Gwaith Ieuenctid Byd-eang
Nod prosiect gwaith ieuenctid byd-eang Cyfanfyd yw sicrhau bod addysg dinasyddiaeth fyd-eang a datblygu cynaliadwy’n rhan annatod o ddarpariaeth gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae Cyfanfyd yn cydweithio’n agos â phartneriaid megis Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS) a’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) i hyrwyddo gwaith ieuenctid byd-eang neu ADCDF mewn gwaith ieuenctid.
Rydym yn rhoi cymorth a chyngor arbenigol i asiantaethau sy’n bartneriaid er mwyn iddynt allu datblygu mentrau gwaith ieuenctid byd-eang. Rydym hefyd yn datblygu ac yn rhedeg cyrsiau hyfforddi mewn gwaith ieuenctid byd-eang ar gyfer ymarferwyr a hyfforddwyr ledled Cymru. Rydym yn eirioli ar ran ymarferwyr gwaith ieuenctid byd-eang, ac yn lobïo am adnoddau a chymorth ymhlith penderfynwyr.
![]()
E-Rwydwaith Gwaith Ieuenctid Byd-eang
Mae Cyfanfyd yn cydlynu E-Rwydwaith Gwaith Ieuenctid Byd-eang i Gymru sydd ar hyn o bryd â 300 o aelodau o’r sectorau gwaith ieuenctid statudol a gwirfoddol ledled Cymru. Mae’r E-Newyddion yn fwletin rheolaidd sy’n rhoi gwybodaeth am hyfforddiant, digwyddiadau, adnoddau, syniadau am weithgareddau, cyfleoedd cyllido a rhannu arfer da ac mae ar gael i holl aelodau’r Rhwydwaith Gwaith Ieuenctid Byd-eang.
I ymuno â’r Rhwydwaith cysylltwch â sophie@cyfanfyd.org.uk.
Gweld yr E-Newyddion diweddaraf
![]()
Gwaith Ieuenctid Byd-eang – Canllawiau Arfer Da i Gymru
Nod y canllawiau hyn yw rhoi esboniad clir o’r hyn y mae gwaith ieuenctid byd-eang yn ei olygu a sut y mae’n cydblethu â gwaith ieuenctid prif ffrwd yng Nghymru. Mae’r Canllawiau hefyd wedi’u bwriadu i ysbrydoli ac ysgogi darllenwyr trwy roi enghreifftiau o’r hyn sydd eisoes yn digwydd ledled Cymru, ac mae’n amcanu at ddatblygu hyder darllenwyr naill ai i ddechrau datblygu’u harfer hwy’u hunain mewn gwaith ieuenctid byd-eang neu i ddatblygu’r arfer hwn ymhellach.
Mae’r Canllawiau hyn ar gael i’w lawrlwytho. Lawrlwytho pdf (644kb).