I frwydro yn erbyn effeithiau negyddol yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, mae’r Rhwydwaith Hyfforddwyr Amgylcheddol (ETN) yn cynnig disgownt o 50% i’w aelodau ar ei gyrsiau cyfredol.
Mae’r Rhwydwaith Hyfforddwyr Amgylcheddol (ETN) yn cynnig ystod o gyrsiau yn 2011 ar gyfer athrawon a hyfforddwyr sydd â diddordeb mewn hybu ADCDF yn eu gwaith yn ogystal ag unrhyw rai sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau neu eu profiadau mewn rolau galwedigaethol.
Mae’r cyrsiau sydd ar gael ym mis Rhagfyr yn cynnwys ‘sefydlu prosiect rhandiroedd’, ‘cynnwys gwirfoddolwyr anabl’, ‘cyflwyniad i reoli’, ‘sut i ysgrifennu adroddiadau ardderchog’ a ‘sgiliau ar gyfer cyflwyno i bobl ifanc’.
Mae holl gyrsiau ETN yn dra chymeradwy fel ffyrdd o wella portffolio o waith neu o baratoi neu ysbrydoli tiwtor ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol. I archebu lle neu i gael gwybod mwy am y cyrsiau hyn (neu gyrsiau yn y dyfodol), ewch at y wefan http://www2.btcv.org.uk/display/etn.