GCE: y camau nesaf...

Diolch yn fawr i’r rheiny ohonoch a ymatebodd i’n hadolygiad dros yr haf. Rydym wedi gwrando ar sylwadau ac adborth pob un ohonoch ac rydym bellach wedi llunio ein cynigion newydd.

Dyma eich cyfle chi i ddweud a ydym wedi cael hwyl arni!

Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gennych os oes gennych unrhyw sylwadau o ran sut y gallem wella’r trefniadau cyfathrebu o fewn y rhwydweithiau/fforymau rhanbarthol a rhyngddynt.
A ydych chi’n gwneud rhywbeth sy’n gweithio’n dda iawn?

GOLWG AR: Gastell-nedd a Phort Talbot

Rwandan Theatre GroupDechrau pryfoclyd i dymor yr hydref ar gyfer pobl ifanc yng Nghastell-nedd a Phort Talbot. Daethpwyd â hanesion am ddioddefwyr hil-laddiad yn Affrica’n fyw trwy gerddoriaeth a dawns gan gynrychiolaeth o bobl ifanc o Rwanda. Perfformiwyd Africa’s Hope gan Grwp Theatr Ieuenctid Mashirika, a chafodd disgyblion gyfle hefyd i ymuno ag aelodau o’r grwp ieuenctid mewn gweithdai i ddatblygu prosiectau a meithrin cysylltiadau. Roedd hwn yn rhan o gyfres o weithgareddau sy’n cael eu cynnal i ddathlu amrywiaeth diwylliannol yng Nghastell-nedd a Phort Talbot.
Mwy o wybodaeth (datganiad i’r wasg)
Mwy o luniau

Crynodeb Fesul Rhanbarth or Cynlluniau ar gyfer 08-09

Y Gogledd Ddwyrain
Ffocws uwchradd: cylchoedd ansawdd (pob un or 3 awdurdod), grantiau i ddatblygur cwricwlwm, diwrnod lledaenu. Cynhadledd i bobl ifanc, syn gysylltiedig digwyddiad hyfforddi ar wahn i weithwyr ieuenctid a gweithwyr cymunedol. Digwyddiad arddangos ADCDF (cynradd) - cyfeirlyfr o fudiadau/sefydliadau a gwasanaethau yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru.

Caerdydd
Grantiau i ysgolion, diwrnodau a drefnir gan UWIC i athrawon dan hyfforddiant (cynradd ac uwchradd), blychau adnoddau uwchradd, prosiect peilot posib a fydd yn gweithio gydag ysgolion a disgyblion i ganfod ffyrdd o wneud eu hadeiladaun fwy cynaliadwy. (Groundwork, eco-sgolion, a Chyngor Sir Caerdydd).

Y Gogledd Orllewin
Cynhadledd gynradd ac uwchradd yn canolbwyntio ar y ddealltwriaeth gyffredin. Parhau i ledaenu a datblygu prosiect cyfnod sylfaen y llynedd. Cysylltu adnoddau cynradd r Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu. Cylchlythyr yr Haf

De Ddwyrain Cymru
Cynhadledd i gydlynwyr ADCDF syn canolbwyntio ar y Ddealltwriaeth Gyffredin. Prosiect D+Th CA3 (CPCC), gweithgor athrawon: sefydlu ADCDF; prosiect adnoddau (rhan 2)

Ceredigion/Sir Gr/Sir Benfro
Prosiect ar y cyd chwmni Theatr y Byd Bach (y newid yn yr hinsawdd), Datblygiad Proffesiynol Parhaus cynradd ac uwchradd, grantiau i ysgolion, gweithgorau athrawon: ADCDF yn y Cyfnod Sylfaen, ADCDF ar cwricwlwm Daearyddiaeth. Grantiau i ysgolion.

Castell-nedd a Phort Talbot
Cyfres o weithgareddau dan arweiniad y disgyblion yn bennaf, a fydd yn cynnwys ysgolion, cymunedau lleol ac arweinwyr dinesig dros gyfnod o bythefnos. Hefyd, bydd grp theatr ieuenctid o Rwanda yn cymryd rhan ac yn gweithio gydafr bobl ifanc. Cyfeiriadur o arfer effeithiol a chymorth ar gyfer ADCDF.

Abertawe
Cynhadledd yn canolbwyntio ar y ddealltwriaeth gyffredin.
Prosiect ymgysylltu ag ysgolion uwchradd a digwyddiad
dilynol (pob ysgol uwchradd).

Bro Morgannwg
Cyfarfodydd clwstwr (ffocws: y ddealltwriaeth gyffredin), pecyn cychwynnol ar gyfer ADCDF (cynhyrchwyd yng Nghaerdydd, 07-08). Grantiau i ysgolion a diwrnod lledaenu dilynol. Diwrnod lleoliad uwchradd (posibilrwydd o weithio ar y cyd Chaerdydd).

Morgannwg Ganol
Parhau r prosiect P4C, cydlynur strategaeth ADCDF ar draws y 4 awdurdod, grantiau i ysgolion/cynghorau ysgolion. Map ADCDF. Cwblhaur prosiect adnoddau.

Powys
Digwyddiad pontio (CA2-3) i ddisgyblion a digwyddiad dilynol (fforwm athrawon/cylch ansawdd gyda chymorth mentor). Prosiectau ariannu ar y cyd (gwyddoniaeth a sgiliau meddwl uwchradd). Cylchlythyr yr Haf

© Cyfanfyd 2006 / Rhif elusen gofrestredig 1092141

Y Deml Heddwch, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3AP
Ffôn -029 2066 8999 Ffacs - 029 2064 0333

 


English

Calendr

TYMOR Y HYDREF

22ain Medi - 4ydd Hyd
CPhT 'Hunaniaeth a Diwylliant' - digwyddiadau a gweithgareddau

Tach
Cynhadledd yn Abertawe’n canolbwyntio ar y ddealltwriaeth gyffredin

Tach
Cynhadledd ac arddangosfa yng ngogledd orllewin Cymru i
ddarparwyr lleol

6ed Rhag
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau ar y ddogfen ymgynghori

TYMOR Y GWANWYN

8fed Ion
Powys ‘Actions speak louder than words’ a rally for students and teachers of ESDGC

Ion/Chwe
Digwyddiadau gan UWIC yng Nghaerdydd

27ain Chwe
Dyddiad cau ar gyfer adroddiadau diwedd blwyddyn

31ain Mawrth
Diwedd y cam hwn o GCE!

Adnoddau

Newydd Adnoddau ADCDF
"Defnyddio Dull Beirniadol" - papur cyfeirio ar y cyd rhwng GCE a Cyfanfyd. Mae’r ddogfen yn cynnwys rhestr o gwestiynau allweddol i’w hystyried wrth ddewis adnoddau i’w defnyddio a chrynodeb o’r gwahanol ddulliau a ddefnyddir gan y fforymau GCE. Download pdf.

Newydd Micro-wefan GCaD Cymru ar gyfer athrawon. Mae llawer o wybodaeth i roi cymorth gydag ADCDF – llyfrgell dogfennau, astudiaethau achos, a llawer iawn mwy.
www.ngfl-cymru.org.uk/cym/esdgc

 

Storfa Ddogfennau

Cylch Gorchwyl GCE

Grantiau I Ysgolion

Dealltwriaeth Gyffredin ar gyfer ADCDF - Adroddiad

Llywodraeth Cynulliad Cymru: ADCDF - Strategaeth
ar gyfer Gweithredu Diweddariadau Ionawr 08
;
Posteri: Mannau cychwyn ar gyfer ADCDF

Information for teacher trainees and new teachers in Wales (English only)

EES Newiddion Hydref 2007

EES Newiddion Haf 2008