Ein Rhaglenni

Aros Gwybodus

E-fwletin

Y WCVA yn Rhoi Cyfle i Chi Ymarfer Eich Doniau!

Mae WCVA (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) yn cynnal digwyddiadau gan y rhwydwaith ymarferwyr y mis yma, a chaiff y rhain eu cynnal ar ddydd Mercher 14eg o Ebrill rhwng 10am a 2pm, yn y Ganolfan Ddarganfod yn Llanelli, ac ar ddydd Mercher 21ain o Ebrill rhwng 10am a 2pm, yn Cartrefi, Caerdydd. Mae cyfarfodydd y rhwydwaith yn gwbl rad ac am ddim a bydd lluniaeth a chinio’n cael eu darparu.

Bydd y sesiynau hyn hefyd yn rhoi’r cyfle i gynrychiolwyr ymarfer eu sgiliau cyflwyno o flaen cynulleidfa ddof, os oes ganddynt ddarn o waith ymgysylltu/cyfranogiad i’w wneud cyn bo hir a hwythau am gael ychydig o gymorth gydag ef. Gall y rhwydwaith fod yn wrandawyr parod gan roi adborth adeiladol a chefnogaeth. Mae pawb yn y grŵp yn ymarferydd a bydd yn gyfranogwr cyd-deimladol, cefnogol. Darllen Mwy...

Gall cyfranogwyr oresgyn y nerfau cychwynnol hynny, neu drafod a datblygu syniadau mewn amgylchedd dysgu diogel, cefnogol, cyfeillgar.

Os hoffech wneud hyn yn y naill rwydwaith neu’r llall cysylltwch â sjones@wcva.org.uk . I gadarnhau eich lle yn y rhwydwaith anfonwch neges e-bost i zmrazkova@wcva.org.uk