Y Newyddion Diweddaraf Gwaith Ieuenctid Byd-eang
Ym mis Mai 2009, fe gyhoeddodd y Gymdeithas Addysg Ddatblygu (DEA) yn Llundain adroddiad ymchwil a gwblhawyd gan Here and There Consultancy ar gyflwr presennol y sector ieuenctid a gwaith ieuenctid byd-eang. I gael mwy o wybodaeth ewch i...
O ganlyniad i hyn fe ddarparodd DEA bapur briffio ar gyfer yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, a oedd yn cynnwys gwybodaeth gefndir ac argymhellion polisi, er mwyn llywio datblygiad ei chymorth i waith ieuenctid byd-eang. I gael mwy o wybodaeth ewch i...
Pecyn Cymorth ar gyfer ADCDF mewn Gwaith Ieuenctid
Gyda chymorth ariannol Panel ADCDF Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae Cyfanfyd wedi bod yn gweithio gyda chydweithiwyr o CWVYS a Chyfnewid UNA i ddatblygu Pecyn Cymorth ar gyfer Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang mewn Gwaith Ieuenctid.
Mae Dealltwriaeth Gyffredin o ADCDF mewn Gwaith Ieuenctid, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2008, yn ystyried ‘beth’ a ‘pham’, ond bydd y Pecyn Cymorth yn ystyried ‘sut i ymgorffori ADCDF mewn gwaith ieuenctid’ – gyda syniadau ymarferol ac enghreifftiau o ADCDF yn cael ei harfer. Dylai’r Pecyn Cymorth fod ar gael o ddiwedd haf / dechrau hydref 2009 ymlaen.