Dysgu Gydol Oes: Newyddion
Canllaw Cymhwyso ADCDF LLUK
Mae Lifelong Learning UK, y cyngor sgiliau sector ar gyfer y sector dysgu gydol oes, ar waith â datblygu canllaw cymhwyso i athrawon sy’n hyrwyddo ac addysgu Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF). Nod y canllaw hwn yw cefnogi athrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr yn y sector dysgu gydol oes yng Nghymru i gyflawni’r angen eu bod yn cynnwys ADCDF yn eu haddysgu, beth bynnag y bo’u maes pwnc.
Llynedd, cynhyrchodd LLUK y “Safonau proffesiynol newydd i athrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr yn y sector dysgu gydol oes yng Nghymru”, sy’n disgrifio perfformiad cyson ar gyfer pob athro o ran gwybodaeth, dealltwriaeth ac ymarfer proffesiynol.
Bydd y canllaw cymhwyso yn cymhwyso safonau generig y ddogfen uchod er mwyn i’r holl athrawon yn y sector dysgu gydol oes hyrwyddo ac addysgu ADCDF yn effeithiol, a bydd yn disgrifio perfformiad cyson.