Croeso i Cyfanfyd

Mae Cyfanfyd yn sefydliad aelodaeth cenedlaethol sy’n gweithio i hyrwyddo addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-ean (ADCDF) yng Nghymru. Rydym yn rhoi cymorth i fudiadau a sefydliadau ym mhob maes o fewn y byd addysg i gynnwys agwedd fyd-eang yn eu gwaith.

Ein hamcan yw creu Cymru hyderus ac eang ei gorwelion y mae pawb sy’n byw ynddi’n deall eu hawliau a’u cyfrifoldebau fel dinasyddion byd-eang.

Mae Cyfanfyd yn weithredol ym meysydd gwaith ieuenctid, dysgu gydol oes ac addysg ffurfiol mewn ysgolion.

Mae Cyfanfyd hefyd yn gweithredu fel carfan bwyso gynrychiolaidd er mwyn sicrhau bod dysgu byd-eang yn parhau i fod yn flaenoriaeth gan sefydliadau llywodraethol yng Nghymru.

Mae aelodaeth o Cyfanfyd yn agored i bob mudiad, sefydliad ac unigolyn sydd â diddordeb mewn addysg dinasyddiaeth fyd-eang.

Y Newyddion Diweddaraf

(English) Youth in Action

(English) Youth in Action

Sorry, this entry is only available in English....

Darllen mwy…

Dewch i Ni Gael Siarad am y Peth

Mae TIDE, y sefydliad dysgu byd-eang, wedi trefnu bod papur Scott Sinclair, ‘Global Learning…Let’s Talk About It‘ ar gael i’w ddarllen neu i’w lawrlwytho fel ffeil PDF rad ac am ddim. Ynddo, mae Scott yn rhannu ei feddyliau am y cyfeiriadau y dylai ‘dysgu byd-eang’ fod yn mynd ynddynt mewn addysg Gynradd ac Uwchradd, ac ...

Darllen mwy…

Canada’n Gadael Protocol Kyoto

Fis diwethaf, cyhoeddodd Canada ei bod wedi penderfynu gadael protocol Kyoto. Fe gymerwyd y cam er mwyn osgoi cosb ariannol drom i’r wlad pe bai wedi parhau i ymlynu wrth feini prawf y protocol. Fe gymerwyd y cam hefyd oherwydd rhwystredigaeth na chafwyd olynydd eto i brotocol Kyoto a phryderon y bydd y fframwaith presennol ...

Darllen mwy…