Ein Rhaglenni

Aros Gwybodus

E-fwletin


E-Rwydwaith Gwaith Ieuenctid Byd-eang

Mae Prosiect Gwaith Ieuenctid Byd-eang Cyfanfyd hefyd yn cydlynu E-Rwydwaith Gwaith Ieuenctid Byd-eang.

Pwrpas yr E-Rwydwaith yw eich hysbysu am unrhyw ddatblygiadau newydd, adnoddau, cyrsiau hyfforddi, digwyddiadau a chyfleoedd ariannu o fewn maes Gwaith Ieuenctid Byd-eang yng Nghymru. Newyddion diweddaraf.

Mae'r E-Rwydwaith yn rwydwaith ledled Cymru, sy'n rhoi cyfle i chi anfon gwybodaeth at y prosiect a fydd wedyn yn cael ei chynnwys mewn e-lythyrau.

Os hoffech gael eich cynnwys yn y Rhwydwaith, yna llenwch y ffurflen gofrestru isod. Mae cofrestru yn rhad ac am ddim, a chewch adael y Rhwydwaith os credwch nad yw'r wybodaeth a anfonir atoch yn berthnasol.

Ffurflen Aelodaeth Rhwydwaith Gwaith Ieuenctid Byd-eang: E-bostiwch Swyddog Datblygu Gwaith Ieuenctid Byd-eang, Sophie Cooper - sophie@cyfanfyd.org.uk.

Noder: Mae cofrestru ar gyfer Rhwydwaith Gwaith Ieuenctid Byd-eang ar wahan i fod yn aelod o Cyfanfyd. I ymaelodi, ewch i'r Hafan ble y cewch hyd i ffurflen aelodaeth wahanol a'r manylion.