Ein Rhaglenni

Aros Gwybodus

E-fwletin

O Copenhagen i Cancún

Bydd swyddogion a gweinidogion yr amgylchedd yn cwrdd yn Cancún ym Mecsico ar gyfer cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar y newid yn yr hinsawdd i barhau â’u hymdrechion i daro bargen ryngwladol ar ostwng allyriadau carbon.

Bydd UNFCCC (Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd) yn cynnal Cynhadledd y Partïon (COP), yr 16eg yn y gyfres, rhwng y 29ain o Dachwedd a’r 10fed o Ragfyr. Bydd y cynrychiolwyr yn gweithio ar gytundeb byd-eang i olynu protocol Kyoto (a ddaeth i fodolaeth yn 2005 ac sy’n rhwymo gwledydd mwy cyfoethog i ostwng eu hallyriadau erbyn 2012) wedi i’r trafodaethau yng Nghopenhagen fis Rhagfyr diwethaf fethu ag arwain at gytundeb newydd yn ei le.

Fodd bynnag, nid yw’r disgwyliadau ar gyfer canlyniad y cyfarfod yn uchel. Mae nifer o bobl ddylanwadol, gan gynnwys ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon, wedi mynegi eu hamheuon ynghylch y tebygolrwydd o daro bargen gyfrwymol eleni.

Fe ddywedodd cyn ysgrifennydd gweithredol UNFCCC, Yvo de Boer, ym mis Mawrth mai’r her i Cancún fyddai trawsnewid yr hyn a gytunwyd yng Nghopenhagen yn “bensaernïaeth weithredol”. Mewn geiriau eraill, y gobaith yw y bydd y trafodaethau’n sail i gytundeb newydd ar y newid yn yr hinsawdd mewn cyfarfodydd pellach yn 2011.

Ym mis Medi, fe gyhoeddodd gweinidog yr amgylchedd yn Llywodraeth India, Jairam Ramesh, fod pawb eisoes wedi troi eu golygon at yr hyn a fydd yn digwydd “ar ôl Cancún” ac mae de Boer wedi dweud ei fod yn meddwl y gellir cael cytundeb terfynol yn COP17, a gynhelir yn Ne Affrica ym mis Rhagfyr 2011.