Taith y Sector Ffurfiol i’r Ffindir

liz in arctic circleMae yna nifer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gwaith traws-ffiniol drwy gydol Ewrop. Mae Liz Thomas newydd fod ar ymweliad arsylwi ar waith yr Adran Addysg yn ninas Oulu yn y Ffindir. Wrth weithio gyda Chyfarwyddwr y Ganolfan Dysgu ac Adnoddau, a chyda chydweithwyr o Norwy a Ffrainc, cafodd Liz gyfle i weld sut y mae’r Ffindir yn dynesu at waith ar ADCDF. Edrychodd ar sut y mae’n perthyn i’r brif gyfundrefn addysg a pha gyfleoedd hyfforddiant oedd ar gael i athrawon oedd am ddatblygu’r agwedd hon. Roedd yr ymweliad yn bosibl yn drwy nawdd grant gan gynllun HMS Comeniws y Cyngor Prydeinig.