwyddwyr yn www.walescarbonfootprint.gov.uk/11actions
Nietzsche i Athrawon? Mae Athroniaeth i Blant (P4C) yn ddull o weithio yn yr ystafell ddosbarth sy'n helpu i wella sgiliau meddwl beirniadol disgyblion a'u gallu i gydweithio. Mae'r dull wedi'i fwriadu i feithrin awyrgylch o drafod agored, creadigol ymhlith disgyblion o bob oed ac mae effeithiolrwydd y dull hwn wedi cael ei nodi mewn sawl adroddiad arolygu ysgol ac mewn astudiaethau academaidd. Mae'r cyrsiau wedi'u bwriadu ar gyfer athrawon cynradd ac uwchradd sy'n dymuno meithrin awyrgylch sy'n cynnwys disgyblion yn fwy yn yr ystafell ddosbarth. Cynhelir dosbarthiadau Lefel 1 yn y Deml Heddwch ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd ar y 10fed a'r 11eg o Fai 2011 ac ym Mhlas Dolerw yn y Drenewydd ar y 23ain a'r 24ain o Fehefin 2011. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu, anfonwch y ffurflen archebu sydd wedi'i hatodi i'r cyfeiriad canlynol: Y Cyngor Addysg mewn Dinasyddiaeth Byd – Cymru, Y Deml Heddwch, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3AP, neu ewch at y wefan yn www.cewc-cymru.org.uk i gael mwy o wybodaeth.
Adnoddau Newydd ar gyfer Uwchgynhadledd Ieuenctid y Gymanwlad Yn barod ar gyfer Uwchgynadleddau Ieuenctid y Gymanwlad yn 2011, mae athrawon ac arweinwyr ieuenctid yn cael eu gwahodd i redeg pedair sesiwn gyflym gyda'u pobl ifanc i'w cyflwyno i'r Gymanwlad a Nodau Datblygu'r Mileniwm gan y Cenhedloedd Unedig, gyda phwyslais arbennig ar Addysg ac Iechyd i Bawb. Mae'r adnoddau hyn wedi'u bwriadu i gyd-daro â Diwrnod y Gymanwlad (14eg o Fawrth) a fydd yn cael ei nodi ledled y Gymanwlad Brydeinig. Thema'r digwyddiad yn 2011 yw 'Menywod fel Asiantau Newid'. |
Cyswllt... |
|||||
Mae’r E-fwletin yn rhoi gwybodaeth fisol am weithgareddau Cyfanfyd, ei aelod-sefydliadau a datblygiadau ADCDF yng Nghymru. Mae croeso i chi anfon gwybodaeth a newyddion erbyn y 19eg o’r mis i’w gynnwys ym mwletin y mis canlynol. |
||||||
You’re
receiving this newsletter because you are on Cyfanfyd’s Email list.
HTML Newsletter Design and Distribution by Seren-IT