Ein Rhaglenni

Aros Gwybodus

E-fwletin

Rhwydweithiau Ysgolion ADCDF

Oherwydd diffyg cyllid, yn anffodus mae’r Rhwydweithiau Ysgolion ADCDF wedi methu â pharhau i weithredu ar eu ffurf flaenorol. Ond bydd y mudiad yn parhau â’i waith ac mae wrthi ar hyn o bryd yn gwerthuso’r dewisiadau sydd ar gael iddo.

Mae Cyfanfyd wedi cytuno ar gynlluniau interim i weithio tuag at sefydlu rhaglen ar gyfer y dyfodol. Bydd cylchlythyr am y cynnydd a’r hyn sy’n cael ei gynnig yn cael ei gyhoeddi’n nes ymlaen y tymor yma.

O’r cychwyn cyntaf roedd yn amlwg bod y cynlluniau’n cael eu gwneud mewn cyd-destun newidiol ond, er gwaethaf hyn, mae cryn dipyn wedi cael ei gyflawni gan y rhwydweithiau dros y ddau dymor diwethaf. Maent bellach yn y broses o gloriannu hynny ac archwilio’r posibiliadau ar gyfer y dyfodol. Mae’r agenda’n dal i fod yn bwysig er bod y cyd-destun o ran cyllid yn anos. Mae prosiectau, digwyddiadau a chynadleddau, yn enwedig Cynhadledd Genedlaethol y Rhwydweithiau, y gyntaf o’i bath, ym mis Gorffennaf wedi dangos llawer o frwdfrydedd a’r potensial ar gyfer dulliau sy’n seiliedig ar rwydweithiau.

Wrth siarad am y llwyddiannau y mae’r Rhwydweithiau Ysgolion ADCDF eisoes wedi’u cael, meddai Gareth Wyn Jones, Cadeirydd Grŵp Rheoli’r RhY ADCDF:

Ers mis Ionawr 2010, mae 21 o brosiectau a chynhadledd genedlaethol wedi cynnwys dros 800 o bobl. Mae'r gwerthusiadau wedi bod yn gadarnhaol iawn. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan am gyflawni'r rhaglen hon mor lwyddiannus.

Mae hwn yn gyfnod newydd yn y broses o adeiladu rhwydweithiau a all ymateb i heriau ADCDF a rhoi cymorth i ysgolion baratoi ar gyfer cyfundrefn arolygu newydd. Yr her yn awr yw cynnal ein momentwm i gynnig y cymorth y mae'i angen.”

Mae partneriaeth rhwng y sector gwirfoddol ac ymarferwyr addysgol wedi bod wrth graidd ADCDF

ers y cychwyn cyntaf. Bellach mae gan ysgolion ac ALl'au gyfrifoldebau am ADCDF. Rydym yn ceisio egluro ein rôl o ran rhoi cymorth i'w gwaith a'i alluogi.