Ein Rhaglenni

Aros Gwybodus

E-fwletin

Consensws ar yr Hinsawdd yn Cancún

Yn dilyn cyfarfod Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd (UNFCCC) yng Nghopenhagen yn 2009, trawyd bargen newydd yn nhrafodaethau mis diwethaf yn Cancun, Mecsico.

Nid yw’r fargen newydd yn gymaint â chytundeb byd-eang. Fodd bynnag, mae’n gam ymlaen ers Copenhagen gan fod yr holl wledydd, heblaw am un eithriad amlwg sef Bolifia, yn cefnogi dogfen swyddogol gan y Cenhedloedd Unedig.

Wedi pythefnos o drafod, fe gytunodd y cynrychiolwyr ar gyfaddawd a fydd yn golygu bod yr holl wledydd yn ymrwymo i ostyngiad mewn allyriadau am y tro cyntaf. Mae “Pecyn Cancun” hefyd yn sefydlu “cronfa werdd” i helpu gwledydd tlawd i ddygymod â’r newid yn yr hinsawdd a chynllun newydd i gyfyngu ar ddatgoedwigo.

Fel rhan o’r pecyn bydd yr holl wledydd yn ymrwymo i gadw codiadau mewn tymheredd islaw 2C (3.6F) trwy ostwng eu hallyriadau. Mae gwledydd cyfoethog wedi cytuno i ystyried estyniad i Brotocol Kyoto tra bydd gwledydd tlotach yn ymrwymo i ostwng allyriadau am y tro cyntaf.

Mae’r pecyn eisoes wedi cael ei feirniadu. Roedd Bolifia’n dadlau bod y cytundeb “yn gyfystyr â hil-laddiad” am nad yw’n ddigon helaeth i atal cynhesu byd-eang peryglus.

Yn ôl Pablo Solon, llysgennad ar ran Bolifia a oedd yn bresennol yn nhrafodaethau UNFCCC, “Mae nifer o sylwebwyr wedi galw cytundeb Cancún yn ‘gam yn y cyfeiriad cywir’. Rydym ni’n anghytuno: mae’n gam enfawr yn ôl.

Mae’r testun yn disodli mecanweithiau cyfrwymol ar gyfer gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr ag addunedau gwirfoddol sy’n gwbl annigonol. Mae’r addunedau hyn yn gwrthddweud y nod datganedig sef capio’r codiad mewn tymheredd ar 2C, gan eu bod yn hytrach yn ein rhoi ar drywydd codiad o 4C neu fwy. Mae’r testun yn llawn diangfeydd i lygrwyr, cyfleoedd ar gyfer ehangu marchnadoedd carbon a mecanweithiau tebyg – megis y cynllun coedwigaeth Redd – sy’n lleihau rhwymedigaeth gwledydd datblygedig i weithredu.”

Yn y diwedd, mewn ymgais i osgoi’r math o ddiffyg penderfyniad a ddilynodd y trafodaethau yn 2009, fe wnaed penderfyniad y Cenhedloedd Unedig heb gytundeb Bolifia.