Croeso i Cyfanfyd

Mae Cyfanfyd yn sefydliad aelodaeth cenedlaethol sy’n gweithio i hyrwyddo addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-ean (ADCDF) yng Nghymru. Rydym yn rhoi cymorth i fudiadau a sefydliadau ym mhob maes o fewn y byd addysg i gynnwys agwedd fyd-eang yn eu gwaith.

Ein hamcan yw creu Cymru hyderus ac eang ei gorwelion y mae pawb sy’n byw ynddi’n deall eu hawliau a’u cyfrifoldebau fel dinasyddion byd-eang.

Mae Cyfanfyd yn weithredol ym meysydd gwaith ieuenctid, dysgu gydol oes ac addysg ffurfiol mewn ysgolion.

Mae Cyfanfyd hefyd yn gweithredu fel carfan bwyso gynrychiolaidd er mwyn sicrhau bod dysgu byd-eang yn parhau i fod yn flaenoriaeth gan sefydliadau llywodraethol yng Nghymru.

Mae aelodaeth o Cyfanfyd yn agored i bob mudiad, sefydliad ac unigolyn sydd â diddordeb mewn addysg dinasyddiaeth fyd-eang.

Y Newyddion Diweddaraf

Mis Dathlu Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol

Cyn diddymu adran ddadleuol, sef Adran 8, o’r Ddeddf Llywodraeth Leol yn 2003, gwaherddid athrawon rhag trafod materion sy’n ymwneud â Phobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yn y dosbarth gyda’u disgyblion. Roedd y ddeddf, a oedd wedi bod mewn grym ers 1988, wedi’i bwriadu i atgyfnerthu gwerthoedd teuluol ‘traddodiadol’ ac roedd yn cael ei ...

Darllen mwy…

Uwchgynhadledd y Ddaear yn Rio

Ar yr 20fed o Fehefin 2012, bydd arweinwyr byd yn ymgynnull yn Rio, Brasil, i drafod datrysiadau ymarferol i’r argyfwng ariannol byd-eang, yr argyfwng bwyd, prisiau olew cyfnewidiol, dirywiad cynyddol yr ecosystem a nifer o ddigwyddiadau a oedd yn ymwneud â thywydd eithafol a achoswyd gan yr hinsawdd. Bydd yr uwchgynhadledd yn mynd i’r afael ...

Darllen mwy…

Y Ddraig Ffynci’n Hyfforddi Pobl Ifanc

Y Ddraig Ffynci yw’r cynulliad ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru. Fe’i sefydlwyd er mwyn helpu plant a phobl ifanc yng Nghymru i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u helpu i chwarae rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar eu bywydau. I wneud hyn, mae’r Ddraig Ffynci’n cynnig cyfleoedd hyfforddi sydd wedi’u ...

Darllen mwy…