Cicio’r Sigarets Allan!

Mae Diwrnod Cicio Sigarets Allan yn ymgyrch byd-eang i bobl ifanc sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, gan eu hannog i weithredu a dweud eu dweud am y niwed a achosir pan fo pobl yn defnyddio tybaco.

Mae ASH Cymru’n bwriadu cynnal digwyddiad ym Mae Caerdydd yn y Basn Hirgrwn ar ddydd Mercher 28ain o Fawrth 2012 (o 11am-2pm) i godi ymwybyddiaeth o Ddiwrnod Cicio Sigarets Allan. Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio i raddau helaeth ar ieuenctid gyda phobl ifanc yn bresennol ac yn codi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n effeithio arnynt hwy a’u hiechyd.

Sefydlwyd ASH Wales ym 1976 a hwn yw’r sefydliad gwirfoddol mwyaf blaenllaw yng Nghymru sy’n mynd i’r afael â defnyddio tybaco. Eu prif nod yw gostwng ac, yn y pen draw, gwaredu’r problemau iechyd sy’n gysylltiedig â defnyddio tybaco. Ceir mwy o wybodaeth am Ddiwrnod Cicio’r Sigarets Allan 2012 yn http://www.ashwales.org.uk/kick-butts-day/

Leave a Reply