Ynglŷn â Cyfanfyd

Cyfanfyd yw cymdeithas addysg datblygu Cymru. Fe’i ffurfiwyd ym 1996 i hybu a hyrwyddo gwaith y rheiny sy’n creu dealltwriaeth well am faterion byd-eang a materion yn gysylltiedig â datblygu yng Nghymru.

Mae Cyfanfyd yn ffynhonnell gwybodaeth a chymorth i’n haelodau ac yn lobïo cyrff y Llywodraeth yng Nghymru er mwyn iddynt gydnabod pwysigrwydd addysg dinasyddiaeth fyd-eang .

Mae aelodaeth o Cyfanfyd yn agored i bob corff ac unigolyn sydd â diddordeb mewn addysg dinasyddiaeth fyd-eang.

Ar hyn o bryd mae gennym 65 o aelodau sy’n amrywio o elusennau cenedlaethol mawr megis Oxfam Cymru a Chymorth Cristnogol i gefnogwyr unigol a grwpiau cymunedol.

Mae pob un o aelodau Cyfanfyd yn elwa o’r canlynol:

  • Mynediad at rwydwaith e-bost Cyfanfyd sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am addysg dinasyddiaeth fyd-eang yng Nghymru;
  • Pedwar rhifyn bob blwyddyn o’n cylchlythyr ‘Newyddion Cyfanfyd’ sy’n cynnwys erthyglau am addysg datblygu o bob rhan o Gymru;
  • Cyfraddau gostyngol ar gyfer holl ddigwyddiadau hyfforddi Cyfanfyd gan gynnwys hyfforddiant i sectorau penodol ym meysydd gwaith; ieuenctid byd-eang, addysg ffurfiol a dysgu gydol oes a hyfforddiant generig mewn codi arian a lobïo;
  • Cyngor ynghylch yr adnoddau dinasyddiaeth fyd-eang diweddaraf mewn ysgolion ac amgylcheddau dysgu eraill;
  • Mynediad at ddigwyddiadau rhwydweithio Cyfanfyd i hwyluso trafodaethau rhwng cyrff o’r un anian yng Nghymru.

Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.