Cwrs Hyfforddiant i Hyfforddwyr mewn ADCDF gan Cyfanfyd Mehefin 15fed – 18fed 2009
Daeth hyfforddwyr sy’n gweithio mewn ysgolion, ym maes addysg ieuenctid ac addysg oedolion ynghyd yng Nghanolfan Gynadledda Broneirion ym mis Mehefin ar gyfer y diweddaraf yn y gyfres o gyrsiau “Hyfforddiant i Hyfforddwyr mewn ADCDF” gan Cyfanfyd. Fel arfer roedd y cyfranogwyr yn croesawu’r cyfle i weithio ar draws sectorau i archwilio agweddau ar ADCDF yn fanwl, i ddatblygu’u gwybodaeth ac i lunio strategaethau ar gyfer ymdopi â materion sydd weithiau’n ddadleuol, ac sy’n rhan annatod o ADCDF.
Roedd cyfleoedd i ganolbwyntio ar leisiau cymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig a lleisiau Deheuol o fewn ADCDF; i ddysgu sut i fynd ati’n effeithiol i gyfleu negeseuon am y newid yn yr hinsawdd ac i dystio i’r modd y mae pobl ifanc o WYFSD (Fforwm Ieuenctid Cymru dros Ddatblygu Cynaliadwy) yn darparu addysg gan gymheiriaid er mwyn codi ymwybyddiaeth o ADCDF ymhlith eu cyfoedion.
Roedd agwedd y cyfranogwyr yn gadarnhaol iawn ac roeddent yn llawn egni trwy gydol y tridiau y cynhaliwyd y cwrs a chafodd hyn ei adlewyrchu yn yr adborth a gafwyd gan y cyfranogwyr ar y diwedd.
“Rwy’n teimlo’n llawn cymhelliant ac yn llawer mwy parod i ddarparu hyfforddiant mewn perthynas ag ADCDF.”
“A minnau heb hyder o gwbl yn fy ngwybodaeth am ADCDF roedd yn gwrs gwych i roi’r hyder hwnnw imi.”
“Gwych! Peth wmbredd o wybodaeth i’w hystyried, gwybodaeth a fydd yn helpu i lywio fy ngwaith yn y dyfodol, gobeithio.”
“Campus. Mor amrywiol, ysgogol, ymarferol, hwyliog. Strategaethau ymarferol y gellir eu defnyddio ar unwaith (ac ystod mor eang ohonynt) a hynny heb fod yn nawddoglyd o gwbl.”
Cynhelir y cwrs nesaf yn y gyfres Hyfforddiant i Hyfforddwyr o 1-3 Rhagfyr 2009 a chyn hynny ceir cwrs Cyflwyniad i ADCDF ar 24 Medi. I gael mwy o wybodaeth am y naill neu’r llall o’r cyrsiau hyn cysylltwch ag annette@cyfanfyd.org.uk.