Fforwm Blynyddol Cyfanfyd 2009
Cynhaliwyd y fforwm yn Theatr y Byd Bychan yn Aberteifi ar 19 Mai 2009. Ffocws y diwrnod oedd ADCDF: y dimensiwn Ewropeaidd. Daeth Pete Davies, cynrychiolydd o UK Development Education i CONCORD (rhwydwaith tros Ewrop o sefydliadau NGO), i roi’r prif anerchiad am waith CONCORD a DEEEP (Development Education European Exchange Project). Soniodd am y cyfleoedd a’r manteision sydd ar gael i sefydliadau wrth ddatblygu cysylltiadau gydag Ewrop. Cafodd y pwyntiau uchod eu trafod gan yr aelodau oedd yn awyddus i glywed am y cyfleoedd i gael nawdd yn ogystal â’r cyfleoedd i weithio gyda sefydliadau tebyg.
Cafodd y rhai a fynychodd y Fforwm Blynyddol glywed am y gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan sefydliadau yng Nghymru sydd wedi elwa o raglen Grantiau Bychan y DFID, rhaglen sy’n cael ei weinyddu gan Cyfanfyd cyswllt i’r wefan? Soniodd Jonathan Rigby am brosiect Bwyd ac Adeiladau Cynaliadwy Edwardsville, disgrifiodd Helen Bradley y prosiect Partneriaeth yn Rhondda Cynon Taf, ac fe roddodd Betsan Ifan drosolwg o waith Dolen Cymru gyda MENCAP Cymru wrth ddatblygu adnoddau addysgol mewn ADCDF ar gyfer pobl ag anghenion dysgu ychwanegol.