Newyddion Ysgolion

Mae wedi bod yn gyfnod tawel dros yr haf a phrif ganolbwynt y gwaith yw’r prosiect a ariennir gan y Gronfa Ymwybyddiaeth o Ddatblygu er mwyn cynyddu gallu mudiadau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a grwpiau ffydd yng Nghymru i gymryd rhan mewn ADCDF. Yn dilyn y diddordeb a fynegwyd yn ystod y digwyddiad bord gron cychwynnol yn ôl yn y gwanwyn, bydd ail ddigwyddiad bord gron yn cael ei gynnal ar 8 Hydref yn y Deml Heddwch. Bydd hwn yn gyfle pellach i fudiadau a sefydliadau ‘ddod i adnabod ei gilydd’ a dechrau adnabod anghenion hyfforddi mewn perthynas ag ADCDF. Gwahoddir y mudiadau a’r sefydliadau sy’n rhan o’r prosiect i fynychu’r hyfforddiant Cyflwyniad i ADCDF a gynhelir bellach ar 22 Hydref.
 
Bu staff o Cyfanfyd (Liz a Dominic) mewn gweithdy hyfforddi yn Llundain a oedd yn bwrw golwg ar ffyrdd o fynd ati’n effeithiol i fonitro a gwerthuso prosiectau’r Gronfa Ymwybyddiaeth o Ddatblygu a bydd y technegau hyn yn cael eu defnyddio i sicrhau atebolrwydd a dealltwriaeth am yr hyn sy’n effeithiol wrth i’r prosiect gael ei roi ar ben ffordd. 

Os ydych yn cynrychioli mudiad pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig neu grŵp ffydd lleiafrifol ac os hoffech wybod mwy am y prosiect hwn cysylltwch â liz@cyfanfyd.org.uk

divider

Adnodd Newydd ar gyfer Ysgolion Uwchradd

Yn ddiweddar lansiwyd Enabling a Connected Curriculum – opportunities for global learning at key stage 3 gan (www.tidec.org) sy’n ystyried pa strategaethau dysgu ac addysgu a fyddai’n diwallu anghenion dysgwyr orau mewn cyd-destun byd-eang sy’n newid. Lansiwyd yr adnodd mewn cynhadledd a roddodd gyfle i ystyried ADCDF oddi mewn i’r cwricwlwm ac ar ei draws yn ogystal â defnyddio themâu fel ‘newid yn yr hinsawdd’ neu ‘dinasoedd’ i ystyried materion byd-eang ar draws y cwricwlwm. Roedd y gynhadledd yn gyfle i gwrdd â Cathryn Gathercole (Practical Action) a fydd yn cymryd yr awenau fel cyfarwyddwraig newydd TIDE yn lle Scott Sinclair.

divider