Fel rhan o’r dathliadau yn ystod Mis Dathlu Hanes Pobl Dduon a gynhaliwyd yng Nghymru yn ystod mis Hydref 2011, bu prosiect Southern Voices Cyfanfyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda BVSNW (Rhwydwaith Sector Gwirfoddol Pobl Dduon Cymru) i gyflwyno dau weithdy a oedd yn archwilio gwahanol agweddau ar hanes a datblygiad pobl dduon.
Cyfrannodd Cyfanfyd hefyd at y digwyddiad Grand Finale yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd a ddenodd gynulleidfa enfawr ac a roddodd i’r sefydliad, trwy ei brosiect Southern Voices, Welsh Choices, gyfle i godi ymwybyddiaeth o faterion datblygu ac i atgyfnerthu partneriaethau gyda grwpiau tebyg.
Cyflwynodd Cyfanfyd weithdai a gafodd dderbyniad da ar ddatblygu o safbwyntiau menywod a datganoli/esblygiad yn Affrica yn ogystal â chynnal cwis heriol (gweler y stori isod). Cafodd y digwyddiadau eu cymeradwyo fel rhai ardderchog, gyda chyfranogwyr yn gadael gan deimlo eu bod “wedi cael eu herio”, “wedi cael eu grymuso”, “yn optimistaidd”, “yn hyderus” ac “wedi’u goleuo”.
Darllenwch yr ADRODDIAD LLAWN AR FIS DATHLU HANES POBL DDUON YMA