Diddymu'r Gronfa Ymgysylltu â Dysgu Byd-eang yn Adolygiad DFID
Yn sgîl yr adolygiad o’i waith yn dilyn ffurfio’r llywodraeth glymblaid ar ôl yr etholiad, a phenodi Andrew Mitchell yn Weinidog newydd dros Ddatblygu Rhyngwladol, fe ddioddefodd y sector Addysg Datblygu yng Nghymru, a ledled y DU, ergyd drom pan ddiddymwyd y Gronfa Ymgysylltu â Dysgu Byd-eang.
Roedd y Gronfa Ymgysylltu â Dysgu Byd-eang wedi’i bwriadu’n rhannol i ddisodli Grantiau Mawr a Grantiau Bychain y Gronfa Ymwybyddiaeth o Ddatblygu a hefyd i ddarparu cyllid ar gyfer gwaith yn y sector anffurfiol. Bydd diddymu’r gronfa hon yn golygu colli’r ddarpar ffynhonnell gyllido allweddol ar gyfer mudiadau a sefydliadau sy’n gysylltiedig â gwaith ieuenctid a gwaith cymunedol. Mae’n anochel y bydd hyn yn dwyn effaith ddifrifol ar fudiadau a sefydliadau yng Nghymru sy’n gysylltiedig â chyflwyno ADCDF.
Daeth yr adolygiad â newyddion cadarnhaol i’r Sector Ffurfiol gyda DFID yn ailddatgan ei hymrwymiad i’r Strategaeth Dysgu Byd-eang. Mae’r Strategaeth Dysgu Byd-eang wedi’i bwriadu i ddisodli’r fenter Galluogi Cymorth Effeithiol, a elwir yn Rhwydweithiau Ysgolion ADCDF yng Nghymru. Ni chafwyd arwydd clir eto o’r modd y bydd y strategaeth yn cael ei chyflawni yng Nghymru, ond mae’r ymrwymiad parhaus wedi cael ei groesawu’n eang.
Trawyd nodyn arall cadarnhaol pan benderfynwyd y byddai prosiectau sydd eisoes yn cael cymorth dan y Gronfa Ymwybyddiaeth o Ddatblygu, ar ffurf Grantiau Mawr a Bychain, yn parhau i gael eu cyllido nes eu bod wedi’u cwblhau.
Nid gor-ddweud o gwbl fyddai dweud bod ADCDF yng Nghymru’n wynebu cyfnod anodd. Dros y blynyddoedd mae cyllid DFID ar ffurf grantiau’r Gronfa Ymwybyddiaeth o Ddatblygu neu GCE wedi galluogi cyrff anllywodraethol i wneud cyfraniad allweddol tuag at ADCDF, gan ddarparu cymorth ac adnoddau ar gyfer ymarferwyr a thynnu ar gorff sefydledig o arfer ac arbenigedd.
Bydd Cyfanfyd yn parhau i ddadlau o blaid cyllid gan DFID i roi cymorth i’r gwaith hwn wrth i ni ystyried bod cyflwyno ADCDF nid yn unig yn bwysig, ond yn hanfodol.