From: Mark Alaszewski [mark@cyfanfyd.org.uk]
Sent: 16 September 2005 15:48
Subject: E-fwletin Cyfanfyd Medi 2005

 

E-fwletin Cyfanfyd Medi 2005

 

1.         Cyflwyniad

2.         Newyddion o Fyd Addysg

3.         Newyddion Gwaith Ieuenctid Byd-eang

4.         Newyddion Dysgu Gydol Oes

5.         Digwyddiadau

6.         Cyfleoedd ar gyfer Nawdd

7.         Cyfleoedd Gwaith

 

1.     Cyflwyniad

 

Annwyl Aelod o Cyfanfyd,

 

Croeso i e-fwletin Cyfanfyd ar gyfer mis Medi. Mae cynnwys y rhifyn hwn yn berthnasol iawn ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd, gan fod adnoddau newydd ar gyfer ysgolion wedi’u cyhoeddi gan Oxfam, y Gymdeithas Addysg Datblygu a CEWC-Cymru. Efallai y bydd aelodau o Cyfanfyd hefyd am fwrw golwg ar fanylion cynllun Grantiau Bychain DFID eleni, sydd wedi’u cynnwys dan eitem 6.

 

Bydd e-fwletin nesaf Cyfanfyd yn cael ei gyhoeddi ganol mis Hydref. Croesewir unrhyw gynnwys gan aelodau Cyfanfyd a dylid eu hanfon i mark@cyfanfyd.org.uk. Y dyddiad cau ar gyfer cyfraniadau yw dydd Gwener 14eg Hydref.

 

Cofion gorau,

Mark Alaszewski.

 

 

2.     Newyddion o Fyd Addysg

 

2.1       Oxfam yn Ailwampio’r Safle ‘Cool Planet’

 

Dyma gyflwyno gwefan ar ei newydd wedd ar gyfer y tymor ysgol newydd...mae’r wefan ‘Cook Planet’ gan Oxfam wedi cael ei hailwampio. Mae safwe Oxfam ar gyfer athrawon a phlant yn awr yn haws o lawer i’w ddefnyddio ac mae’n edrych yn wych ar ei newydd wedd.

 

Mae’r cynnwys rhad ac am ddim, megis cynlluniau gwersi, astudiaethau achos a syniadau ar gyfer addysgu yn haws dod o hyd iddynt, a phob wythnos bwriedir tynnu sylw at ran wahanol o’r safle i helpu defnyddwyr i ymdrin â materion sydd yn y newyddion. Gall defnyddwyr gael mynediad at adnoddau Cymraeg rhad ac am ddim o’r dudalen gartref.

 

Mae Oxfam hefyd wedi diweddaru’r adran Rhown Derfyn Ar Dlodi er mwyn cynnwys gwybodaeth am yr hyn a ddigwyddodd yn Uwchgynhadledd y G8, enghreifftiau o sut y bu i ysgolion gymryd rhan mewn gweithgareddau lapio mewn band gwyn, a syniadau ar gyfer cymryd rhan yn y Diwrnod Bandiau Gwynion  2 (http://www.oxfam.org.uk/coolplanet/teachers/mph).

 

Byddant hefyd yn diweddaru nifer o rannau o’r wefan dros y 6 mis nesaf. Gellir cael mynediad at yr holl newyddion diweddaraf gan Oxfam trwy gofrestru ar gyfer eu cylchlythyr tymhorol.

 

Ewch i: http://www.oxfam.org.uk/coolplanet

 

2.2       Grŵp Ffocws Amnest Rhyngwladol ar gyfer Athrawon

 

Mae Amnest Rhyngwladol Cymru’n cynnal grŵp ffocws ar gyfer athrawon a phobl eraill sy’n gweithio ym myd addysg ar ddydd Iau 22ain Hydref ar ôl oriau swyddfa. Amcan y sesiwn yw helpu Amnest i benderfynu sut a ble y gall gael yr effaith fwyaf ar ran Addysg Iawnderau Dynol a rhoi golwg gyffredinol ar waith ym maes Addysg Iawnderau Dynol yn y DU. Bydd y lleoliad yn cael ei bennu yn ôl y pellter y bydd yn rhaid i gyfranogwyr deithio.

Mae Amnest yn ymrwymedig i roi cymorth i athrawon gyflwyno iawnderau dynol yn yr ystafell ddosbarth ac mae wedi sefydlu rhwydwaith, ‘Teach Rights’, i athrawon ddysgu gan ei gilydd a chael syniadau defnyddiol a gwybodaeth ddefnyddiol am weithgareddau ac adnoddau ym maes iawnderau dynol.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mynychu’r grŵp ffocws neu ymuno â ‘Teach Rights’ gysylltu ag Eleanor White ar 029 2037 5610 eleanor.white@amnesty.org.uk  

 

2.3       Gwefan ‘Global Dimension’ y DEA

 

Mae’r wefan ‘Global Dimension’ wedi cael ei chreu gan y Gymdeithas Addysg Datblygu fel gwefan sydd wedi’i neilltuo’n benodol i gadw gwybodaeth gan y DEA sy’n berthnasol i ysgolion. Mae’r safwe’n adlewyrchu perthnasedd y dimensiwn byd-eang i bob maes o fewn y cwricwlwm ac yn cynnwys saith adran fel a ganlyn:

Introduction

What is the global dimension?

Educational context

Subject guide

Whole school

Evaluation and audit

Useful contacts

 

Mae’r wefan yn cynnwys adran sy’n ymwneud yn benodol â dinasyddiaeth fyd-eang yng Nghymru ac mae’r DEA yn awyddus i aelodau Cyfanfyd ddefnyddio’r safle a bwydo unrhyw sylwadau’n ôl i olygydd y wefan, Chris Williams yn y cyfeiriad chris.williams@dea.org.uk.

 

Gallwch gael mynediad at bob un o’r tudalennau hyn o’r adran Curriculum Info ar ochr chwith y wefan Global Dimension (www.globaldimension.org.uk), neu o’r dudalen Introduction:

 

http://www.globaldimension.org.uk/default.aspx?id=80&nav=1

 

2.4       Strategaeth ADCDF Llywodraeth Cynulliad Cymru

 

Bydd Grŵp Ymgynghorol Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cyhoeddi fersiwn ddrafft o’i strategaeth ADCDF i Gymru Gyfan gan Claire Fowler o’r RSPB, ar ei wefan www.learning.wales.gov.uk rhwng 12fed o Fedi a’r 1af o Ragfyr. Hon fydd y ddogfen strategol allweddol ar gyfer rheoli datblygiad ADCDF yng Nghymru a byddem yn argymell yn gryf bod holl aelodau Cyfanfyd yn cymryd y cyfle i gynnig adborth yn ystod y cyfnod ymgynghori.  

 

2.5       Event Review: Wales and the World, Llangollen

 

Roedd Cymru a’r Byd yn gynhadledd ddeuddydd a gynhaliwyd yn ac o amgylch Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ar y 6ed a’r 7fed o Orffennaf.  Cynlluniwyd y digwyddiad hwn mewn partneriaeth â Rhwydwaith Datblygiad Proffesiynol Rhanbarthol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (ADEW).

 

Roedd y digwyddiad wedi’i fwriadu’n bennaf i amlygu’r ystod eang o gyfleoedd rhyngwladol sydd ar gael i addysgwyr o’r sector ysgolion, y sector ieuenctid a’r sector addysg bellach. Fodd bynnag roedd hefyd yn gyfle i wneud cynnydd arwyddocaol o ran codi ymwybyddiaeth Cyfarwyddwyr ledled Cymru am fanteision y dimensiwn rhyngwladol (gan gynnwys ADC/DF). Yn unol â themâu’r Eisteddfod, roedd canolbwynt y gynhadledd ar ysgolion ar y dydd Mercher ac ar ieuenctid ar y dydd Iau.

 

Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys araith deimladwy gan Terry Waite ar bwysigrwydd addysgu pobl ifanc am faterion byd-eang drwy ADCDF.

 

I gael mwy o wybodaeth am Rwydwaith Datblygiad Proffesiynol Rhanbarthol Cymru a digwyddiadau Cymru a’r Byd yn y dyfodol, cysylltwch â David Phoenix o Adran Addysg Cyngor Sir Dinbych ar 01824 712013 neu trwy anfon neges e-bost i’r cyfeiriad david.phoenix@denbighshire.gov.uk.

 

 
 

 

 

 

 


2.6       Athroniaeth fel rhan o ABCh

 

Adnoddau a hyfforddiant sgiliau meddwl yng Nghyfnod Allweddol 2

 

Mae pecyn addysgu newydd CEWC-Cymru ar gyfer ysgolion cynradd, Thinking Citizens: How to Make PSE Philosophical, yn defnyddio’r dull Philosophy for Children (P4C) ar y cyd ag ABCh, i helpu plant ddatblygu’u sgiliau meddwl a gwerthoedd cymdeithasol a moesol cryf. Mae’r pecyn hwn, sydd wedi’i lungopïo’n cynnwys:

               cyflwyniad i P4C

               amrediad o weithgareddau cynhesu i gael plant i feddwl yn fwy effeithiol

               taflenni gweithgareddau sy’n ysgogi dadleuon athronyddol, cwestiynau i’w trafod ac

awgrymiadau am weithgareddau ymestynnol

 

Cost y pecyn yw £6 i ysgolion sy’n aelodau o CEWC Cymru a’r pris llawn yw £8. Awgrymir fod athrawon yn ymgymryd â rhywfaint o hyfforddiant cyn dechrau defnyddio P4C yn eu dosbarthiadau.

 

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â martinpollard@wcia.org.uk.

 

3.     Newyddion Gwaith Ieuenctid Byd-eang

 

3.1       Gwobr Rhagoriaeth mewn Gwaith Ieuenctid Byd-eang

Mae Cyfanfyd, ar y cyd â Chyngor Ieuenctid Cymru, yn cynnig gwobr Rhagoriaeth mewn Gwaith Ieuenctid Byd-eang er mwyn cydnabod arferion gorau mewn gwaith ieuenctid byd-eang. Gwahoddir ceisiadau oddi wrth fudiadau ieuenctid sydd am dynnu sylw at brosiect penodol neu ddarn o waith sy’n arddangos ymroddiad i egwyddorion ac arferion ym maes dinasyddiaeth fyd-eang. Mae gwybodaeth lawn am y broses ymgeisio ar gael gan Gyngor Ieuenctid Cymru yn www.wya.org.uk.

3.2              Cynhadledd CWVYS - ‘Creu Newid, Dileu Rhwystrau’

Mae CWVYS, Cyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru, yn cynnal cynhadledd arbennig a fydd yn archwilio’r egwyddorion a’r arferion sy’n gysylltiedig â gweithredu’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn y sector ieuenctid gwirfoddol. Bydd y digwyddiad cyffrous ac amserol hwn yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 8fed o Hydref o 10.00-4.00pm yn Ysgol a Chanolfan Adnoddau Trinity Fields yn Ystrad Mynach.

Gan mai un o nodau’r gynhadledd yw rhannu gwybodaeth a phrofiadau, mae CWVYS hefyd yn bwriadu cynnal ‘marchnadle’ amser cinio. Gall CWVYS ddarparu lle a bwrdd (y cyntaf i’r felin piau hi) ar gyfer mudiadau a sefydliadau sydd am arddangos deunydd a chymryd rhan yn y gynhadledd.

 

Cost y gynhadledd yw £20 y pen ac mae hyn yn cynnwys cinio. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Veronica Wilson yn CWVYS ar 029 20855722 neu anfonwch e-bost i cwyvs.info@wya.org.uk

 

3.3        Cynhadledd Gwaith Ieuenctid Byd-eang Genedlaethol Cyfanfyd

 

Mae dyddiad y digwyddiad hwn wedi cael ei newid yn ddiweddar i Dachwedd 16eg 2005 a bydd yn cael ei gynnal mewn lleoliad yng nghanolbarth Cymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o weithgor i gynllunio’r digwyddiad hwn byddwn yn cwrdd ar Fedi 16eg. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu cyfarfod cynllunio, cysylltwch â sophie.cooper@wya.org.uk

 

3.4       Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Hybu Arferion Da

 

Mae Cyfanfyd yn awyddus i gyhoeddi erthyglau am brosiectau sy’n dangos arferion da ym maes gwaith ieuenctid byd-eang yng Nghymru. Os hoffech chi ddathlu’r hyn yr ydych wedi’i wneud a dweud wrth eraill amdano, anfonwch ddarn ysgrifenedig yn cynnwys 200-500 o eiriau i’r cyfeiriad sophie.cooper@wya.org.uk

 

4.     Newyddion Dysgu Gydol Oes

 

4.1       Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid: Chwalu’r Myth

 

Mae Cyfanfyd, ar y cyd â Chymdeithas Addysg y Gweithwyr, De Cymru, yn mynd i fod yn cynnal diwrnod hyfforddi ar gyfer aelodau undebau llafur a thiwtoriaid addysg i oedolion er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n ymwneud â ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Amcan y diwrnod yw chwalu rhai o’r mythau amlwg sydd i’w gweld yn y cyfryngau yng nghyswllt mewnfudo a cheisio lloches a rhoi mwy o ddealltwriaeth i aelodau undebau llafur am y rhesymau y mae pobl yn dod i Gymru a’u profiadau yn y wlad hon.

 

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn y Tŷ Cludiant ar Heol y Gadeirlan, Caerdydd, ar dydd Mercher 28ain o Fedi o 9.00am – 1.00pm a bydd cinio’n cael ei ddarparu. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Helen Clancy yn helen@cyfanfyd.org.uk.

4.2       Gwobr Dysgu Byd-eang i Gymru           

Mae’n bleser gan Cyfanfyd gyhoeddi ein bod, fel rhan o bartneriaeth newydd â NIACE Cymru, yn lansio gwobr dysgu gydol oes newydd i Gymru yn 2005-06. Mae’r Wobr Dysgu Byd-eang wedi’i bwriadu i gydnabod a gwobrwyo dulliau dysgu arloesol ym maes addysg i oedolion yng Nghymru sy’n datblygu gwybodaeth, agweddau a sgiliau ar gyfer cymdeithas fyd-eang. I gael mwy o wybodaeth a manylion y broses ymgeisio ewch i wefan Cyfanfyd neu cysylltwch â  Helen Clancy helen@cyfanfyd.org.uk

5.     Digwyddiadau

5.1       Seminarau Hyfforddi Grantiau Bychain Cyfanfyd

 

Unwaith eto mae Cyfanfyd yn cynnal sesiynau hyfforddi ar gyfer mudiadau a sefydliadau sydd â diddordeb ymgeisio am Grant Bychain o Gronfa Ymwybyddiaeth o Ddatblygu DFID (gweler 6.1). Mae’r dyddiadau a’r lleoliadau fel a ganlyn:

-Dydd Mercher 21ain o Fedi (Penfro)

-Dydd Iau 22ain o Fedi (Caerdydd)

-Dydd Mawrth 27ain o Fedi (Abertawe)

-Dydd Iau 29ain o Fedi (Llanidloes)

 

I gael mwy o wybodaeth a manylion y drefn archebu lle, ewch i wefan Cyfanfyd www.cyfanfyd.org.uk/events

 

6.     Cyfleoedd ar gyfer Nawdd

 

6.1              Grantiau Bychain Cronfa Ymwybyddiaeth o Ddatblygu DFID 2006/07

 

Mae’n bleser gan Cyfanfyd gyhoeddi ein bod wedi cael ein dewis unwaith eto fel partner dyfarnu ar gyfer cynllun Grantiau Bychain Cronfa Ymwybyddiaeth o Ddatblygu DFID yn ystod 2005/06. Gall y cynllun ddyfarnu grantiau o hyd at £10,000 y flwyddyn am uchafswm o 3 blynedd i brosiectau sy’n creu gwell ymwybyddiaeth o faterion byd-eang yn unrhyw faes o fewn y byd addysg. 

 

Mae gwybodaeth lawn am y broses ymgeisio ar gael ar wefan Cyfanfyd ar http://www.cyfanfyd.org.uk/mini-grants.htm neu i gael copi caled cysylltwch â Mark Alaszewski ar 02920-668999.

 

7.     Cyfleoedd Gwaith

 

7.1              Oes gennych chi ddiddordeb?

 

Mae Cyfanfyd yn chwilio am unrhyw unigolion a mudiadau neu sefydliadau sydd â diddordeb mewn ymgymryd â’r gwaith canlynol:

o                    Arolwg o fentrau i greu cysylltiadau rhwng ysgolion

o                    Arolwg o Gyrff Anllywodraethol sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer ysgolion yng Nghymru

 

Cysylltwch â swyddfa Cyfanfyd i gael mwy o fanylion.