|
Caiff
rhaglen Dysgu Gydol Oes Cyfanfyd ei hariannu gan yr Adran Datblygu
Rhyngwladol (DfID) a Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC). Amcan y
rhaglen yw cydweithio â chyrff eraill er mwyn cynnwys safbwynt byd-eang
ym mhob agwedd ar addysg i oedolion yng Nghymru.
Rydym
yn gweithio gydag amrediad o ddarparwyr o golegau Addysg Bellach
i ddarparwyr addysg gymunedol annibynnol. Mae'r gwaith hwn wedi
cynnwys darparu a hwyluso sesiynau hyfforddi a rhoi cymorth yng
nghyswllt adnoddau a rhwydweithiau.
Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys
gweithio mewn partneriaeth â chyrff eraill sy'n gysylltiedig â'r
maes er mwyn datblygu arferion yn gysylltiedig â dinasyddiaeth fyd-eang
mewn dysgu gydol oes.
Cynllun
gwobrwyo newydd yw’r Gwobrwyon Dysgu Byd-eang a lansiwyd gan
Cyfanfyd a DIACE Dysgu Cymru ar y cyd, er mwyn dangos cydnabyddiaeth
i ragoriaeth mewn dinasyddiaeth byd-eang a dysgu gydol oes. Cyflwynwyd
y gwobrwyon cychwynnol ar gyfer 2005-06 gan Weinidog y Cynulliad
Cenedlaethol mewn seremoni wobrwyo’n ddiweddar ym Mae Caerdydd.
Stori lawn
Cyflwynwyd papur cyfareddol ar realiti Undeb Llafur a reolir gan
y wladwriaeth yn Algeria gan Abel Guemar, cyn newyddiadurwr Algeraidd
ar ddiwrnod Undeb Llafur rhannu sgiliau Cyfanfyd. Gellir canfod
copi o’r papur yma ar y cyswllt canlynol:
Rhith Democratiaeth a Hawliau Dynol yn Algeria

© Cyfanfyd 2006 / Rhif elusen
gofrestredig 1092141
Y Deml Heddwch, Parc Cathays,
Caerdydd, CF10 3AP
Ffôn -029 2066 8999 Ffacs - 029 2064 0333
|