Fis nesaf, bydd Cyfanfyd yn cynnal diwrnod ‘Adnoddau a Gweithgareddau’ a fydd yn rhoi’r cyfle i ymarferwyr ADCDF archwilio gweithgareddau newydd sy’n gysylltiedig â darparu ADCDF yn ogystal â chael hyfforddiant mewn adnoddau a strategaethau ymarferol newydd ar gyfer integreiddio a hyrwyddo gwybodaeth am ADCDF.
Cynhelir y digwyddiad ar ddydd Iau’r 19eg o Ionawr 2012, yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd.
Bydd y diwrnod yn darparu hyfforddiant ardderchog ar gyfer athrawon, gweithwyr ieuenctid, tiwtoriaid addysg oedolion a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n awyddus i gyfnerthu eu gwybodaeth am arfer da cyfredol, cyfoes ym maes ADCDF ac sydd â’u bryd ar greu perthynas agosach rhwng eu gwaith ac egwyddorion ADCDF.
Cynhelir yr hyfforddiant rhwng 9:30am a 3:30pm. Cost y digwyddiad yw £50 i aelodau Cyfanfyd a £65 i rai nad ydynt yn aelodau. Mae pecyn adnoddau rhad ac am ddim wedi’i gynnwys yn y pris i’r holl gyfranogwyr. I gael mwy o wybodaeth neu i archebu lle cysylltwch â Lorraine@cyfanfyd.org.uk neu cwblhewch y ffurflen archebu sydd wedi’i hatodi a’i dychwelyd i Cyfanfyd.