2010: Blwyddyn Arloesol yn yr Ymgyrch i Ddileu Tlodi yn Ewrop?

Heddiw, bu i’r Comisiwn Ewropeaidd ddynodi 2010 yn Flwyddyn Ewropeaidd 2010 dros Frwydro yn Erbyn Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol, ymgyrch sy’n amcanu at ategu ymrwymiad yr UE i gael effaith bendant ar ddileu tlodi yn Ewrop erbyn 2010.

"Mae’r frwydr yn erbyn tlodi ac allgáu cymdeithasol yn un o amcanion canolog yr UE ac mae ein dull cyffredin wedi bod yn erfyn pwysig i arwain a rhoi cymorth i gamau gweithredu yn yr Aelod-wladwriaethau,” meddai’r Comisiynydd dros Faterion Cymdeithasol, Vladimír Špidla. "Bydd y Flwyddyn Ewropeaidd yn mynd â hyn gam ymhellach, trwy godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r ffordd y mae tlodi’n dal i ddifetha bywydau beunyddiol cymaint o drigolion Ewrop."

Mae’r ymgyrch wedi’i fwriadu i weithio tuag at nodau’r Undeb Ewropeaidd i greu twf economaidd cynaliadwy gyda swyddi gwell a mwy ohonynt ac mae’n cyd-daro â chwblhau strategaeth ddeng mlynedd yr UE ar gyfer twf a swyddi.
Mae’r broses Ewropeaidd ar gyfer diogelu cymdeithasol a chynhwysiant cymdeithasol yn rhoi cymorth i Aelod-wladwriaethau yn eu hymchwil am fwy o gydlyniant cymdeithasol yn Ewrop trwy ddull cydgysylltu agored. A thros y cyfnod 2007-2013 bydd rhyw € 75 biliwn yn cael ei ddosbarthu o Gronfa Gymdeithasol Ewrop i Aelod-wladwriaethau a rhanbarthau.