Ein Rhaglenni

Aros Gwybodus

E-fwletin

Hyfforddiant ar Gyfer Hyforddwyr mewn Addysg Datblygu Cynaliadwy a Ynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang

training for trainersYn dilyn llwyddiant y cyrsiau tridiau achrededig Hyfforddiant i Hyfforddwyr mewn ADCDF yn 2009 y 2010, mae Cyfanfyd yn bwriadu rhedeg y cyrsiau eto yn 2011. Cynhaliwyd y cwrs diwethaf fis Tachwedd diwethaf ac roedd yn gyfle cychwynnol i gydweithwyr sy’n gysylltiedig â phrosiect Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig/grwpiau ffydd Cyfanfyd gyfranogi mewn hyfforddiant ar ADCDF. Fe fwynhaodd pawb y tridiau gan adael yn llawn brwdfrydedd ac wedi’u harfogi â gwybodaeth a syniadau i wella’u gweithgarwch hyfforddi yn y dyfodol. Dylai unrhyw un sy’n ceisio mwy o wybodaeth anfon neges e-bost i info@cyfanfyd.org.uk neufwrw golwg ar y wefan

Dyddiad: Tachwedd 22-24

Lleoliad:

Cynulleidfa darged: Hyfforddwyr/tiwtoriaid a chanddynt rywfaint o brofiad o draddodi hyfforddiant mewn ADCDF mewn unrhyw sefyllfa addysgol (e.e. addysg ffurfiol – hyfforddwyr athrawon, Cynghorwyr AALl, neu addysg
anffurfiol - tiwtoriaid gwaith ieuenctid, tiwtoriaid addysg i oedolion, tiwtoriaid datblygu cymunedol).

Archebu lle: Ffurflen

training for trainersMae ‘ADCDF – Strategaeth ar gyfer Gweithredu’ Llywodraeth Cynulliad Cymru yn adnabod yr angen am barhad datblygiad proffesiynol ac hyfforddiant ar gyfer hyfforddwyr/tiwtoriaid mewn ADCDF.

"Cefais fy ysgogi, fe gododd y tridiau nifer o bwyntiau meddwl. Wedi cyrraedd pob nod. Cymysgedd dda o gyflwyniadau, gwaith grwp a ‘dulliau cymryd rhan’. Roedd cael siaradwyr gwadd yn ddefnyddiol iawn. Roedd y cwrs wedi ei reoli’n dda ac yn cadw at yr amserlen. Roedd hi’n beth da cwrdd ag eraill o sectorau gwahanol. Roedd y cwrs yn amrywiol ac o ansawdd. Roedd ymroddiad a brwdfrydedd”. 

training for trainers"Ffantastig. Dwi’n teimlo gymaint yn fwy hyderus, dwi wedi archwilio pynciau sydd oddiddordeb i mi ac mi rydw i’n gadael gyda syniadau newydd a brwdfrydedd”.

" Dyma’n hawdd y cwrs hyfforddiant ADCDF orau dwi wedi ei fynychu hyd yma".