Ein Rhaglenni

Aros Gwybodus

E-fwletin

Ystafell Newyddion Cyfanfyd

Cyfundrefn Weddol Sy'n Anelu at Fod yn Dda?

Yn dilyn canlyniadau gwael Cymru ym mhrofion PISA (Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr) sy’n cymharu cyrhaeddiad sgiliau mewn llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth ar draws y byd datblygedig, a ddatgelwyd fis Rhagfyr diwethaf (2010), fe ddisgrifiodd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, addysg yng Nghymru fel ‘cyfundrefn weddol sy’n anelu at fod yn dda’.

Siaradodd am fethiant systemig ac anogodd ysgolion i sicrhau gwelliant cyffredinol erbyn y cylch nesaf o brofion PISA yn 2015. I’r perwyl hwn fe lansiodd gynllun gweithredu ac iddo 20 pwynt sydd wedi’i fwriadu i godi safonau a gwella perfformiad. Roedd yr araith a draddododd i gynulleidfa’r Sefydliad Materion Cymreig/Prifysgol Caerdydd ar 29 Mehefin yn ‘adroddiad cynnydd ar y pwyntiau gweithredu hyn’.

Siaradodd Mr Andrews am yr uned safonau ysgolion, a ddisgrifiwyd fel elfen a oedd yn ‘ganolog i’r diwygiadau’ ac fe ddisgrifiodd yr angen i ganolbwyntio ar gyrhaeddiad mewn darllen a sefydlu a rhannu ‘arfer sy’n arwain y sector’ ar draws y consortia addysg – cafodd perfformiad uwch ei ddisgrifio fel ‘unig amcan’ y cynlluniau newydd. Nid yw’n ymddangos bod llawer o le i fentrau megis ADCDF a lles y disgybl, yr ystyrir eu bod ‘o gymorth’ i’r broses addysgol ond nad ydynt yn flaenoriaeth.

Er y gallai canlyniadau PISA o bosib fod wedi deillio o gwricwlwm sydd heb ffocws ar brofion neu’r lefelau uchel o dlodi a brofir gan rai plant yng Nghymru, mae ymateb llym y Gweinidog yn adlewyrchu newid yn ôl at ddysgu seiliedig ar ddeilliannau sydd wedi’i fwriadu i greu safonau cryf ac uchel mewn ysgolion. Fodd bynnag mae’r dull hwn wedi cael ei herio gan rai addysgwyr sy’n credu y bydd y gyfundrefn addysg, sy’n seiliedig i ryw raddau ar gyfundrefn addysg y Ffindir, (mae disgyblion Ffinnaidd yn gyson yn cael sgorau uchel yn PISA gan gyrraedd brig y tablau ar gyfer llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth yn 2000 a chyrraedd y pedwar uchaf byth ers hynny gyda Tsieina a De Corea’n eu disodli ar frig y tablau), ymhen hir a hwyr yn creu dysgwyr sy’n ‘hyblyg, yn ymaddasol ac nad oes arnynt ofn gwybodaeth newydd’.

Caiff y gwahaniaeth o ran y dull ei danlinellu ymhellach gan y ffaith mai PISA yw’r unig brofion ffurfiol sy’n digwydd mewn ysgolion yn y Ffindir, lle rhoddir mwy o bwyslais ar degwch a chreu unigolion cyflawn sy’n barod i chwarae eu rhan, ac yn gallu gwneud eu rhan yn y gymdeithas leol, genedlaethol a byd-eang. I’r perwyl hwn mae ffocws cynyddol ar les, ar addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy ac ar addysg datblygu – mewn Cynhadledd dros Newid Cymdeithasol a gynhaliwyd yn ddiweddar ym Mhrifysgol Helsinki (16 Mehefin 2011) fe ategodd gweinidogion yn Llywodraeth y Ffindir y neges a fynegwyd gan Arlywydd y Ffindir y gallai addysg fyd-eang gyfrannu at newid cymdeithasol cynaliadwy ac, am y rheswm hwn, bod angen i Addysg Datblygu a Chodi Ymwybyddiaeth fod wrth galon y gyfundrefn addysg. Dywedodd Mr Pasi Hellman (Y Gweinidog dros Faterion Tramor) y dylai’r cymwyseddau allweddol y gellid eu hybu trwy addysg fyd-eang gael eu hintegreiddio i mewn i addysg gyffredinol i gynnal y rhinweddau sy’n gwneud addysg yn y Ffindir mor llwyddiannus a’u hybu ymhellach.

Felly efallai fod angen i Gymru gymryd sylw o’r neges hon. Rydym wedi bod yn ‘arwain y sector’ o ran hybu addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang (ADCDF) ond mae Llywodraeth Cymru, yn ei hymdrechion cyfredol i gyflawni safonau uchel, yn dewis peidio â chefnogi’r agenda hon mwyach. Mae’n wir bod Estyn yn arolygu ADCDF a bod ADCDF wedi’i chynnwys yn holl ddogfennau’r cwricwlwm , ond faint o sylw a roddir mewn gwirionedd i’r wybodaeth, y gwerthoedd, y sgiliau a’r agweddau sy’n gallu helpu i ffurfio pobl ifanc fel dinasyddion cyfrifol a gweithredol. Cymorth cyfyngedig sydd i athrawon gyflwyno ADCDF ac mae rhoi’r gorau i ddarparu cyllid ar gyfer y sector gwirfoddol yn golygu y bydd cymorth allanol yn gyfyngedig neu na fydd yn bodoli o gwbl yn y dyfodol agos.

Er mwyn i fyfyrwyr yng Nghymru lwyddo, yn yr ysgol ac yn eu bywydau wedi hynny, efallai fod angen i ni ganolbwyntio ar newid cymdeithasol ehangach. Mae angen i ni sicrhau bod athrawon yn dra chymwys ac yn gryf eu cymhelliant (fel y maent yn y Ffindir) a bod myfyrwyr yn cael y cyfleoedd i ddysgu (ym mha bynnag ffordd sy’n gweddu iddynt hwy, fel unigolion) er mwyn gwireddu eu potensial a chodi Cymru i safle lle mae’n arwain y sector, nid dim ond o fewn terfynau profion PISA, ond yn y gymdeithas fyd-eang yn gyffredinol.

Beth ydych chi’n ei feddwl?

Mae Cyfanfyd yn gwahodd ymatebion i’r stori hon ac fe hoffem glywed eich safbwyntiau chi am y pwnc. Anfonwch eich meddyliau i’r cyfeiriad canlynol: info@cyfanfyd.org.uk.

Newyddion Hŷn