Dal y Pwysau

Roeddem yn meddwl y byddem yn diweddu â rhywbeth hwyliog fis yma. Mae Oriel Lehmann Maupin yn Efrog Newydd ar hyn o bryd yn cynnwys gwaith gan yr artist o Korea, Do Ho Suh. Mae’r gwaith yn edrych yn ddigon dinod ar yr olwg gyntaf, ond o edrych arno’n fanylach fe welir mai llawr gwydr ydyw, y mae ei bwysau’n cael ei gynnal gan ddwylo oddi tano sy’n perthyn i filoedd o ffigurau unigol wedi’u mowldio o blastig .

Mae’r darn wedi’i fwriadu i fod yn sylwebaeth ar rym cydweithio a chydweithredu wrth i’r unigolion o dan y llawr ddal y pwysau oddi uchod a’u gwrthsefyll ar yr un pryd tra bo ymwelwyr â’r oriel yn cael eu gwahodd i gerdded dros y llawr.

Mae Oriel y Tate Modern yn Llundain hefyd yn cynnwys gosodiadau gan Do Ho Suh, ar gyfer pobl sy’n edmygu ei waith ac nad ydynt yn gallu teithio i Efrog Newydd.

Leave a Reply