Ein Rhaglenni

Aros Gwybodus

E-fwletin

Cydnabyddiaeth Fyd-eang i Arbenigedd Cymru mewn ADCDF

Mae Cymru wedi cael cydnabyddiaeth ffurfiol yn rhyngwladol am ei harbenigedd wrth hybu Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang.  O’r 1af o Chwefror 2010 ymlaen, bydd Cymru’n cael ei chydnabod yn ffurfiol yn Ganolfan Arbenigedd Ranbarthol (CAR) ym maes ADCDF. Mae cydnabyddiaeth ffurfiol i CAR Cymru gan Brifysgol y Cenhedloedd Unedig yn golygu y bydd Cymru’n ymuno â Chanolfannau Arbenigedd Rhanbarthol eraill sydd ar hyn o bryd yn rhan o rwydwaith byd-eang o Ganolfannau Arbenigedd Rhyngwladol ar gyfer ADCDF.   

Mae CAR Cymru yn mynd i ddod yn gyfrannwr arwyddocaol yn y gwaith o ddatblygu gwaddol addysgol a fydd yn goroesi Degawd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (2005-2014), sef y rhaglen a arweiniodd at ei lansio.   

Bydd sefydlu CAR Cymru yn helpu cyfranogwyr ym maes ADCDF ledled Cymru i wneud gwaith ymchwil, datblygu a hyrwyddo er mwyn ADCDF o ansawdd uchel a chynyddu nifer y rhai sy’n cyflwyno ADCDF a’i heffaith.   

Bydd y fenter o gymorth i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i bobl ac amgylchedd Cymru a thu hwnt, a bydd yn sicrhau gwaddol a fydd yn helpu i greu Cymru fywiog a diogel sy’n byw o fewn ei moddion gan ddefnyddio dim ond ei chyfran hi ei hun o adnoddau’r byd.  Bydd y rhwydwaith byd-eang y mae CAR Cymru bellach yn perthyn iddo’n galluogi rhanddeiliaid i gyrraedd ymhellach a’i chael yn rhwyddach cyflwyno arbenigedd perthnasol o bob rhan o’r byd yng Nghymru.   

Bydd CAR Cymru’n gweithredu fel canolbwynt, gan hwyluso’r gwaith o gydlynu a chynyddu effaith ymdrechion yr unigolion a’r mudiadau a sefydliadau ledled Cymru sy’n gweithio’n wirfoddol ac yn broffesiynol i gyrraedd nodau ym maes cynaliadwyedd, gan gynnwys sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch; ysgolion; cyrff anllywodraethol; busnesau preifat ac awdurdodau lleol. 

Mae CAR Cymru’n elwa o gymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer mynd i’r afael â’r materion cymhleth dan sylw a deall rôl hanfodol ADCDF o ran ysgogi’r newidiadau sy’n angenrheidiol i greu Cymru gynaliadwy. 

Mae CAR Cymru hefyd yn awyddus i gynorthwyo unrhyw un sy’n chwilio am wybodaeth sy’n gysylltiedig ag ADCDF i ddod o hyd i ffynonellau ac arbenigedd priodol. 
Mae CAR Cymru ar agor yn barhaol i newydd-ddyfodiaid a chanddynt ddiddordeb gweithredol mewn ymchwilio i ADCDF, ei datblygu neu ei hyrwyddo. Dylai’r rhai a chanddynt ddiddordeb gysylltu â rcewales@swansea.ac.uk i gael mwy o wybodaeth.