Ein Rhaglenni

Aros Gwybodus

E-fwletin


Croeso i Cyfanfyd

training workshopMae Cyfanfyd yn sefydliad aelodaeth cenedlaethol sy'n gweithio i hyrwyddo addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-ean (ADCDF) yng Nghymru. Rydym yn rhoi cymorth i fudiadau a sefydliadau ym mhob maes o fewn y byd addysg i gynnwys agwedd fyd-eang yn eu gwaith.

Ein hamcan yw creu Cymru hyderus ac eang ei gorwelion y mae pawb sy'n byw ynddi'n deall eu hawliau a'u cyfrifoldebau fel dinasyddion byd-eang.

Mae Cyfanfyd yn weithredol ym meysydd gwaith ieuenctid, dysgu gydol oes ac addysg ffurfiol mewn ysgolion.

Mae Cyfanfyd hefyd yn gweithredu fel carfan bwyso gynrychiolaidd er mwyn sicrhau bod dysgu byd-eang yn parhau i fod yn flaenoriaeth gan sefydliadau llywodraethol yng Nghymru.

Mae aelodaeth o Cyfanfyd yn agored i bob mudiad, sefydliad ac unigolyn sydd â diddordeb mewn addysg dinasyddiaeth fyd-eang.

Y Newyddion Diweddaraf

Dyddiad: 23ydd – 25ed o Tachwedd

Lleoliad: Canolfan Gynadledda Broneirion, Llandinam – Powys

Mae 'ADCDF – Strategaeth ar gyfer Gweithredu' Llywodraeth Cynulliad Cymru yn adnabod yr angen am barhad datblygiad proffesiynol ac hyfforddiant ar gyfer hyfforddwyr/tiwtoriaid mewn ADCDF. Darllen mwy...

Edrych i'r Dyfodol: Fforwm Blynyddol Cyfanfyd

Ddiwrnod ar ôl i’r llywodraeth glymblaid newydd gyhoeddi’i thoriadau cyllidebol cyntaf – gan DFID mewn perthynas â phrosiectau ymwybyddiaeth o ddatblygu – roedd yr awyrgylch yn Fforwm Blynyddol Cyfanfyd yn adlewyrchu pryder a pheth ofn o ran yr hyn sy’n ein haros. Roedd y diwrnod wedi cael ei gynllunio gan roi ffocws clir ar ddyfodol ADCDF/ addysg datblygu yng Nghymru a’r DU ond bu i’r newyddion bod 5 o brosiectau ymwybyddiaeth o ddatblygu wedi cael eu dileu a bod y Gronfa Ymgysylltu â Datblygu Byd-eang wedi cael ei hatal daflu cysgod amheuaeth dros unrhyw weithgarwch yn y dyfodol. Roedd cynrychiolwyr mudiadau a sefydliadau yn y sector dysgu ffurfiol ac anffurfiol a’r sector gwirfoddol wedi dod ynghyd yn yr Eglwys Norwyaidd yng Nghaerdydd i glywed safbwyntiau siaradwyr gwadd am ddatblygiadau. Darllen mwy...

Newyddion Eraill...