Mae Ieuenctid ar Waith yn gronfa Ewropeaidd sy’n galluogi hyfforddiant a symudedd i bobl ifanc a’r rheiny sy’n gweithio gyda hwy/drostynt ar draws a rhwng gwledydd yr UE (a thu hwnt). Derbyniodd Cyfanfyd gyllid yn ddiweddar i lywyddu Ymweliad Dichonolrwydd gyda chynrychiolwyr Canolfan Grymuso Affrica yn Stockholm a’r gobaith yw y bydd hyn yn arwain at brosiectau, gweithgareddau a chysylltiadau yn y dyfodol rhwng ein dwy wlad.
Treuliodd Amra Heco ac Amin Barkhardle dridiau yng Nghymru ac fe gawsant gyfarfodydd ffurfiol ac anffurfiol gyda Cyfanfyd a chydweithwyr eraill, i rannu syniadau a thrafod gwaith posib yn y dyfodol.
Dechreuodd yr ymweliad â sesiwn ‘dod i’ch adnabod’ gyda Cyfanfyd ac wedyn cafwyd cyfarfodydd anffurfiol gyda chynrychiolwyr o UNA Cyfnewid, FRED (Y Sefydliad Dros Addysg Ffoaduriaid), Cymorth Cristnogol, Tîm Cymunedau Ethnig Lleiafrifol yn Gyntaf a gweithiwr ieuenctid Simbabweaidd o Gasnewydd. Roedd y meysydd trafod yn cynnwys grymuso pobl ifanc ac addysg am Nodau Datblygu’r Mileniwm, Hawliau, hunaniaeth, dinasyddiaeth a democratiaeth. Roedd y rhain yn themâu a fyddai’n codi eto yn ystod yr ymweliad ac a allai fod yn sail i gydweithio yn y dyfodol.
Cynhaliwyd ymweliadau mwy manwl hefyd, gan ddechrau â’r Gymdeithas Integreiddio Somaliaid yng Nghaerdydd, a oedd yn gyfle i Amra ac Amin ddeall ac ymweld â chymuned Somalïaidd hirsefydlog y ddinas a gweld gweithwyr ieuenctid wrth eu gwaith yn ardal Butetown.
Fe ymwelodd y ddwy hefyd ag Abertawe i gwrdd â chynrychiolwyr y Ddinas Noddfa a Grŵp Cymorth i Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Bae Abertawe ac i glywed am yr ymdrechion i wneud Abertawe’n lle diogel a chroesawgar i bobl ddod iddo. Wedi hynny fe dreulion ni amser gyda’r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) ac fe gawsom ymweld â’u canolfan galw heibio wobrwyol a chwrdd â gweithwyr a phobl ifanc yno. Bu i’r ymweliadau hyn amlygu anghenion pobl ifanc sy’n ceisio integreiddio i ddiwylliant newydd gan gynnal eu hunaniaeth ethnig a’u cysylltiadau â’u mamwlad.
Roedd diwrnod dilynol ar ddiwedd hyn oll yn gyfle i ni werthuso’r ymweliad a dechrau gwneud cynlluniau ar gyfer gweithgarwch yn y dyfodol.