|
Y Newyddion Diweddaraf:
ADCDF mewn Ysgolion - A Arfer Da yng Nghymru.
Rhagor o wybodaeth.
yn sefydliad aelodaeth cenedlaethol
sy'n gweithio i hyrwyddo addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth
fyd-eang (ADCDF) yng Nghymru. Rydym yn rhoi cymorth i fudiadau a
sefydliadau ym mhob maes o fewn y byd addysg i gynnwys agwedd fyd-eang
yn eu gwaith.
Ein hamcan yw creu Cymru hyderus
ac eang ei gorwelion y mae pawb sy'n byw ynddi'n deall eu hawliau
a'u cyfrifoldebau fel dinasyddion byd-eang.
yn weithredol ym meysydd gwaith ieuenctid, dysgu
gydol oes ac addysg ffurfiol mewn ysgolion. Rydym yn darparu amrediad
o wasanaethau cymorth ar gyfer ein haelodau gan gynnwys:
 |
Gwybodaeth am y datblygiadau
diweddaraf ym maes addysg dinasyddiaeth fyd-eang |
 |
Adnoddau ar
gyfer ysgolion ac amgylcheddau dysgu eraill |
 |
Digwyddiadau i hwyluso
rhyngweithio rhwng cyrff o'r un anian |
 |
Hyfforddiant a chymorth
arbenigol gan ein tîm o ymgynghorwyr arbenigol |
Mae Cyfanfyd hefyd yn gweithredu
fel carfan bwyso gynrychiolaidd er mwyn sicrhau bod dysgu byd-eang
yn parhau i fod yn flaenoriaeth gan sefydliadau llywodraethol yng
Nghymru.
Mae aelodaeth o Cyfanfyd yn agored
i bob mudiad, sefydliad ac unigolyn sydd â diddordeb mewn addysg
dinasyddiaeth fyd-eang.

© Cyfanfyd 2006 / Rhif elusen
gofrestredig 1092141
Y Deml Heddwch, Parc Cathays,
Caerdydd, CF10 3AP
Ffôn -029 2066 8999 Ffacs - 029 2064 0333
|

Addysg Mewn Ysgolion
Mae gwaith Cyfanfyd yn y sector ffurfiol yn seiliedig ar gynllun
gwaith, y cytunwyd arno ar y cyd â'r DfID a Llywodraeth Cynulliad
Cymru
Gwaith Ieuenctid Byd-eang
Amrediad o wasanaethau cymorth a hyfforddiant i weithwyr ieuenctid
yng Nghymru i'w cynorthwyo i gynnwys safbwynt byd-eang yn eu gwaith.
Dysgu Gydol Oes
Helpu pobl o bob oed i gael dealltwriaeth well o safbwyntiau byd-eang.
Staff Cyfanfyd
Ffurflen
Aelodaeth
|