
Cafwyd ymateb da gan aelodau sectorau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a ffydd i’r gwahoddiad i ddigwyddiad bord gron a gynhaliwyd gan Cyfanfyd gyda’r bwriad o archwilio ac ehangu cyfraniad pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i ADCDF a’u gallu i’w gyflenwi. Cynhaliwyd y digwyddiad yn yr Eglwys Norwyaidd yng Nghaerdydd. Roedd y siaradwyr yn cynnwys Vipin Chauhan, a roddodd drosolwg o waith pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig mewn ‘addysg datblygu’ ledled y DU, gan amlygu rhai o’r rhwystrau i ymrwymo a phwysigrwydd adeiladu perthynas a ymddiriedaeth rhwng y sectorau. Siaradwr arall oedd Charo Lanao-Madden, sy’n gydlynydd Connections: The Global Dimension and Minorities – prosiect newydd sy’n cael ei ddatblygu gan y Centre for Global Education yn Belfast, sydd hefyd yn ceisio ymrwymo â sector pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a chynyddu cyfleoedd hyfforddi ac adnoddau pwrpasol.
Cafwyd cyflwyniadau bwyiog o astudiaethau achos gan Nathan Evans (BVSNW), a ddisgrifiodd y prosiect Un Byd: Ein Byd a Rocio Cifuentes a Momena Ali a fu’n siarad am eu gwaith gyda’r Tîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig yn Abertawe sy’n cefnogi pobl ifanc o gefndir lleiafrifoedd ethnig. Heriwyd y gynulleidfa i ystyried sut mae eu gwaith eu hunain yn cysylltu ag ADCDF a sut y gellir cryfhau’r cysylltiadau hyn. Nodwyd anghenion hyfforddi a meysydd ar gyfer datblygu a chefnogi ar y cyd. Mae Cyfanfyd wedi gwneud cais am arian gan y Gronfa Ymwybyddiaeth Datblygu i ddatblygu prosiect i weithio mewn partneriaeth gyda sector pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a grwpiau ffydd er mwyn cynyddu eu cynrychiolaeth o fewn ADCDF ac atgyfnerthu agweddau ar ‘addysg datblygu’ oddi mewn i ADCDF yng Nghymru. Gobeithir y bydd y cyfarfod hwn yn sylfaen ar gyfer cyfnod o gydweithredu a chydweithio a fydd yn galluogi i berthynas gael ei ffurfio gan arwain at gyfoethogi’r gwaith a wneir ar hyn o bryd, o fewn sector pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig / ffydd a chan ymarferwyr ADCDF ‘prif ffrwd’.
Yn aml, ni chaiff yr agweddau hyn ar ADCDF eu cydnabod ond maent i’w gweld yn glir mewn meysydd gwaith eraill yng Nghymru. Bu LlCC yn ymgynghori ar ei strategaeth Cydlyniant Cymunedol gyda digwyddiadau ymgynghori yn cael eu cynnal yng ngogledd a de Cymru ym mis Mawrth. Roedd cynrychiolwyr o sefydliadau addysg a sector pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig ymysg y cyfranogwyr yn y digwyddiadau a fu’n ystyried y cyfraniad y mae sefydliadau yn eu gwneud i gydlyniant cymunedol. Mae rôl Cyfanfyd yn gysylltiedig ag agweddau addysg a chyfathrebu ar y polisi hwn. Cyflwynodd Cyfanfyd ymateb ffurfiol i’r ymgynghoriad.