Mis Dathlu Hanes Pobl Dduon yn Codi Cwestiynau Anodd

Llongyfarchiadau i Tom Lloyd, enillydd Cwis Mis Dathlu Hanes Pobl Dduon eleni! Mae Tom, sy’n 20 oed, yn astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe ac ef oedd yr unig un allan o 30 o gystadleuwyr i ateb pob un o’r cwestiynau yn y cwis yn gywir.

“Mae gennyf ddiddordeb mewn Daearyddiaeth Ddynol ac rwy’n astudio llawer o’r pethau sy’n gysylltiedig â datblygu a chynaliadwyedd gan gynnwys Nodau Datblygu’r Mileniwm gan y Cenhedloedd Unedig, grwpiau menywod a chyfnewid traws-ddiwylliannol,” meddai Tom. “Rwyf wedi ymweld â Brasil a chryn dipyn o wledydd Asia ac roeddwn wrth fy modd yn dod i wybod am eu ffordd o fyw a’u bywydau o ddydd i ddydd. Rwyf hefyd wedi ymweld â Siavonga yn Zambia, lle treuliais 4 wythnos yn ceisio rhannu profiadau a sgiliau bywyd er mwyn i ni allu elwa a dysgu oddi wrth ein gilydd.”

Er bod y gystadleuaeth wedi cau bellach, mae’r cwis yn dal ar gael yn http://www.cyfanfyd.org.uk/southern-voices/quiz/ os oes arnoch awydd profi eich gwybodaeth.

Leave a Reply