Douglas Alexander yn ymweld â Chymdeithas Integreiddio Somaliaid a Cyfanfyd
Fe ymwelodd yr Ysgrifennydd dros Ddatblygu Rhyngwladol, Douglas Alexander, â Chymdeithas Integreiddio Somaliaid a Cyfanfyd yng Nghaerdydd ar y 23ain o Orffennaf ac fe ddefnyddiodd y cyfle i lansio cylchlythyr sy’n amlygu gwaith datblygu gan y DU yn Somalia.
Derbyniodd Cymdeithas Integreiddio Somaliaid Grant Bychan o £10,000 o raglen Grantiau Bychain Cronfa Ymwybyddiaeth o Ddatblygu’r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol (DFID) er mwyn helpu pobl ifanc yn benodol i gwrdd â’r heriau y maent yn eu hwynebu fel aelodau o’r gymuned Somaliaidd yng Nghymru ac fel pobl ifanc yn tyfu mewn byd globaleiddiedig.
Cyfarfu Douglas Alexander hefyd â chynrychiolwyr o Cyfanfyd i drafod y prosiect gan Cyfanfyd a ariennir gan y Gronfa Ymwybyddiaeth o Ddatblygu, sy’n canolbwyntio ar gynyddu gallu mudiadau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a grwpiau ffydd lleiafrifol i ymgysylltu ag ymwybyddiaeth o ddatblygu a nodau datblygu’r mileniwm.