Gwaith Ieuenctid Byd-eang

Amcan rhaglen gwaith ieuenctid Cyfanfyd yw sicrhau bod addysg dinasyddiaeth fyd-eang yn rhan annatod o'r ddarpariaeth gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae Cymru'n unigryw yn yr ystyr bod ganddi ei chwricwlwm gwaith ieuenctid ei hun. Mae Cyfanfyd yn gweithio gyda phartneriaid megis Cyngor Ieuenctid Cymru (CIC), a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Ieuenctid Cymru (CWVYS) i hyrwyddo gwaith ieuenctid byd-eang fel rhan bwysig o'r agenda hon.

Un rhan fawr o'n rhaglen yw datblygu a chyflwyno rhaglenni hyfforddiant. Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi cynnal digwyddiadau hyfforddi llwyddiannus ar gyfer gweithwyr ieuenctid o bob rhan o Gymru, yn ogystal â rhoi cymorth arbenigol i asiantaethau sy'n bartneriaid inni.

Rydym hefyd wedi cynnal cyfres o gynadleddau a digwyddiadau rhwydweithio gan gynnwys cymryd rhan mewn digwyddiad gwaith ieuenctid i Ewrop-gyfan y byddwn yn ei lywyddu yng Nghymru yn 2005.

Mae gennym gysylltiad agos â'n cymheiriaid yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon a byddwn yn cymryd rhan yng nghynhadledd gwaith ieuenctid y '5 gwlad' yn y gwanwyn.

Gwaith Ieuenctid Byd-eang Canllawiau Arferion Da i Gymru

(pdf 771kb)

Ble mae Cymru yn y Byd?

Maes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd oedd y lleoliad ar gyfer cynhadledd y rhwydweithiau ieuenctid byd-eang ‘Ble mae Cymru yn y byd?’ble daethpwyd a rhai o brif bobl gwaith ieuenctid byd-eang ynghyd…

Mwy o wybodaeth....

Project Glide – Ennillydd Gwobr Arloesol Gwaith Ieuenctid Eithriadol

Mwy o wybodaeth....

Os ewch chi lawr i’r goedwig heddiw

Ym mis Mehefin cynhaliwyd cyfarfod llwyddiannus a phrynhawn llawn gweithgareddau yn ysgol y Goedwig/Forest School, Abertawe gan Rwydwaith Ieuenctid Byd-eang Cyfanfyd

Rhagor o wybodaeth…

Gwobr Rhagoriaeth mewn Gwaith Ieuenctid

Mae Cyfanfyd yn cyd-weithio gydag Asiantaeth Ieuenctid Cymru er mwyn hybu gwobr newydd sbon sydd yn rhoi cydnabyddiaeth i arfer-dda mewn gwaith ieuenctid yng Nghymru. Rhagor o wybodaeth...

 

E-newyddion Gwaith Ieuenctid Byd-eang

Bwletin rheolaidd sydd ar gael i holl aelodau Rhwydwaith Gwaith Ieuenctid Byd-eang yw e-newyddion Gwaith Ieuenctid Byd-eang Cyfanfyd. Am yr e-newyddion ar waith ieuenctid diweddaraf gallwch glicied ar y cyswllt-olygydd isod:
e-newyddion Awst 05
e-newyddion Mai 05
e-newyddion Ionawr 05
e-newyddion Medi 04

© Cyfanfyd 2006 / Rhif elusen gofrestredig 1092141

Y Deml Heddwch, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3AP
Ffôn -029 2066 8999 Ffacs - 029 2064 0333

 


English

Cysylltiadau Gwaith Ieuenctid

Cyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Ieuenctid Cymru (CWYVS)

Gwaith Ieuenctid DEA

Datblygu Cynaliadwy DEA

Prosiect Gwaith Ieuenctid Byd-eang NYA

Cyngor Ieuenctid Cymru

Fforwm Ieuenctid Cymru ar Ddatblygu Cynaliadwy